{"id":5277,"date":"2017-09-29T18:18:45","date_gmt":"2017-09-29T18:18:45","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=5277"},"modified":"2017-09-30T18:37:27","modified_gmt":"2017-09-30T18:37:27","slug":"peter-y-cigydd-o-fri-yn-gobeithio-ennill-gwobr-arall","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/peter-y-cigydd-o-fri-yn-gobeithio-ennill-gwobr-arall\/","title":{"rendered":"Peter, y cigydd o fri, yn gobeithio ennill gwobr arall"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/champion-butcher-peter-has-sights-on-another-award\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/peter-y-cigydd-o-fri-yn-gobeithio-ennill-gwobr-arall\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_9424\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignright\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2017\/09\/Peter-Rushford-e1506795974465.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-9424\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2017\/09\/Peter-Rushford-e1506795974465.jpg\" alt=\"Peter Rushforth \u2013 apprenticeship has opened doors for him.\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-9424\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-9424\" class=\"wp-caption-text\">Peter Rushforth \u2013 mae prentisiaethau wedi agor drysau iddo.<\/p><\/div>\n<p>Dydi Peter Rushforth ddim wedi edrych yn \u00f4l ers iddo ddewis dilyn prentisiaeth mewn cigyddiaeth yn lle mynd i\u2019r brifysgol.<\/p>\n<p>Y llynedd, enillodd Peter, 22 oed o Goed-llai, fedal aur WorldSkills UK am gigyddiaeth a theitl Cigydd Ifanc y Flwyddyn gan y Meat Trades Journal. Bu hefyd yn cynrychioli\u2019r Deyrnas Unedig mewn Cystadleuaeth Ewropeaidd i Gigyddion Ifanc a daeth yn agos at y brig yng ngornest Premier Young Butchers. <\/p>\n<p>Bu\u2019n Gigydd Ifanc Cymru hefyd ac, eleni, cafodd ysgoloriaeth gan Hybu Cig Cymru i astudio chwarter blaen cig eidion a chynhyrchion cysylltiedig yn yr Unol Daleithiau a dewiswyd ef yn Brentis Uwch y Flwyddyn gan ei ddarparwr hyfforddiant, Cwmni Hyfforddiant Cambrian.<\/p>\n<p>Yn awr, mae wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr Prentis Uwch y Flwyddyn yn seremoni fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru a gynhelir yn y Celtic Manor, Casnewydd ar Hydref 20.<\/p>\n<p>Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe\u2019u noddir gan Pearson PLC a\u2019u cefnogi gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau.<\/p>\n<p>Mae 30 o ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi serennu mewn nifer o raglenni sgiliau llwyddiannus ledled Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop. <\/p>\n<p>Mae\u2019r gwobrau\u2019n arddangos ac yn dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.<\/p>\n<p>Dechreuodd Peter weithio yn Siop Fferm Swans yn Nhreuddyn, ger yr Wyddgrug, ar benwythnosau pan oedd yn 15 oed a neidiodd at y cyfle i ddilyn prentisiaeth yno pan adawodd yr ysgol gyda naw TGAU a thair Lefel A. <\/p>\n<p>Symudodd ymlaen o Brentisiaeth Sylfaen yn Sgiliau&#8217;r Diwydiant Cig a Dofednod i Brentisiaeth Uwch mewn Rhagoriaeth Gweithgynhyrchu ac mae wedi cwblhau honno eleni.<\/p>\n<p>Mae galw mawr am Peter i roi arddangosiadau cigydda ym Mhrydain a thramor a dywedodd: \u201cMae\u2019r Brentisiaeth Uwch wedi bod o help mawr i mi ddeall llawer mwy am y busnes. .<\/p>\n<p>\u201cMae fy mhrentisiaethau wedi agor drysau ar lawer o gyfleoedd, fel cystadlaethau. Mae fy sgiliau wedi cynyddu\u2019n aruthrol ac maen nhw wedi fy ysgogi i ddysgu rhagor o sgiliau er mwyn rhagori.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Clive Swan, perchennog Siop Fferm Swans: \u201cMae Peter yn ymgorffori popeth y mae\u2019r Rhaglen Brentisiaethau\u2019n sefyll drosto.\u201d<\/p>\n<p> Wrth ganmol safon uchel yr ymgeiswyr eleni a llongyfarch Peter ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: \u201cMae\u2019r rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni yn cynnwys unigolion eithriadol sydd wedi rhagori yn eu gweithle, a darparwyr dysgu a chyflogwyr sydd wedi mynd yr ail filltir i gefnogi\u2019r prentisiaid sy\u2019n gweithio gyda nhw. Mae eu straeon bob amser yn rhyfeddol ac yn ysbrydoliaeth.<\/p>\n<p>\u201cMae prentisiaethau a hyfforddiant sgiliau galwedigaethol yn rhan hanfodol o lwyddiant economaidd ac yn anhepgor er mwyn adeiladu Cymru sy\u2019n gryfach, yn decach ac y fwy cyfartal. <\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r gwobrau hyn yn llwyfan delfrydol ar gyfer dathlu llwyddiant a gwobrwyo gwaith caled ac ymroddiad dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant ledled Cymru. Dymuniadau gorau i bawb ar y noson.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Dydi Peter Rushforth ddim wedi edrych yn \u00f4l ers iddo ddewis dilyn prentisiaeth mewn cigyddiaeth yn lle mynd i\u2019r brifysgol. Y llynedd, enillodd Peter, 22 oed o Goed-llai, fedal aur WorldSkills UK am gigyddiaeth a theitl Cigydd &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/peter-y-cigydd-o-fri-yn-gobeithio-ennill-gwobr-arall\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-5277","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5277","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5277"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5277\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5277"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5277"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5277"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}