{"id":5282,"date":"2017-09-29T18:38:15","date_gmt":"2017-09-29T18:38:15","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=5282"},"modified":"2017-09-30T18:53:54","modified_gmt":"2017-09-30T18:53:54","slug":"emmar-asesydd-yn-trin-pob-dysgwr-fel-unigolyn","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/emmar-asesydd-yn-trin-pob-dysgwr-fel-unigolyn\/","title":{"rendered":"Emma\u2019r asesydd yn trin pob dysgwr fel unigolyn"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/finalist-emma-treats-every-learner-as-an-individual\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/emmar-asesydd-yn-trin-pob-dysgwr-fel-unigolyn\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_9430\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignright\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2017\/09\/13.09.17-mh-Emma-Huggins-App-awards-3-e1506797524933.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-9430\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2017\/09\/13.09.17-mh-Emma-Huggins-App-awards-3-e1506797524933.jpg\" alt=\"Emma Huggins, former apprentice now training apprentices.\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-9430\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-9430\" class=\"wp-caption-text\">Emma Huggins, a fu\u2019n brentis ac sy\u2019n hyfforddi prentisiaid erbyn hyn.<\/p><\/div>\n<p>A hithau wedi bod yn brentis ei hunan, mae Emma Huggins yn gwybod sut mae\u2019r dysgwyr ifanc mae\u2019n gofalu amdanynt yn teimlo. Mae Emma\u2019n asesydd yn adran Gwasanaethau Busnes ACT Training yng Nghaerdydd ac mae\u2019n gofalu am 40 o Brentisiaid Sylfaen ym maes Gweinyddu Busnes, Gwasanaethau Cwsmeriaid a Manwerthu, llawer ohonynt ar eu cyfnod prawf.<\/p>\n<p>Mae Emma\u2019n deall pwysigrwydd trin pob dysgwr fel unigolyn, gwybod sut maent yn meddwl ac a oes unrhyw rwystrau yn eu ffordd wrth ddysgu.<\/p>\n<p>Erbyn hyn, mae wedi\u2019i chydnabod yn un o s\u00ear Cymru ym maes dysgu seiliedig ar waith trwy gyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni. Bydd yn cystadlu i fod yn Asesydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith yn y seremoni wobrwyo fawreddog yn y Celtic Manor, Casnewydd ar 20 Hydref.<\/p>\n<p>Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe\u2019u noddir gan Pearson PLC a\u2019u cefnogi gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau.<\/p>\n<p>Mae 30 o ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi serennu mewn nifer o raglenni sgiliau llwyddiannus ledled Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop. <\/p>\n<p>Mae\u2019r gwobrau\u2019n arddangos ac yn dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.<\/p>\n<p>Mae Emma\u2019n credu\u2019n gryf mewn rhwydweithio ac mae wedi meithrin cysylltiadau gwych gyda chyflogwyr lleol, yn enwedig Cyngor Dinas Casnewydd lle mae\u2019n goruchwylio 10 o brentisiaid. Bu hyn yn brofiad cadarnhaol iawn sy\u2019n golygu bod nifer o\u2019r prentisiaid yn gobeithio cael contractau parhaol a bod y cyngor yn ystyried cymryd rhagor o brentisiaid. <\/p>\n<p>Dywedodd Gareth Jones, un o brentisiaid llwyddiannus Emma: \u201cMae Emma wedi bod yn fentor ardderchog ac mae wedi fy helpu i gredu ynof fi fy hunan eto. Mae\u2019n mynd yr ail filltir wrth ein cefnogi.\u201d<br \/>\nDywedodd Emma, sy\u2019n byw yn y Rhws: \u201cRwy\u2019n gwneud fy ngorau glas er budd fy nysgwyr, eu lles a\u2019u dyfodol. Rwy wedi buddsoddi llawer o egni mewn bod yn hyfforddwr \u2013 cwblhau fy nghymhwyster Hyfforddi, Asesu a Sicrwydd Ansawdd, dysgu&#8217;r safonau a sicrhau fy mod ar gael ddydd a nos i gefnogi fy nysgwyr.\u201d<\/p>\n<p>Wrth ganmol safon uchel yr ymgeiswyr eleni a llongyfarch Emma ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: \u201cMae\u2019r rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni yn cynnwys unigolion eithriadol sydd wedi rhagori yn eu gweithle, a darparwyr dysgu a chyflogwyr sydd wedi mynd yr ail filltir i gefnogi\u2019r prentisiaid sy\u2019n gweithio gyda nhw. Mae eu straeon bob amser yn rhyfeddol ac yn ysbrydoliaeth.<\/p>\n<p>\u201cMae prentisiaethau a hyfforddiant sgiliau galwedigaethol yn rhan hanfodol o lwyddiant economaidd ac yn anhepgor er mwyn adeiladu Cymru sy\u2019n gryfach, yn decach ac y fwy cyfartal. <\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r gwobrau hyn yn llwyfan delfrydol ar gyfer dathlu llwyddiant a gwobrwyo gwaith caled ac ymroddiad dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant ledled Cymru. Dymuniadau gorau i bawb ar y noson.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg A hithau wedi bod yn brentis ei hunan, mae Emma Huggins yn gwybod sut mae\u2019r dysgwyr ifanc mae\u2019n gofalu amdanynt yn teimlo. Mae Emma\u2019n asesydd yn adran Gwasanaethau Busnes ACT Training yng Nghaerdydd ac mae\u2019n gofalu am &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/emmar-asesydd-yn-trin-pob-dysgwr-fel-unigolyn\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-5282","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5282","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5282"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5282\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5282"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5282"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5282"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}