{"id":5319,"date":"2017-10-11T09:14:33","date_gmt":"2017-10-11T09:14:33","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=5319"},"modified":"2017-10-11T11:14:59","modified_gmt":"2017-10-11T11:14:59","slug":"emilyn-benderfynol-o-fod-yn-nyrs-feithrin","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/emilyn-benderfynol-o-fod-yn-nyrs-feithrin\/","title":{"rendered":"Emily\u2019n benderfynol o fod yn nyrs feithrin"},"content":{"rendered":"<div id=\"attachment_9525\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignright\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/22.08.17-mh-Learner-Emily-Wintle-26-e1507712568258.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-9525\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/22.08.17-mh-Learner-Emily-Wintle-26-e1507712568258.jpg\" alt=\"Emily Wintle with Abigail Barber, two, and William Jones, four, at St Aubin Nursery, Cowbridge.\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-9525\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-9525\" class=\"wp-caption-text\">Emily Wintle gydag Abigail Barber, dwy, a William Jones, pedair, ym meithrinfa St Aubin, y Bont-faen.<\/p><\/div>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/resilient-emily-aiming-to-become-a-nursery-nurse\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/emilyn-benderfynol-o-fod-yn-nyrs-feithrin\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae Emily Wintle yn ferch ifanc benderfynol iawn sydd wedi goresgyn nifer o anawsterau ar y ffordd i ddod yn aelod gwerthfawr o staff meithrinfa St Aubin, y Bont-faen. <\/p>\n<p>Diolch i waith caled Emily a chefnogaeth ACT Training, Pen-y-bont, llwyddodd i gwblhau ei Hyfforddeiaeth Lefel 1 mewn Gofal Plant mewn dim ond tri mis, gyda\u2019r hyfforddwr a\u2019i chyflogwr yn deall ei anawsterau. <\/p>\n<p>Erbyn hyn, mae wedi\u2019i chydnabod yn un o ddysgwyr gorau Cymru trwy gyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni. Bydd yn cystadlu i fod yn Ddysgwr y Flwyddyn \u2013 Hyfforddeiaethau (Lefel 1) yn y seremoni wobrwyo fawreddog yn y Celtic Manor, Casnewydd ar 20 Hydref.<\/p>\n<p>Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe\u2019u noddir gan Pearson PLC a\u2019u cefnogi gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau.<\/p>\n<p>Mae 30 o ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi serennu mewn nifer o raglenni sgiliau llwyddiannus ledled Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop. <\/p>\n<p>Mae\u2019r gwobrau\u2019n arddangos ac yn dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.<\/p>\n<p>Mae dyslecsia difrifol ar Emily, sy\u2019n byw yn Llanharri, ac mae arni angen llawer o gymorth ychwanegol i ddysgu sgiliau newydd. Bu\u2019n destun datganiad trwy gydol ei hamser yn yr ysgol, lle cafodd ei stigmateiddio am fod ganddi anawsterau dysgu. Roedd yn teimlo\u2019n ynysig ac fe effeithiodd hynny ar ei hunan-fri a\u2019i hyder. <\/p>\n<p>Er iddi weithio\u2019n galed iawn, roedd yn ymdrech fawr i Emily gael y pedair TGAU yr oedd arni eu hangen i ddilyn cwrs coleg ar gyfer gyrfa&#8217;i breuddwydion, theatr gerddorol. Ar \u00f4l wynebu sawl ergyd gan nad oedd cyflogwyr yn deall ei hanghenion, llwyddodd Emily i gael lleoliad wrth ei bodd ym maes gofal plant.  <\/p>\n<p>Mae\u2019n gweithio llawn amser ac yn dilyn Prentisiaeth Sylfaen mewn Gofal Plant, gan obeithio gwneud Prentisiaeth y flwyddyn nesaf.<\/p>\n<p>Dywedodd Jayne McGill-Harris o ACT Training: \u201cAnaml iawn y down ni ar draws rhywun mor benderfynol sy\u2019n dal ati er gwaetha pob anhawster. Mae\u2019n ddysgwraig ryfeddol ac yn ferch ifanc wydn a phenderfynol.\u201d<\/p>\n<p>Meddai Emily: \u201cMae fy ngwaith caled a fy ymroddiad wedi dwyn ffrwyth. Rwy\u2019n fwy penderfynol nag erioed o gyrraedd fy nod o fod yn nyrs feithrin.\u201d<\/p>\n<p>Wrth ganmol safon uchel yr ymgeiswyr eleni a llongyfarch Emily ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: \u201cMae\u2019r rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni yn cynnwys unigolion eithriadol sydd wedi rhagori yn eu gweithle, a darparwyr dysgu a chyflogwyr sydd wedi mynd yr ail filltir i gefnogi\u2019r prentisiaid sy\u2019n gweithio gyda nhw. Mae eu straeon bob amser yn rhyfeddol ac yn ysbrydoliaeth.<\/p>\n<p>\u201cMae prentisiaethau a hyfforddiant sgiliau galwedigaethol yn rhan hanfodol o lwyddiant economaidd ac yn anhepgor er mwyn adeiladu Cymru sy\u2019n gryfach, yn decach ac y fwy cyfartal. <\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r gwobrau hyn yn llwyfan delfrydol ar gyfer dathlu llwyddiant a gwobrwyo gwaith caled ac ymroddiad dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant ledled Cymru. Dymuniadau gorau i bawb ar y noson.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae Emily Wintle yn ferch ifanc benderfynol iawn sydd wedi goresgyn nifer o anawsterau ar y ffordd i ddod yn aelod gwerthfawr o staff meithrinfa St Aubin, y Bont-faen. Diolch i waith caled Emily a chefnogaeth ACT &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/emilyn-benderfynol-o-fod-yn-nyrs-feithrin\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-5319","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5319","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5319"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5319\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5319"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5319"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5319"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}