{"id":5321,"date":"2017-10-11T08:50:35","date_gmt":"2017-10-11T08:50:35","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=5321"},"modified":"2017-10-11T08:53:18","modified_gmt":"2017-10-11T08:53:18","slug":"joe-y-prentis-yn-aelod-allweddol-o-dim-purfa-nicel-yng-nghlydach","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/joe-y-prentis-yn-aelod-allweddol-o-dim-purfa-nicel-yng-nghlydach\/","title":{"rendered":"Joe, y prentis, yn aelod allweddol o d\u00eem purfa nicel yng Nghlydach"},"content":{"rendered":"<div id=\"attachment_9520\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignright\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/11.09.17-mh-Apps-Joe-Lewis-21-e1507711652211.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-9520\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/11.09.17-mh-Apps-Joe-Lewis-21-e1507711652211.jpg\" alt=\"Apprentice Joe Lewis \" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-9520\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-9520\" class=\"wp-caption-text\">Joe Lewis, y prentis<\/p><\/div>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/apprentice-joe-is-key-team-member-at-clydach-refinery\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/joe-y-prentis-yn-aelod-allweddol-o-dim-purfa-nicel-yng-nghlydach\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae prentis o\u2019r enw Joe Lewis eisoes yn aelod allweddol o\u2019r t\u00eem ym mhurfa nicel lwyddiannus Vale Europe Ltd yng Nghlydach, Cwm Tawe.<\/p>\n<p>Mae Joe, 21 oed o Bort Talbot, yn gweithio yn nh\u00eem caffael a storfeydd y cwmni gan gydweithio ag adrannau eraill i ddatblygu&#8217;r dulliau strategol a ddefnyddir yn y burfa i bennu targedau ar gyfer ei weithwyr. <\/p>\n<p>Yn ogystal \u00e2 chysoni model gwelliant parhaus gyda strategaeth y busnes, mae wedi defnyddio&#8217;i sgiliau a&#8217;i flaengarwch i gyflymu&#8217;r broses archebu a chyflenwi, mae wedi datblygu trefn sy\u2019n olrhain hynt y prosiectau lefel uchel ac mae wedi gwella\u2019r systemau archwilio stoc, olrhain anfonebau a rheoli contractau.  <\/p>\n<p>Mae Joe yn deall systemau technoleg gwybodaeth a meddalwedd yn dda iawn ac mae bob amser yn barod i helpu pobl eraill i ddatblygu eu sgiliau TG, yn enwedig ar lefel strategol. <\/p>\n<p>Erbyn hyn, mae wedi\u2019i gydnabod yn un o ddysgwyr gorau Cymru trwy gyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru. Bydd yn cystadlu i fod yn Brentis Sylfaen y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo fawreddog yn y Celtic Manor, Casnewydd ar 20 Hydref.<\/p>\n<p>Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe\u2019u noddir gan Pearson PLC a\u2019u cefnogi gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau.<\/p>\n<p>Mae 30 o ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi serennu mewn nifer o raglenni sgiliau llwyddiannus ledled Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop. <\/p>\n<p>Mae\u2019r gwobrau\u2019n arddangos ac yn dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l cwblhau Prentisiaeth Sylfaen mewn Gweinyddu Busnes gydag Acorn Learning Solutions ym mis Ebrill, mae Joe wedi symud ymlaen i ddilyn Prentisiaeth ac mae\u2019n dal i ymdopi\u2019n llwyddiannus ag unrhyw anawsterau sy\u2019n ei wynebu.  <\/p>\n<p>Meddai Joe: \u201cMae fy mhrentisiaeth wedi fy helpu i fagu mwy o hyder fel y gallaf i gyrraedd fy nhargedau a gwneud gwaith mwy heriol. Rwy bob amser yn ceisio datblygu a gwella fy sgiliau a fy ngwybodaeth, trwy gymwysterau ffurfiol, dysgu seiliedig ar waith a dysgu gartref.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Alun Thomas, rheolwr pwrcasu Vale Europe Ltd, ei fod yn rhagweld dyfodol disglair i Joe. Canmolodd ef am fod mor awyddus i ddysgu ac am ei sgiliau cadarn wrth ddadansoddi, datrys problemau a rheoli amser sy&#8217;n golygu ei fod wedi symud ymlaen yn sydyn iawn. <\/p>\n<p> Wrth ganmol safon uchel yr ymgeiswyr eleni a llongyfarch Joe ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: \u201cMae\u2019r rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni yn cynnwys unigolion eithriadol sydd wedi rhagori yn eu gweithle, a darparwyr dysgu a chyflogwyr sydd wedi mynd yr ail filltir i gefnogi\u2019r prentisiaid sy\u2019n gweithio gyda nhw. Mae eu straeon bob amser yn rhyfeddol ac yn ysbrydoliaeth.<\/p>\n<p>\u201cMae prentisiaethau a hyfforddiant sgiliau galwedigaethol yn rhan hanfodol o lwyddiant economaidd ac yn anhepgor er mwyn adeiladu Cymru sy\u2019n gryfach, yn decach ac y fwy cyfartal. <\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r gwobrau hyn yn llwyfan delfrydol ar gyfer dathlu llwyddiant a gwobrwyo gwaith caled ac ymroddiad dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant ledled Cymru. Dymuniadau gorau i bawb ar y noson.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae prentis o\u2019r enw Joe Lewis eisoes yn aelod allweddol o\u2019r t\u00eem ym mhurfa nicel lwyddiannus Vale Europe Ltd yng Nghlydach, Cwm Tawe. Mae Joe, 21 oed o Bort Talbot, yn gweithio yn nh\u00eem caffael a storfeydd &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/joe-y-prentis-yn-aelod-allweddol-o-dim-purfa-nicel-yng-nghlydach\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-5321","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5321","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5321"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5321\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5321"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5321"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5321"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}