{"id":5324,"date":"2017-10-11T10:08:37","date_gmt":"2017-10-11T10:08:37","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=5324"},"modified":"2017-10-11T10:08:37","modified_gmt":"2017-10-11T10:08:37","slug":"hyfforddiant-yn-gwneud-y-byd-o-wahaniaeth-i-joshua","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/hyfforddiant-yn-gwneud-y-byd-o-wahaniaeth-i-joshua\/","title":{"rendered":"Hyfforddiant yn gwneud y byd o wahaniaeth i Joshua"},"content":{"rendered":"<div id=\"attachment_9531\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignright\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/18.08.17-mh-Joshua-Oleary-Apprentice-Awards-28-e1507716447539.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-9531\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/18.08.17-mh-Joshua-Oleary-Apprentice-Awards-28-e1507716447539.jpg\" alt=\"Joshua O&#039;Leary\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-9531\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-9531\" class=\"wp-caption-text\">Joshua O&#8217;Leary<\/p><\/div>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/training-helps-award-finalist-joshua-to-turn-his-life-round\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/hyfforddiant-yn-gwneud-y-byd-o-wahaniaeth-i-joshua\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae Joshua O\u2019Leary yn ddyn ifanc 19 oed hyderus sy\u2019n edrych i\u2019r dyfodol, mae ganddo swydd a gobaith am yrfa dda. Mae hynny\u2019n wahanol iawn i\u2019r bachgen oedd yn cael ei fwlio yn yr ysgol, yn cael trafferthion oherwydd dyslecsia a lletchwithdod ac a gafodd gyfnod o iselder ar \u00f4l hunanladdiad ei ffrind gorau.<\/p>\n<p>Hyfforddiant yw\u2019r allwedd sydd wedi arwain at y newid mawr hwn. Mae wedi rhoi hwb mawr i\u2019w hyder a\u2019i hunan-fri, gan ei helpu i gyrraedd ei nod o golli bron bum st\u00f4n o bwysau sy\u2019n golygu ei fod wedi gallu codi cannoedd o bunnau wrth redeg er budd elusennau.<\/p>\n<p>Erbyn hyn, mae Joshua wedi\u2019i gydnabod yn un o ddysgwyr gorau Cymru trwy gyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru. Bydd yn cystadlu i fod yn Ddysgwr y Flwyddyn \u2013 Hyfforddeiaethau (Lefel 1) yn y seremoni wobrwyo fawreddog yn y Celtic Manor, Casnewydd ar 20 Hydref.<\/p>\n<p>Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe\u2019u noddir gan Pearson PLC a\u2019u cefnogi gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau.<\/p>\n<p>Mae 30 o ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi serennu mewn nifer o raglenni sgiliau llwyddiannus ledled Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop. <\/p>\n<p>Mae\u2019r gwobrau\u2019n arddangos ac yn dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.<\/p>\n<p>Trwy\u2019r darparwr hyfforddiant PeoplePlus o Ferthyr Tudful a\u2019i swydd gydag Elite Paper Solutions ym Mhentre-bach, llwyddodd Joshua i gwblhau Rhaglen Hyfforddeiaeth Lefel 1 ym mis Ionawr eleni, ar \u00f4l gwneud NVQ Lefel 1 mewn Gwaith Warysau a Storio yn Y Coleg, Merthyr Tudful. Mae\u2019n symud ymlaen yn awr i Brentisiaeth Sylfaen mewn Gwaith Warysau.<\/p>\n<p>Dywedodd yr hyfforddwr gyda PeoplePlus, Carol Williams: \u201cMae Joshua wedi dangos penderfyniad ac ymroddiad ym mhob rhan o\u2019i waith. Rwy mor falch ohono.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Joshua sy\u2019n byw yn Nhredegar: \u201cMae PeoplePlus wedi fy nghefnogi ac wedi fy helpu i oresgyn rhwystrau, a doedd hynny ddim yn hawdd. Ond rwy\u2019n falch ohonof fy hunan yn dod mor bell ac yn gadael y dyddiau hynny o fwlio a diffyg hunan-fri y tu \u00f4l i mi.\u201d<\/p>\n<p>Wrth ganmol safon uchel yr ymgeiswyr eleni a llongyfarch Joshua ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: \u201cMae\u2019r rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni yn cynnwys unigolion eithriadol sydd wedi rhagori yn eu gweithle, a darparwyr dysgu a chyflogwyr sydd wedi mynd yr ail filltir i gefnogi\u2019r prentisiaid sy\u2019n gweithio gyda nhw. Mae eu straeon bob amser yn rhyfeddol ac yn ysbrydoliaeth.<\/p>\n<p>\u201cMae prentisiaethau a hyfforddiant sgiliau galwedigaethol yn rhan hanfodol o lwyddiant economaidd ac yn anhepgor er mwyn adeiladu Cymru sy\u2019n gryfach, yn decach ac y fwy cyfartal. <\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r gwobrau hyn yn llwyfan delfrydol ar gyfer dathlu llwyddiant a gwobrwyo gwaith caled ac ymroddiad dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant ledled Cymru. Dymuniadau gorau i bawb ar y noson.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae Joshua O\u2019Leary yn ddyn ifanc 19 oed hyderus sy\u2019n edrych i\u2019r dyfodol, mae ganddo swydd a gobaith am yrfa dda. Mae hynny\u2019n wahanol iawn i\u2019r bachgen oedd yn cael ei fwlio yn yr ysgol, yn cael &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/hyfforddiant-yn-gwneud-y-byd-o-wahaniaeth-i-joshua\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-5324","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5324","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5324"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5324\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5324"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5324"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5324"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}