{"id":5326,"date":"2017-10-11T09:21:41","date_gmt":"2017-10-11T09:21:41","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=5326"},"modified":"2017-10-11T09:22:32","modified_gmt":"2017-10-11T09:22:32","slug":"tri-dyrchafiad-i-megan-syn-brentis-uwch-benderfynol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/tri-dyrchafiad-i-megan-syn-brentis-uwch-benderfynol\/","title":{"rendered":"Tri dyrchafiad i Megan sy&#8217;n Brentis Uwch benderfynol"},"content":{"rendered":"<div id=\"attachment_9527\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignright\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/29.08.17-mh-Megan-Hession-App-Awards-24-e1507713631430.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-9527\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/29.08.17-mh-Megan-Hession-App-Awards-24-e1507713631430.jpg\" alt=\"Megan Hession\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-9527\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-9527\" class=\"wp-caption-text\">Megan Hession<\/p><\/div>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/three-promotions-for-determined-higher-apprentice-megan\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/tri-dyrchafiad-i-megan-syn-brentis-uwch-benderfynol \">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Gan fod Megan Hession mor benderfynol o lwyddo yn y sector gofal iechyd, mae wedi cwblhau Prentisiaeth Uwch chwe mis cyn pryd ac wedi cael tri dyrchafiad yn y gwaith o fewn dwy flynedd.<\/p>\n<p>A hithau\u2019n ddim ond 24 oed, mae\u2019n rheoli dau d\u0177 byw gyda chymorth, gr\u0175p mawr o ddefnyddwyr gwasanaethau, a thimau staff ar gyfer Montana Healthcare o Gaerffili, sy\u2019n cefnogi oedolion \u00e2 gwahanol anghenion cymhleth.<\/p>\n<p>Erbyn hyn, mae wedi\u2019i chydnabod yn un o ddysgwyr gorau Cymru trwy gyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni. Bydd yn cystadlu i fod yn Brentis Uwch y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo fawreddog yn y Celtic Manor, Casnewydd ar 20 Hydref.<\/p>\n<p>Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe\u2019u noddir gan Pearson PLC a\u2019u cefnogi gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau.<\/p>\n<p>Mae 30 o ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi serennu mewn nifer o raglenni sgiliau llwyddiannus ledled Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop. <\/p>\n<p>Mae\u2019r gwobrau\u2019n arddangos ac yn dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.<\/p>\n<p>Ymunodd Megan, o Lanisien, Caerdydd, \u00e2&#8217;r cwmni yn 2015 fel gweithiwr cymorth, ar \u00f4l ennill gradd mewn Rheoli Busnes a Thystysgrif Lefel 4 mewn Rheoli gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth.  <\/p>\n<p>Yn fuan iawn, roedd wedi cwblhau Prentisiaeth lefel 3 mewn Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol a symudodd ymlaen i wneud Prentisiaeth Uwch ar lefel 5. Cwblhaodd y brentisiaeth hon gydag ACT Training yn yr haf eleni er iddi gael llawdriniaeth fawr yn ystod y cyfnod.<\/p>\n<p>Erbyn hyn, mae Megan yn mentora pum aelod o staff sydd ar raglenni prentisiaethau ac mae ACT Training wedi bod yn ei ffilmio fel llysgennad eu hymgyrch recriwtio ar gyfer Prentisiaethau Uwch.<\/p>\n<p>Dywedodd Megan: \u201cRwy wedi gweithio\u2019n galed iawn i gwblhau fy hyfforddiant ond nid er mwyn cael cymhwyster yn unig. Mae popeth rwy wedi\u2019i wneud wedi bod er budd y defnyddwyr gwasanaethau, fy nh\u00eem a Montana Healthcare. Mae fy hyfforddiant yn fy ngalluogi i wneud gwaith llesol.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Bev Wade, rheolwr ardal Montana Healthcare: \u201cRydym yn falch iawn o Megan. Mae\u2019n ferch ddeallus, ddawnus a llawn gofal sydd \u00e2 sgiliau cyfathrebu da a gwerthoedd uchel, gan ei gwneud yn berffaith ar gyfer ein cwmni ni.\u201d<\/p>\n<p>Wrth ganmol safon uchel yr ymgeiswyr eleni a llongyfarch Megan ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: \u201cMae\u2019r rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni yn cynnwys unigolion eithriadol sydd wedi rhagori yn eu gweithle, a darparwyr dysgu a chyflogwyr sydd wedi mynd yr ail filltir i gefnogi\u2019r prentisiaid sy\u2019n gweithio gyda nhw. Mae eu straeon bob amser yn rhyfeddol ac yn ysbrydoliaeth.<\/p>\n<p>\u201cMae prentisiaethau a hyfforddiant sgiliau galwedigaethol yn rhan hanfodol o lwyddiant economaidd ac yn anhepgor er mwyn adeiladu Cymru sy\u2019n gryfach, yn decach ac y fwy cyfartal. <\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r gwobrau hyn yn llwyfan delfrydol ar gyfer dathlu llwyddiant a gwobrwyo gwaith caled ac ymroddiad dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant ledled Cymru. Dymuniadau gorau i bawb ar y noson.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Gan fod Megan Hession mor benderfynol o lwyddo yn y sector gofal iechyd, mae wedi cwblhau Prentisiaeth Uwch chwe mis cyn pryd ac wedi cael tri dyrchafiad yn y gwaith o fewn dwy flynedd. A hithau\u2019n ddim &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/tri-dyrchafiad-i-megan-syn-brentis-uwch-benderfynol\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-5326","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5326","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5326"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5326\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5326"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5326"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5326"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}