{"id":5330,"date":"2017-10-11T08:38:27","date_gmt":"2017-10-11T08:38:27","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=5330"},"modified":"2017-10-11T08:38:27","modified_gmt":"2017-10-11T08:38:27","slug":"cwmnin-gosod-sylfaen-gadarn-ar-gyfer-adeiladwyr-tair-dyfodol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cwmnin-gosod-sylfaen-gadarn-ar-gyfer-adeiladwyr-tair-dyfodol\/","title":{"rendered":"Cwmni\u2019n gosod sylfaen gadarn ar gyfer adeiladwyr tai\u2019r dyfodol"},"content":{"rendered":"<div id=\"attachment_9513\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignright\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/Redrow-e1507711014499.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-9513\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/Redrow-e1507711014499.jpg\" alt=\"L-R : Redrow apprentices Travis Wade , Sam Reilly, and Ryan Wynne\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-9513\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-9513\" class=\"wp-caption-text\">Travis Wade, Sam Reilly a Ryan Wynne sy\u2019n brentisiaid gyda Redrow.<\/p><\/div>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/award-finalist-laying-a-solid-foundation-for-house-builders-of-the-future\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cwmnin-gosod-sylfaen-gadarn-ar-gyfer-adeiladwyr-tair-dyfodol\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Sefydlwyd cwmni Redrow o Sir y Fflint dros 40 mlynedd yn \u00f4l gan Steve Morgan ac mae ganddo enw ardderchog am godi tai o safon uchel. Llwyddodd i gwblhau dros 5,400 o gartrefi o ansawdd da, sy\u2019n edrych yn arbennig, ledled Cymru a Lloegr ym mlwyddyn ariannol 2016\/17. <\/p>\n<p>Redrow yw\u2019r cwmni adeiladu tai mwyaf sydd \u00e2\u2019i ganolfan yng Nghymru ac mae wedi ymroi erioed i feithrin doniau\u2019r gweithwyr. Mae&#8217;n cydnabod gwerth prentisiaethau&#8217;n cefnogi gweithlu medrus, cynaliadwy yn y sector adeiladu.<\/p>\n<p>Yn awr, mae\u2019r cwmni wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2017. Bydd Redrow\u2019n cystadlu i fod yn Gyflogwr Mawr y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo fawreddog yn y Celtic Manor, Casnewydd ar 20 Hydref.<\/p>\n<p>Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe\u2019u noddir gan Pearson PLC a\u2019u cefnogi gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau.<\/p>\n<p>Mae 30 o ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi serennu mewn nifer o raglenni sgiliau llwyddiannus ledled Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop. <\/p>\n<p>Mae\u2019r gwobrau\u2019n arddangos ac yn dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.<\/p>\n<p>Yn ei awydd i feithrin doniau ifanc a darparu\u2019r sgiliau a\u2019r bobl y mae ar y diwydiant tai eu hangen er mwyn ffynnu, bydd Redrow yn cyflogi 80 yn rhagor o brentisiaid erbyn diwedd 2017, gan ychwanegu at y 204 sydd eisoes ganddynt. <\/p>\n<p>Ers lansio rhaglen brentisiaethau benodol Redrow yn 2009, mae ei brentisiaid yn gallu cael hyfforddiant mewn 14 o wahanol arbenigeddau, o ddylunio pensaern\u00efol i waith plymio a gwresogi tai. <\/p>\n<p>Mae gan y cwmni D\u00eem Gweithwyr Newydd i helpu a chefnogi prentisiaid sy\u2019n gweithio gyda chwmn\u00efau Redrow ledled Cymru a Lloegr, ac mae\u2019n cydweithio \u00e2\u2019r darparwyr hyfforddiant, JTL Training a Coleg Cambria, i gynnig ei raglen.<\/p>\n<p>Dywedodd Joshua Golding, Cydlynydd Rhaglenni Gweithwyr Newydd Redrow: \u201cRydym yn sicrhau bod mentoriaid da a chefnogaeth ein cynghorwyr iechyd galwedigaethol ar gael i\u2019n holl brentisiaid.\u201d <\/p>\n<p>Mae\u2019r ffaith fod cynifer o brentisiaid yn aros gyda Redrow ar \u00f4l gorffen eu prentisiaeth yn arwydd pendant o lwyddiant ei raglennu a\u2019r llwybrau amlwg sydd ar gael i symud ymlaen yn eich gyrfa. Aeth llawer ymlaen i fod yn rheolwyr.<\/p>\n<p>Wrth ganmol safon uchel yr ymgeiswyr eleni a llongyfarch Redrow ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: \u201cMae\u2019r rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni yn cynnwys unigolion eithriadol sydd wedi rhagori yn eu gweithle, a darparwyr dysgu a chyflogwyr sydd wedi mynd yr ail filltir i gefnogi\u2019r prentisiaid sy\u2019n gweithio gyda nhw. Mae eu straeon bob amser yn rhyfeddol ac yn ysbrydoliaeth.<\/p>\n<p>\u201cMae prentisiaethau a hyfforddiant sgiliau galwedigaethol yn rhan hanfodol o lwyddiant economaidd ac yn anhepgor er mwyn adeiladu Cymru sy\u2019n gryfach, yn decach ac y fwy cyfartal. <\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r gwobrau hyn yn llwyfan delfrydol ar gyfer dathlu llwyddiant a gwobrwyo gwaith caled ac ymroddiad dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant ledled Cymru. Dymuniadau gorau i bawb ar y noson.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Sefydlwyd cwmni Redrow o Sir y Fflint dros 40 mlynedd yn \u00f4l gan Steve Morgan ac mae ganddo enw ardderchog am godi tai o safon uchel. Llwyddodd i gwblhau dros 5,400 o gartrefi o ansawdd da, sy\u2019n &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cwmnin-gosod-sylfaen-gadarn-ar-gyfer-adeiladwyr-tair-dyfodol\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-5330","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5330","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5330"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5330\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5330"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5330"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5330"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}