{"id":5332,"date":"2017-10-11T08:32:11","date_gmt":"2017-10-11T08:32:11","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=5332"},"modified":"2017-10-11T08:32:11","modified_gmt":"2017-10-11T08:32:11","slug":"stephen-yn-paratoi-mewn-ffordd-ymarferol-at-yrfa-mewn-peirianneg","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/stephen-yn-paratoi-mewn-ffordd-ymarferol-at-yrfa-mewn-peirianneg\/","title":{"rendered":"Stephen yn paratoi mewn ffordd ymarferol at yrfa mewn peirianneg"},"content":{"rendered":"<div id=\"attachment_9510\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignright\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/13.09.17-mh-App-Awards-Stephen-Pickles-6-1-e1507710632317.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-9510\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/13.09.17-mh-App-Awards-Stephen-Pickles-6-1-e1507710632317.jpg\" alt=\"Stephen Pickles \u2013 exceeding expectations.\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-9510\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-9510\" class=\"wp-caption-text\">Stephen Pickles gyda rheolwr cynhyrchu Renishaw, Lee Hodgson.<\/p><\/div>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/hands-on-learner-stephen-excelling-in-engineering-career\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/stephen-yn-paratoi-mewn-ffordd-ymarferol-at-yrfa-mewn-peirianneg\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Yn yr ysgol, roedd Stephen Pickles yn hoffi gwersi ymarferol ac roedd yn mwynhau gweithio ar brosiectau gartref. Roedd yn gwybod nad oedd am ddilyn cwrs llawn amser yn yr ystafell ddosbarth a phenderfynodd ar yrfa mewn peirianneg. <\/p>\n<p>Pan oedd yn 16 oed, cafodd gynnig prentisiaeth gyda\u2019r cwmni peirianneg byd-eang Renishaw sy\u2019n ymwneud \u00e2 mesur, rheoli symudiad, gofal iechyd, spectroscopeg a gweithgynhyrchu. Mae\u2019r cwmni\u2019n cyflogi dros 2,800 o bobl yn y Deyrnas Unedig.<\/p>\n<p>Mae Stephen, sy\u2019n 19 oed, wedi ennill HNC mewn Gweithgynhyrchu Mecanyddol ym maes Peirianneg \u00e2 rhagoriaeth, cymhwyster comisiynu NVQ lefel 3 trwy Brifysgol De Cymru, a llwyddodd i wneud hynny yn hanner yr amser a ganiatawyd. Mae\u2019n bwriadu symud ymlaen i wneud HND llawn a Diploma mewn Gweithgynhyrchu a Pheirianneg Fecanyddol.<\/p>\n<p>Erbyn hyn, mae wedi\u2019i gydnabod yn un o ddysgwyr gorau Cymru trwy gyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru. Bydd yn cystadlu i fod yn Brentis y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo fawreddog yn y Celtic Manor, Casnewydd ar 20 Hydref.<\/p>\n<p>Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe\u2019u noddir gan Pearson PLC a\u2019u cefnogi gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau.<\/p>\n<p>Mae 30 o ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi serennu mewn nifer o raglenni sgiliau llwyddiannus ledled Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop. <\/p>\n<p>Mae\u2019r gwobrau\u2019n arddangos ac yn dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.<\/p>\n<p>Erbyn hyn, mae Stephen, sy\u2019n byw yn Llanrhymni, yn ei flwyddyn &#8216;wella&#8217; olaf gyda Renishaw. Mae wedi cwblhau naw prosiect, pob un \u00e2 ffolderi technegol a phob un yn llwyddiannus \u2013 y tro cyntaf i brentis lwyddo i wneud hyn ar safle Meisgyn. <\/p>\n<p>Llwyddodd i ragori ar ddisgwyliadau pawb pan gwblhaodd ei brosiect cyntaf yn ddim ond 16 oed \u2013 prosiect yr oedd graddedigion wedi methu ei gwblhau o fewn yr amser.<\/p>\n<p>Ar hyn o bryd, mae\u2019n gweithio yn y Gr\u0175p Datblygu Cydosod lle mae\u2019n helpu i wneud newidiadau peirianyddol i beiriannau gweithgynhyrchu ychwanegion metal Renishaw.<\/p>\n<p>Dywedodd Lee Hodgson, mentor Stephen: \u201cRwy\u2019n meddwl mai\u2019r ganmoliaeth orau y gallaf ei rhoi i Steve yw bod nifer o weithwyr Renishaw yn meddwl ei fod yn beiriannydd a\u2019u bod wedi&#8217;u syfrdanu pan ddywedais i ei fod yn dal yn brentis.\u201d<\/p>\n<p>Wrth ganmol safon uchel yr ymgeiswyr eleni a llongyfarch Stephen ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: \u201cMae\u2019r rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni yn cynnwys unigolion eithriadol sydd wedi rhagori yn eu gweithle, a darparwyr dysgu a chyflogwyr sydd wedi mynd yr ail filltir i gefnogi\u2019r prentisiaid sy\u2019n gweithio gyda nhw. Mae eu straeon bob amser yn rhyfeddol ac yn ysbrydoliaeth.<\/p>\n<p>\u201cMae prentisiaethau a hyfforddiant sgiliau galwedigaethol yn rhan hanfodol o lwyddiant economaidd ac yn anhepgor er mwyn adeiladu Cymru sy\u2019n gryfach, yn decach ac y fwy cyfartal. <\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r gwobrau hyn yn llwyfan delfrydol ar gyfer dathlu llwyddiant a gwobrwyo gwaith caled ac ymroddiad dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant ledled Cymru. Dymuniadau gorau i bawb ar y noson.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Yn yr ysgol, roedd Stephen Pickles yn hoffi gwersi ymarferol ac roedd yn mwynhau gweithio ar brosiectau gartref. Roedd yn gwybod nad oedd am ddilyn cwrs llawn amser yn yr ystafell ddosbarth a phenderfynodd ar yrfa mewn &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/stephen-yn-paratoi-mewn-ffordd-ymarferol-at-yrfa-mewn-peirianneg\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-5332","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5332","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5332"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5332\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5332"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5332"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5332"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}