{"id":5334,"date":"2017-10-11T08:29:26","date_gmt":"2017-10-11T08:29:26","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=5334"},"modified":"2017-10-11T08:29:26","modified_gmt":"2017-10-11T08:29:26","slug":"ar-ol-gyrfa-y-tu-ol-ir-llenni-mae-sue-yn-cael-sylw","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ar-ol-gyrfa-y-tu-ol-ir-llenni-mae-sue-yn-cael-sylw\/","title":{"rendered":"Ar \u00f4l gyrfa y tu \u00f4l i\u2019r llenni, mae Sue yn cael sylw"},"content":{"rendered":"<div id=\"attachment_9508\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignright\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/01.09.17-mh-APP-Awards-Sue-Jefferies-12-e1507710484270.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-9508\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/01.09.17-mh-APP-Awards-Sue-Jefferies-12-e1507710484270.jpg\" alt=\"Sue Jeffries, one of the stars of Wales\u2019 work-based learning sector.\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-9508\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-9508\" class=\"wp-caption-text\">Sue Jeffries, un o s\u00ear y sector dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru.<\/p><\/div>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/sue-in-the-spotlight-for-best-practice-production-training\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ar-ol-gyrfa-y-tu-ol ir-llenni-mae-sue-yn-cael-sylw\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Ar \u00f4l dros 30 mlynedd o brofiad ym maes cynhyrchu rhaglenni teledu, cychwynnodd Sue Jeffries ei chwmni hyfforddi ei hunan yn arbenigo mewn prentisiaethau ar gyfer swyddi&#8217;n amrywio o ddylunio gwisgoedd i effeithiau arbennig.<\/p>\n<p>A hithau\u2019n rheolwr gyfarwyddwr Sgil Cymru, sy\u2019n rhan o\u2019r diwydiant yn Stiwdios Pinewood yn Rhymni, mae Sue\u2019n brif asesydd ar gyfer tair prentisiaeth yn y cyfryngau ar lefelau 3 a 4.<\/p>\n<p>Yn awr, mae wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru. Bydd yn cystadlu i fod yn Asesydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith yn y seremoni wobrwyo fawreddog yn y Celtic Manor, Casnewydd ar 20 Hydref.<\/p>\n<p>Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe\u2019u noddir gan Pearson PLC a\u2019u cefnogi gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau.<\/p>\n<p>Mae 30 o ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi serennu mewn nifer o raglenni sgiliau llwyddiannus ledled Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop. <\/p>\n<p>Mae\u2019r gwobrau\u2019n arddangos ac yn dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.<\/p>\n<p>Mae gan Sue lu mawr o gysylltiadau ac mae\u2019n defnyddio arbenigwyr yn y diwydiant i fod yn aseswyr llawrydd i gynnig hyfforddiant hyblyg sy\u2019n ateb gofynion y BBC, ITV a chwmn\u00efau annibynnol o ran cynhyrchu rhaglenni teledu. <\/p>\n<p>Yn hytrach na mynd i\u2019r coleg am ddiwrnod yr wythnos, mae\u2019r prentisiaid yn dilyn blociau dysgu yn y stiwdios, wedi\u2019u trefnu o gwmpas amserlenni cynhyrchu, ac mae hyn yn dod yn ffordd gyffredin iawn o gael mynediad i\u2019r diwydiannau creadigol.<\/p>\n<p>Mae Sue yn asesu yn y Gymraeg a\u2019r Saesneg ac mae\u2019r prentisiaethau, trwy BBC Cymru, wedi ehangu i fyd radio, chwaraeon a dewis amlblatfform. Mae ei dull o ddefnyddio gweithdy recriwtio i ganfod darpar brentisiaid wedi\u2019i gydnabod gan Creative Skillset fel enghraifft o ymarfer gorau ac mae Sue yn siarad mewn cynadleddau a digwyddiadau er mwyn recriwtio\u2019r genhedlaeth nesaf o weithwyr yn y cyfryngau.<\/p>\n<p>Dywedodd Sue, sy\u2019n byw ym Mhontcanna, Caerdydd: \u201cBu llawer o heriau dros y blynyddoedd er mwyn sicrhau bod y prentisiaethau hyn mor llwyddiannus ag y maen nhw heddiw. Rwy\u2019n cymryd cyfrifoldeb personol dros ddysgwyr Sgil Cymru ac yn ymrwymo i sicrhau eu bod yn dal i lwyddo.\u201d<\/p>\n<p>Wrth ganmol safon uchel yr ymgeiswyr eleni a llongyfarch Sue ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: \u201cMae\u2019r rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni yn cynnwys unigolion eithriadol sydd wedi rhagori yn eu gweithle, a darparwyr dysgu a chyflogwyr sydd wedi mynd yr ail filltir i gefnogi\u2019r prentisiaid sy\u2019n gweithio gyda nhw. Mae eu straeon bob amser yn rhyfeddol ac yn ysbrydoliaeth.<\/p>\n<p>\u201cMae prentisiaethau a hyfforddiant sgiliau galwedigaethol yn rhan hanfodol o lwyddiant economaidd ac yn anhepgor er mwyn adeiladu Cymru sy\u2019n gryfach, yn decach ac y fwy cyfartal. <\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r gwobrau hyn yn llwyfan delfrydol ar gyfer dathlu llwyddiant a gwobrwyo gwaith caled ac ymroddiad dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant ledled Cymru. Dymuniadau gorau i bawb ar y noson.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Ar \u00f4l dros 30 mlynedd o brofiad ym maes cynhyrchu rhaglenni teledu, cychwynnodd Sue Jeffries ei chwmni hyfforddi ei hunan yn arbenigo mewn prentisiaethau ar gyfer swyddi&#8217;n amrywio o ddylunio gwisgoedd i effeithiau arbennig. A hithau\u2019n rheolwr &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ar-ol-gyrfa-y-tu-ol-ir-llenni-mae-sue-yn-cael-sylw\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-5334","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5334","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5334"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5334\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5334"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5334"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5334"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}