{"id":5351,"date":"2017-10-20T22:43:10","date_gmt":"2017-10-20T22:43:10","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=5351"},"modified":"2017-10-25T15:46:03","modified_gmt":"2017-10-25T15:46:03","slug":"gwobrau-o-bwys-i-ser-cymru-ym-maes-dysgu-seiliedig-ar-waith","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/gwobrau-o-bwys-i-ser-cymru-ym-maes-dysgu-seiliedig-ar-waith\/","title":{"rendered":"Gwobrau o bwys i s\u00ear Cymru ym maes dysgu seiliedig ar waith"},"content":{"rendered":"<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/20-10-17-App-Awards-155-e1508539178718.jpg\" alt=\"20-10-17-App-Awards-155\" width=\"460\" height=\"277\" class=\"alignleft size-full wp-image-5353\" \/><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/prestigious-awards-recognise-wales-work-based-learning-stars\/\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/gwobrau-o-bwys-i-ser-cymru-ym-maes-dysgu-seiliedig-ar-waith\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Bu cyfle i ddathlu llwyddiannau ysbrydoledig unigolion ac agwedd ddeinamig cyflogwyr a darparwyr dysgu ledled Cymru at hyfforddiant a datblygu sgiliau  pan gyhoeddwyd enwau enillwyr cystadleuaeth fawr Gwobrau Prentisiaethau Cymru neithiwr (Hydref 20).<\/p>\n<p>Daeth y 30 oedd wedi cyrraedd y rownd derfynol ynghyd i&#8217;r seremoni fawreddog a drefnwyd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac a gynhaliwyd yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd.<\/p>\n<p>Mae\u2019r gwobrau, a noddir gan Pearson PLC ac a gefnogir gan y partner yn y cyfryngau, Media Wales, yn arddangos ac yn dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop. <\/p>\n<p>Aeth gwobrau i bob rhan o Gymru, gydag enwau mawr fel Tata Steel yn rhannu\u2019r clod gyda chwmn\u00efau bach fel yr Happy Horse Retirement Home o Grai, ger Aberhonddu.<\/p>\n<p>Tata Steel enillodd wobr Macro-gyflogwr y Flwyddyn, yn wyneb cystadleuaeth o du swyddfa Caerdydd Deloitte LLP.<\/p>\n<p>I\u2019r Swyddfa Eiddo Deallusol yng Nghasnewydd yr aeth gwobr Cyflogwr Mawr y Flwyddyn, er i Westy Hamdden y Celtic Manor a chwmni adeiladu Redrow o Sir y Fflint gyrraedd y rownd derfynol hefyd.<\/p>\n<p>Sgiliau Adeiladu Cyfle, cynllun rhannu prentisiaethau yng ngorllewin Cymru, a\u2019i bencadlys yn Rhydaman, enillodd wobr Cyflogwr Canolig y Flwyddyn. Y cwmn\u00efau eraill yn y rownd derfynol oedd Electroimpact UK o Benarl\u00e2g a Celtica Foods, Crosshands.<\/p>\n<p>Happy Horse Retirement Home gipiodd wobr Cyflogwr Bach y Flwyddyn yn wyneb her gan feithrinfa Archway Court, Casnewydd.<\/p>\n<p>I ymarferwyr o\u2019r de-ddwyrain yr aeth y gwobrau dysgu seiliedig ar waith. Enwyd Sue Jeffries, rheolwr gyfarwyddwr Sgil Cymru, Caerdydd, yn Asesydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith a Ros Smith o Bontypridd, sy\u2019n gweithio i ACT Training, yn Diwtor y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith.<\/p>\n<p>Aeth gwobrau\u2019r prentisiaid i bobl o Gymru benbaladr. Peter Rushforth, cigydd o\u2019r Wyddgrug, a ddyfarnwyd yn Brentis Uwch y Flwyddyn ac roedd wrth ei fodd yn ychwanegu tlws arall at ei gasgliad.<\/p>\n<p>Sam Jones, 32 oed, o Bontypridd, sy\u2019n gweithio i Wales &#038; West Utilities, enillodd wobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn. Roedd eisoes wedi ennill gwobrau Llysgennad a Seren ar Gynnydd gan ei gyflogwyr ar \u00f4l creu &#8216;Sam y Ci Synhwyro&#8217;, sef caead i\u2019w osod ar larymau carbon monocsid yn y cartref er mwyn codi ymwybyddiaeth o\u2019r lladdwr distaw.<\/p>\n<p>Aeth gwobr Prentis y Flwyddyn i Stephen Pickles, 19, o Lanrhymni, sy\u2019n gweithio i\u2019r cwmni peirianyddol byd-eang, Renishaw, ym Meisgyn.<\/p>\n<p>Aeth y ddwy wobr arall ar y noson i ddysgwyr ifanc sydd wedi elwa ar raglenni Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru.<\/p>\n<p>Jordan William Jones, 18 oed, o Fangor, a gasglodd wobr Dysgwr y Flwyddyn \u2013 Hyfforddeiaethau (Ymgysylltu) ar \u00f4l cychwyn ar yrfa yn y diwydiant moduron gyda Tyn L\u00f4n Volvo yn Llanfair Pwllgwyngyll.<\/p>\n<p>Aeth gwobr Dysgwr y Flwyddyn \u2013 Hyfforddeiaethau (Lefel 1) i Emily Wintle, 18 oed, o Lanharri, sydd wedi goresgyn sawl her wrth anelu at yrfa&#8217;n nyrs feithrin.<\/p>\n<p>Wrth longyfarch yr enillwyr a\u2019r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol, dywedodd Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth: \u201cMae\u2019r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol eleni yn cynnwys unigolion eithriadol sydd wedi rhagori yn eu gweithle, a darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr sydd wedi mynd yr ail filltir i gefnogi\u2019r prentisiaid sy\u2019n gweithio gyda nhw. Mae pob un wedi helpu i bennu safon aur mewn hyfforddiant galwedigaethol a dylid cymeradwyo hyn. <\/p>\n<p>\u201cMae prentisiaethau yn rhan hanfodol o lwyddiant economaidd ac yn anhepgor er mwyn adeiladu Cymru sy\u2019n gryfach, yn decach ac yn fwy cyfartal. Mae Llywodraeth Cymru, gyda chymorth o Gronfa Gymdeithasol Ewrop, o\u2019r farn bod prentisiaethau yn ffordd ardderchog o adeiladu gweithlu medrus a chystadleuol, mynd i\u2019r afael \u00e2 phrinder sgiliau a chryfhau economi Cymru. <\/p>\n<p>\u201cNi fu erioed yn bwysicach i ni gynyddu sgiliau lefel uwch a datblygu llwybrau sgiliau y bydd Cymru gyfan yn elwa ohonynt ac rydym yn ymroi i barhau \u00e2\u2019r gwaith da sydd eisoes ar y gweill gyda busnesau, darparwyr hyfforddiant ac unigolion i gyflawni hyn.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Sarah John, Cadeirydd NTfW: \u201cY gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i bawb sy\u2019n ymwneud \u00e2 chyflenwi\u2019r rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau llwyddiannus hyn. Gallwn ymfalch\u00efo mai yng Nghymru y mae system Brentisiaethau orau\u2019r Deyrnas Unedig. <\/p>\n<p>\u201cFel rhwydwaith, rydym wedi brwydro ers blynyddoedd lawer i sicrhau\u2019r un parch i gymwysterau galwedigaethol ag i gymwysterau academaidd. Mae adduned Llywodraeth Cymru i greu o leiaf 100,000 o brentisiaethau o safon uchel ar gyfer pobl o bob oed dros gyfnod o bum mlynedd, gan ganolbwyntio ar sgiliau lefel uwch a datblygu llwybrau sgiliau, wedi helpu\u2019n fawr.<\/p>\n<p>\u201cFodd bynnag, mae\u2019n dal yn her sicrhau bod pobl ifanc sy\u2019n gadael yr ysgol yng Nghymru yn gwybod am yr holl lwybrau gyrfa sy\u2019n agored iddynt \u2013 yn academaidd ac yn alwedigaethol. Dim ond bryd hynny y bydd gennym wir gyfle cyfartal.\u201d<\/p>\n<h3>Enillwyr y Gwobrau:<\/h3>\n<p><strong>Cyflogwr Bach y Flwyddyn:<\/strong><br \/>\nMae Happy Horse Retirement Home yng Nghrai, ger Aberhonddu\u2019n cyflogi wyth aelod o staff sy\u2019n gofalu am 50 o geffylau. Mae&#8217;r perchnogion, Nicky a Ray Van Dijk, yn credu\u2019n gryf mewn datblygu staff trwy raglenni prentisiaethau a gyflenwir gan Goleg Cambria. Maent wedi hyfforddi naw prentis mewn pum mlynedd ac mae\u2019r rhan fwyaf ohonynt wedi mynd ymlaen i gael gyrfa yn y diwydiant ceffylau.<\/p>\n<p><strong>Cyflogwr Canolig y Flwyddyn:<\/strong><br \/>\nMae Sgiliau Adeiladu Cyfle yn rhaglen rhannu prentisiaethau ar gyfer y diwydiant adeiladu ac fe&#8217;i sefydlwyd 10 mlynedd yn \u00f4l yn Rhydaman. Maent yn defnyddio dros 140 o gontractwyr ac yn cyflogi 135 o brentisiaid ledled gorllewin Cymru ar y rhaglen rhannu prentisiaethau, sy\u2019n golygu ei fod yn un o\u2019r cyflogwyr mwyaf o\u2019i fath ym Mhrydain.<\/p>\n<p><strong>Cyflogwr Mawr y Flwyddyn:<\/strong><br \/>\nMae\u2019r Swyddfa Eiddo Deallusol yng Nghasnewydd wedi recriwtio 32 o brentisiaid ers iddynt lansio rhaglen brentisiaethau yn 2014. Mae 19 yn gweithio yno ar hyn o bryd a bydd 20 arall yn dechrau yn ystod yr hydref eleni wrth i\u2019r cwmni gydweithio\u2019n agos \u00e2\u2019r darparwr hyfforddiant Acorn Learning Solutions.<\/p>\n<p><strong>Macro-gyflogwr y Flwyddyn:<\/strong><br \/>\nMae Tata Steel yn cyflogi dros 6,300 o bobl yng Nghymru, yn cynnwys 211 o brentisiaid. Bu\u2019r cwmni\u2019n hyfforddi prentisiaid ers dros 50 mlynedd ac mae\u2019n cydweithio \u00e2 Choleg Pen-y-bont i sicrhau \u201cffrwd barod o dalent\u201d.<\/p>\n<p><strong>Prentis Uwch y Flwyddyn:<\/strong><br \/>\nMae Peter Rushforth, 22 oed, sy\u2019n byw yng Nghoed-llai ac yn gigydd yn Siop Fferm Swans, Treuddyn, ger yr Wyddgrug, wedi symud ymlaen o Brentisiaeth Sylfaen i Brentisiaeth Uwch mewn Rhagoriaeth Gweithgynhyrchu Bwyd gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian. Mae eisoes wedi ennill gwobr Cigydd Ifanc Cymru a medal aur WorldSkills UK, wedi cynrychioli\u2019r Deyrnas Unedig mewn cystadleuaeth Ewropeaidd ac wedi ennill ysgoloriaeth i astudio yn America. <\/p>\n<p><strong>Prentis Sylfaen y Flwyddyn:<\/strong><br \/>\nPrentis adeiladu a chyfnewid gyda Wales &#038; West Utilities yw Sam Jones, 32 oed, o Bontypridd. Utilise T.D.S. Limited sy\u2019n cyflenwi ei hyfforddiant ar ran Coleg Caerdydd a\u2019r Fro.Enillodd wobrau Llysgennad a Seren ar Gynnydd gan ei gyflogwr ar \u00f4l creu &#8216;Sam y Ci Synhwyro&#8217;, sef caead i\u2019w osod ar larymau carbon monocsid yn y cartref er mwyn codi ymwybyddiaeth o\u2019r lladdwr distaw.<\/p>\n<p><strong>Prentis y Flwyddyn:<\/strong><br \/>\nPrentis gyda\u2019r cwmni peirianneg byd-eang, Renishaw, yw Stephen Pickles, 19 oed, o Lanrhymni. Mae wedi cwblhau prentisiaeth mewn Gweithgynhyrchu Mecanyddol ym maes Peirianneg trwy Brifysgol De Cymru ac ef yw prentis cyntaf y cwmni ar safle Meisgyn i gwblhau naw prosiect, pob un ohonynt \u00e2 ffolderi technegol. <\/p>\n<p><strong>Tiwtor y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith:<\/strong><br \/>\nRos Smith, 43 oed, o Bontypridd, yw tiwtor arweiniol cerbydau modur ACT Training yng Nghaerdydd. Mae Ros wedi ymroi i newid bywydau ei dysgwyr ers dros 23 blynedd ac mae 96% ohonynt yn symud ymlaen i ddysgu pellach neu waith.<\/p>\n<p><strong>Asesydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith:<\/strong><br \/>\nRoedd gan Sue Jeffries, 61 oed, o Bontcanna, Caerdydd, dros 30 mlynedd o brofiad yn cynhyrchu rhaglenni teledu a defnyddiodd hynny i sefydlu Sgil Cymru yn Rhymni, sy\u2019n arbenigo mewn prentisiaethau mewn meysydd sy\u2019n amrywio o ddylunio gwisgoedd i effeithiau arbennig. Mae\u2019n asesydd arweiniol tair prentisiaeth yn y cyfryngau ac yn cynnig hyfforddiant hyblyg i gwrdd \u00e2&#8217;r galw gan gwmn\u00efau teledu.<\/p>\n<p><strong>Dysgwr y Flwyddyn \u2013 Hyfforddeiaethau (Ymgysylltu):<\/strong><br \/>\nMae Jordan William Jones, 18 oed, o Fangor, yn gweithio i Tyn Lon Volvo yn Llanfair Pwllgwyngyll. Ar \u00f4l colli ei fam a\u2019i dad, symudodd i ogledd Cymru a chafodd ei annog gan ei fodryb a\u2019i ewythr i geisio gyrfa yn y diwydiant moduron. Cafodd hwb fawr i&#8217;w hyder yn dilyn rhaglen Hyfforddeiaeth (Ymgysylltu) gyda Gr\u0175p Llandrillo Menai ac erbyn hyn mae wedi dechrau ar Ddiploma Lefel 2 mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn.<\/p>\n<p><strong>Dysgwr y Flwyddyn \u2013 Hyfforddeiaethau (Lefel 1):<\/strong><br \/>\nMae Emily Wintle, 18 oed, o Lanharri, wedi goresgyn dyslecsia a nifer o anawsterau ar y ffordd i ddod yn aelod gwerthfawr o staff meithrinfa St Aubin, y Bont-faen. Gyda chefnogaeth ACT Training, llwyddodd i gwblhau ei Hyfforddeiaeth Lefel 1 mewn Gofal Plant mewn tri mis ac, erbyn hyn, mae wedi symud ymlaen i wneud Prentisiaeth Sylfaen mewn Gofal Plant.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Bu cyfle i ddathlu llwyddiannau ysbrydoledig unigolion ac agwedd ddeinamig cyflogwyr a darparwyr dysgu ledled Cymru at hyfforddiant a datblygu sgiliau pan gyhoeddwyd enwau enillwyr cystadleuaeth fawr Gwobrau Prentisiaethau Cymru neithiwr (Hydref 20). Daeth y 30 oedd &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/gwobrau-o-bwys-i-ser-cymru-ym-maes-dysgu-seiliedig-ar-waith\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-5351","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5351","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5351"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5351\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5351"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5351"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5351"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}