{"id":5395,"date":"2017-11-24T12:04:20","date_gmt":"2017-11-24T12:04:20","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=5395"},"modified":"2017-12-15T14:11:35","modified_gmt":"2017-12-15T14:11:35","slug":"tim-cambria-yn-ennill-sawl-fedal-yn-rowndiau-terfynol-worldskills-uk","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/tim-cambria-yn-ennill-sawl-fedal-yn-rowndiau-terfynol-worldskills-uk\/","title":{"rendered":"T\u00eem Cambria yn Ennill Sawl Fedal yn Rowndiau Terfynol Worldskills UK"},"content":{"rendered":"<div id=\"attachment_9602\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignright\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/WorldSkills-Davey-Brookes-725x415-e1511524461442.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-9602\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/WorldSkills-Davey-Brookes-725x415-e1511524461442.jpg\" alt=\"Davey Brookes, Aero Mechanical Engineering, Airbus - Gold Medal Winner.\" width=\"460\" height=\"263\" class=\"size-full wp-image-9602\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-9602\" class=\"wp-caption-text\">AUR: Davey Brookes, Peirianneg Fecanyddol Awyrennau.<\/p><\/div>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/team-cambria-win-multiple-medals-in-worldskills-uk-finals\/\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/tim-cambria-yn-ennill-sawl-fedal-yn-rowndiau-terfynol-worldskills-uk\/\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Unwaith eto eleni, daeth myfyrwyr Coleg Cambria \u00e2 llu o fedalau adref gyda nhw o rowndiau terfynol cenedlaethol Worldskills UK, a gynhaliwyd yn yr NEC yn Birmingham, yn rhoi\u2019r coleg yn ail ar y tabl medalau.<\/p>\n<p>Roedd gan y coleg t\u00eem cryf o 27 o fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr yn cystadlu, gyda nifer ohonynt yn dod o\u2019n partneriaid busnes yr ydym yn gweithio\u2019n agos iawn \u00e2 nhw, yn enwedig ar gyfer y cystadlaethau hyn. Llwyddodd nifer fawr o\u2019r t\u00eem i ennill medal, gan gynnwys Davey Brookes, sy\u2019n cael ei gyflogi gan Airbus, a enillodd aur yn y categori Peirianneg Fecanyddol Awyrennau.<\/p>\n<p>Yr holl enillwyr medalau oedd:<\/p>\n<ul>\n<li>AUR: Davey Brookes, Peirianneg Fecanyddol Awyrennau \u2013 wedi\u2019i gofrestru trwy Airbus<\/li>\n<li>ARIAN: Emily Watson, Therapi Harddwch (Body)<\/li>\n<li>ARIAN: Sophie Quirk, Gwasanaethau Ewinedd<\/li>\n<li>ARIAN (x3): Kendal Irvine, Dylan Edwards a George Walker, Her T\u00eem Gweithgynhyrchu \u2013 wedi\u2019u cofrestru trwy JCB<\/li>\n<li>ARIAN (x3): Sinead Beck, Liam Rock a Lewis Nolan, Her T\u00eem Gweithgynhyrchu \u2013 wedi\u2019u cofrestru trwy Magellan<\/li>\n<li>EFYDD: Callum McLaughlin, CNC Turnio \u2013 wedi\u2019i gofrestru trwy GJ Maintenance Engineering<\/li>\n<\/ul>\n<p>Yn ychwanegol i lwyddiant yr enillwyr medalau, cafodd 13 o fyfyrwyr Cambria eu gwahodd i fod yn rhan o garfan gyn-derfynol T\u00eem Prydain ar gyfer rowndiau Terfynol Worldskills y Byd yn Kazan, Rwsia yn 2019.<\/p>\n<p>Y rhai a gafodd eu gwahodd i fod yn rhan o\u2019r garfan gyn-derfynol ar gyfer Kazan 2019:<\/p>\n<ul>\n<li>Davey Brookes \u2013 Peirianneg Fecanyddol Awyrennau<\/li>\n<li>Balazs Sparing \u2013 Peirianneg Fecanyddol Awyrennau<\/li>\n<li>Lewys Rawlings \u2013 Paentio ac Addurno<\/li>\n<li>Emily Watson \u2013 Therapi Harddwch<\/li>\n<li>Josh Jones \u2013 Technoleg Cerbydau Modur<\/li>\n<li>Ieuan Evans \u2013 Adeiladu Gwaith Metel<\/li>\n<li>Charlie Smith \u2013 Trin gwallt<\/li>\n<li>Kendal Irvine, Dylan Edwards, George Walker \u2013 Her T\u00eem Gweithgynhyrchu (x 3 aelod)<\/li>\n<li>Sinead Beck, Liam Rock, Lewis Nolan \u2013 Her T\u00eem Gweithgynhyrchu (x 3 aelod)<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae Worldskills UK yn gyfres o gystadlaethau sgiliau safon uwch sy\u2019n cael eu cynnal bob blwyddyn ledled Prydain. Nod y cystadlaethau hyn yw annog pobl ifanc ac oedolion Prydain i ragori ar eu sgiliau galwedigaethol a chodi parch, cyfranogiad a safonau gwaith ym mhrentisiaethau a hyfforddiant galwedigaethol.<\/p>\n<p>Heb gefnogaeth gan gyflogwyr yn rhyddhau eu prentisiaid i hyfforddi ac i gystadlu yn y Sioe Sgiliau, ni fyddai pobl ifanc yn cael y profiadau gwerthfawr hyn. Mae\u2019r gystadleuaeth yn annog ac yn ysbrydoli\u2019r genhedlaeth nesaf, yn enwedig gyda dwy ferch yn ennill medalau arian yn y maes Peirianneg.<\/p>\n<p>Yn ystod y Sioe Sgiliau roedd Coleg Cambria hefyd yn dangos Gwaith Melino CNC a Gwaith Llen Fetel gyda Magellan a Bayleigh, gyda\u2019r ddau arddangosiad wedi\u2019u staffio gan brentisiaid Coleg Cambria.<\/p>\n<p>Ymwelodd dros 250 o staff a myfyrwyr o safleoedd Ffordd y Bers, I\u00e2l a Glannau Dyfrdwy \u00e2\u2019r Sioe Sgiliau ar ddydd Gwener y gystadleuaeth, gan ddysgu am y cystadlaethau a chefnogi\u2019r cystadleuwyr.<\/p>\n<p>Mae Joe Massey, a enillodd Medal Rhagoriaeth yn rowndiau terfynol WorldSkills yn Abu Dabi yn ddiweddar, wedi symud yn ei flaen yn sydyn iawn, ac oedd yn feirniad ar gyfer y gystadleuaeth Peirianneg Fecanyddol Awyrennau eleni.<\/p>\n<p>Dywedodd Rona Griffiths, Dirprwy Gyfarwyddwr y Cwricwlwm ar gyfer Profiad Dysgwyr a Mentergarwch:<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r Sioe Sgiliau yn gyfle gwych i bobl ifanc archwilio gyrfau cyffrous yn ogystal \u00e2 gwylio rhai o\u2019r perfformwyr gorau yn cystadlu yn eu meysydd. Cynrychiolodd pob un o\u2019n 27 o fyfyrwyr a phrentisiaid y coleg fel y gorau yn eu meysydd \u2013 sy\u2019n dipyn o brawf a thyst i\u2019r hyfforddiant ardderchog sy\u2019n digwydd o ddydd i ddydd yng Ngholeg Cambria.<\/p>\n<p>\u201cNi allaf ddechrau dweud wrthych ba mor drawiadol oedd ein holl gystadleuwyr trwy gydol y 3 diwrnod. Rwyf mor falch o bob un o\u2019r cystadleuwyr ac yn ddiolchgar i\u2019w hyfforddwyr, cyflogwyr a\u2019u teuluoedd cefnogol.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd David Jones OBE, Prif Weithredwr Coleg Cambria:<\/p>\n<p>\u201cLlongyfarchiadau mawr i\u2019n myfyrwyr dawnus am eu llwyddiant anhygoel yn Birmingham. Mae\u2019n wych bod eu sgiliau wedi cael eu cydnabod fel y gorau yn eu meysydd ar lwyfan cenedlaethol ochr yn ochr \u00e2\u2019r prentisiaid a dysgwyr gorau ym Mhrydain.<\/p>\n<p>\u201cEleni, Cambria oedd \u00e2\u2019r nifer uchaf o gyfranogwyr o unrhyw goleg arall yng Nghymru, sy\u2019n adlewyrchu gwaith caled ac ymrwymiad y staff sy\u2019n ymwneud ag ystod o weithgareddau, gan gynnwys rhoi cymorth i gystadleuwyr, cynnal a hwyluso stondinau arddangos, beirniadu cystadlaethau a mynd \u00e2 myfyrwyr i ymweld \u00e2 sioeau.\u201d<\/p>\n<p><strong>Dysgwch fwy am <a href=\"https:\/\/businesswales.gov.wales\/skillsgateway\/cy\/prentisiaethau\">brentisiaethau<\/a> heddiw<\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Unwaith eto eleni, daeth myfyrwyr Coleg Cambria \u00e2 llu o fedalau adref gyda nhw o rowndiau terfynol cenedlaethol Worldskills UK, a gynhaliwyd yn yr NEC yn Birmingham, yn rhoi\u2019r coleg yn ail ar y tabl medalau. Roedd &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/tim-cambria-yn-ennill-sawl-fedal-yn-rowndiau-terfynol-worldskills-uk\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[18],"tags":[],"class_list":["post-5395","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-worldskills-sioe-sgiliau"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5395","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5395"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5395\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5395"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5395"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5395"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}