{"id":5408,"date":"2017-11-30T12:38:49","date_gmt":"2017-11-30T12:38:49","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=5408"},"modified":"2017-12-15T14:10:13","modified_gmt":"2017-12-15T14:10:13","slug":"llwyddiant-worldskills-i-fyfyrwyr-coleg-caerdydd-ar-fro-yn-y-sioe-sgiliau","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/llwyddiant-worldskills-i-fyfyrwyr-coleg-caerdydd-ar-fro-yn-y-sioe-sgiliau\/","title":{"rendered":"Llwyddiant WorldSkills i fyfyrwyr Coleg Caerdydd a\u2019r Fro yn y Sioe Sgiliau"},"content":{"rendered":"<div id=\"attachment_9623\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignright\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/James-Ackland-e1512043009347.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-9623\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/James-Ackland-e1512043009347.jpg\" alt=\"James Ackland\" width=\"460\" height=\"345\" class=\"size-full wp-image-9623\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-9623\" class=\"wp-caption-text\">James Ackland<\/p><\/div>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/worldskills-success-for-cardiff-and-vale-college-at-the-skills-show\/\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/llwyddiant-worldskills-i-fyfyrwyr-coleg-caerdydd-ar-fro-yn-y-sioe-sgiliau\/\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae myfyrwyr Coleg Caerdydd a\u2019r Fro ymhlith y rhai gorau yn y DU yn dilyn llu o lwyddiannau yn rowndiau terfynol WorldSkills.<br \/>\nEnillodd un fedal aur ac mae dau wedi cael eu dewis i gynrychioli Prydain Fawr yn WorldSkills Kazan 2018. <\/p>\n<p>Cymerodd mwy na 450 o bobl ifanc ran mewn cystadlaethau a oedd yn rhoi sylw i 56 o sgiliau gwahanol, o adeiladu i letygarwch, yn ystod tridiau\u2019r Sioe Sgiliau yn Birmingham o flaen miloedd o ymwelwyr.<\/p>\n<p>Enillodd Anthony Cox fedal aur yng nghystadleuaeth yr Hyfforddwr Personol mewn Sgiliau Cynhwysol. Yn rhan o\u2019r Sioe Sgiliau, nod Sgiliau Cynhwysol yw helpu i ddysgu sgiliau dysgu a chyflogadwyedd hanfodol ar gyfer y dyfodol i bobl sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. <\/p>\n<p>Roedd rhaid i Anthony, myfyriwr Mynediad Galwedigaethol yn CCAF, roi cyfarwyddyd i gleient oedd newydd ddechrau yn y gampfa, gan ddangos sut i ddefnyddio offer fel y felin gerdded a dangos ymwybyddiaeth o ganllawiau iechyd a diogelwch. Wedyn cafodd brawf sgiliau.                 <\/p>\n<p>\u201cRoedd ganddyn nhw restr o weithgareddau ac roedd rhaid i mi eu gwneud nhw,\u201d dywedodd Anthony, sy\u2019n 17 oed ac yn byw yng Nghaerdydd. \u201cRoedd rhestr o 12 ac fe wnaethon nhw ddweud wrtha\u2019 i am ddewis 5, ond fe wnes i\u2019r 12 i gyd \u2013 dyna sut wnes i ennill rwy\u2019n credu. <\/p>\n<p>\u201cRoedd yn dda iawn \u2013 roedd yn gystadleuaeth dda. Roedd y cystadleuwyr eraill yn neis iawn ac roedd yn braf eu cyfarfod nhw. Roedd yn hwyl ac roedd Comicon drws nesaf ac roedd hynny\u2019n gr\u00eat ac fe gefais i luniau.   <\/p>\n<p>\u201cFe wnes i fwynhau, a dweud y gwir. Roeddwn i\u2019n barod \u2013 roeddwn i wedi paratoi ar gyfer y tridiau ymlaen llaw ac roeddwn i\u2019n barod amdani. Yn nerfus, ond rydych chi\u2019n mynd yn nerfus ym mhob cystadleuaeth. Roedd fy hyfforddwr i, Rich [Hyfforddwr Cryfder a Siapio CCAF, Rich Walters], o help mawr i mi; fe wnaeth e esbonio popeth oedd raid i mi ei wneud fel ei fod yn gwneud mwy o synnwyr. <\/p>\n<p>\u201cRydw i\u2019n falch iawn ac rydw i\u2019n hoffi\u2019r fedal aur \u2013 mae\u2019n neis ac mae\u2019n mynd i edrych yn dda ar fy CV i hefyd. <\/p>\n<p>Mae Anthony, sydd wedi chwarae i Glwb Rygbi Pentyrch ac sy\u2019n chwarae i Leision Caerdydd D18 erbyn hyn, eisiau dilyn yn \u00f4l troed ei dad fel chwaraewr rygbi. <\/p>\n<p>\u201cRydw i\u2019n hoffi rygbi ac rydw i\u2019n gwneud yn eithaf da \u2013 rydw i gyda\u2019r Gleision,\u201d esboniodd Anthony. \u201cRydw i\u2019n gweld bod yn hyfforddwr personol fel rhywbeth wrth gefn fel bod gen i rywbeth i syrthio\u2019n \u00f4l arno os na fydd fy ngyrfa i mewn rygbi\u2019n rhy llwyddiannus. <\/p>\n<p>\u201cRydw i wedi cael fy magu ar rygbi fwy neu lai gan fy nhad oedd yn arfer chwarae ar lefel sirol ac fe gyflwynodd e fi i Bentyrch. Pan ymunais i \u00e2 Choleg Caerdydd a\u2019r Fro fe lwyddodd Martyn Fowler [Cyfarwyddwr yr Academi Rygbi] a\u2019r hyfforddwyr eraill i fy nghael i i mewn i\u2019r Gleision. Gobeithio y caf i gontract ac y galla\u2019 i ddal ati i chwarae gyda\u2019r Gleision ac, yn y diwedd, i Gymru \u2013 fe fyddwn i wrth fy modd gyda hynny. \u2019Fyddwn i ddim ble rydw i heddiw oni bai am Goleg Caerdydd a\u2019r Fro.  <\/p>\n<p>\u201cFelly rydw i eisiau dilyn yn \u00f4l troed fy nhad ond ar lefel uwch \u2013 fe chwaraeodd e ar lefel sirol ac rydw i eisiau chwarae i Gymru. Mae hyfforddwyr y Coleg yn dweud bod gen i siawns oherwydd fy nhaldra; rydw i\u2019n 6\u2019 8\u201d ac yn 114 kg a dim ond 17 oed ydw i. O fwyta\u2019r bwyd iawn a dal ati i ymarfer, mae fy hyfforddwyr i\u2019n dweud y gallwn i fod yn 6\u2019 9\u201d ac yn 19 neu 20 st\u00f4n erbyn i mi fod yn 20 oed.\u201d<\/p>\n<p>Yn y cyfamser, enillodd Connor Lewis fedal efydd yng nghystadleuaeth Gosodiadau Trydanol WorldSkills, cystadleuaeth y cymerodd ei frawd Tom ran ynddi hefyd. Mae\u2019r efeilliaid 20 oed wedi cael eu dewis ar gyfer sgwad Prydain i fynd i WorldSkills Kazan 2019.<\/p>\n<p>Hefyd enillodd James Ackland fedal efydd am Deilsio Waliau a Lloriau a chafodd ei gydfyfyriwr, Maziyar Pazouki, ganmoliaeth uchel. Yn y categori Ailorffen Cerbydau, enillodd Cory Maher gystadleuaeth Dylunio Bonet Sefydliad y Diwydiant Moduro.  <\/p>\n<p>\u201cDoeddwn i ddim yn meddwl \u2019mod i\u2019n mynd i ennill \u2013 roeddech chi\u2019n gallu gwneud beth bynnag roeddech chi eisiau felly fe wnes i streipiau syml, sylfaenol ac ennill,\u201d dywedodd Cory. \u201cDoeddwn i ddim yn mwynhau i ddechrau \u2013 roedd gen i ofn! Ond ar \u00f4l ychydig fe ddiflannodd y nerfau ac fe wnes i ddechrau mwynhau.<\/p>\n<p>\u201cRoedd y Sioe Sgiliau\u2019n gr\u00eat ac roedd yn braf cyfarfod pobl newydd. Y rhan anoddaf oedd setlo i lawr a dechrau arni.\u201d<\/p>\n<p>Bob blwyddyn mae CCAF yn anfon ei staff arbenigol sydd \u00e2 phrofiad o ddiwydiant i\u2019r Sioe Sgiliau fel beirniaid. Eleni roedd y darlithwyr Moduro, Rich Hutchins, Pete Gibbons, Lee Summerhayes a Ben Young, yn feirniaid gan rannu eu profiad a helpu myfyrwyr y Coleg i gyrraedd y lefel uchel sy\u2019n ofynnol yn y Sioe Sgiliau. Hefyd roedd cyn feirniaid, Pennaeth y Gwasanaethau Adeiladu Kevin Robinson a\u2019r Darlithydd Teilsio Waliau a Lloriau Lee Randell, yn ogystal \u00e2\u2019r Dirprwy Bennaeth Arlwyo, Lletygarwch a Gweithgynhyrchu Bwyd Eric Couturier a\u2019r Pennaeth Sgiliau Byw\u2019n Annibynnol Tom Snelgrove, wrth law i gynnig cefnogaeth i\u2019r myfyrwyr.  <\/p>\n<p><strong>Dysgwch fwy am <a href=\"https:\/\/businesswales.gov.wales\/skillsgateway\/cy\/prentisiaethau\">brentisiaethau<\/a> heddiw<\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae myfyrwyr Coleg Caerdydd a\u2019r Fro ymhlith y rhai gorau yn y DU yn dilyn llu o lwyddiannau yn rowndiau terfynol WorldSkills. Enillodd un fedal aur ac mae dau wedi cael eu dewis i gynrychioli Prydain Fawr &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/llwyddiant-worldskills-i-fyfyrwyr-coleg-caerdydd-ar-fro-yn-y-sioe-sgiliau\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[18],"tags":[],"class_list":["post-5408","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-worldskills-sioe-sgiliau"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5408","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5408"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5408\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5408"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5408"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5408"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}