{"id":5410,"date":"2017-11-30T12:44:58","date_gmt":"2017-11-30T12:44:58","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=5410"},"modified":"2017-12-15T14:09:56","modified_gmt":"2017-12-15T14:09:56","slug":"alex-prentis-yng-ngholeg-caerdydd-ar-fro-yn-mynd-i-india-i-gynrychioli-cymru-yn-olympiad-2018-i-gogyddion-ifanc","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/alex-prentis-yng-ngholeg-caerdydd-ar-fro-yn-mynd-i-india-i-gynrychioli-cymru-yn-olympiad-2018-i-gogyddion-ifanc\/","title":{"rendered":"Alex, Prentis yng Ngholeg Caerdydd a\u2019r Fro, yn mynd i India i gynrychioli Cymru yn Olympiad 2018 i gogyddion ifanc"},"content":{"rendered":"<div id=\"attachment_9626\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignright\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/Young-Chef-Olympiad-pic-1-e1512045653723.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-9626\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/Young-Chef-Olympiad-pic-1-e1512045653723.jpg\" alt=\"Alex James\" width=\"460\" height=\"345\" class=\"size-full wp-image-9626\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-9626\" class=\"wp-caption-text\">Alex James<\/p><\/div>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/cardiff-and-vale-college-apprentice-alex-is-off-to-india-to-represent-wales-at-the-young-chef-olympiad-2018\/\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/alex-prentis-yng-ngholeg-caerdydd-ar-fro-yn-mynd-i-india-i-gynrychioli-cymru-yn-olympiad-2018-i-gogyddion-ifanc\/\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Bydd Alex James, prentis yng Ngholeg Caerdydd a\u2019r Fro, yn mynd i India i gynrychioli Cymru mewn cystadleuaeth ryngwladol anrhydeddus i gogyddion ifanc \u2013 Olympiad Rhyngwladol 2018 i Gogyddion Ifanc.<\/p>\n<p>Yn dilyn cystadleuaeth fewnol ymhlith dysgwyr Lletygarwch ac Arlwyo\u2019r Coleg, cafodd Alex \u2013 sy\u2019n brentis ym mwyty Ewropeaidd modern CAVC, Y Dosbarth \u2013 ei ddewis. Roedd rhaid i bob un o\u2019r myfyrwyr feddwl am bryd tri chwrs gan ddefnyddio basged arbennig o gynhyrchion.   <\/p>\n<p>Yn ymuno ag Alex, sy\u2019n 18 oed ac yn dod o Gaerdydd, bydd Prif Ddarlithydd CAVC, John Crockett, a fydd yn gweithredu fel mentor pan fyddant yn hedfan i India yn y Flwyddyn Newydd. Bydd yn cael ei noddi gan Gymdeithas Perchnogion Gwestai Caerdydd, a noddodd y fyfyrwraig Amy Hoskins o CAVC hefyd, pan aeth hi i gynrychioli Cymru yn Olympiad Rhyngwladol y Cogyddion Ifanc ar ddechrau 2017.<\/p>\n<p>\u201cMae hi\u2019n fraint fawr i mi gael mynd i India i gystadlu yn Olympiad y Cogyddion Ifanc,\u201ddywedodd Alex. \u201cMae\u2019n mynd i fod yn rhyfeddol \u2013 yn brofiad gwych.<\/p>\n<p>\u201cRydw i wir yn edrych ymlaen at hyn. Mae\u2019n fy ngwneud i\u2019n nerfus ond rydw i am beidio meddwl gormod am yr ochr yna i bethau, rhag teimlo dan bwysau!\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Dirprwy Bennaeth Arlwyo, Lletygarwch a Gweithgynhyrchu Bwyd CAVC, Eric Couturier: \u201cMae hwn yn gyfle i newid bywyd i Alex. Bydd yn dangos ei sgiliau, ei greadigrwydd a\u2019i ddawn yng nghanol rhai o gogyddion ifanc gorau\u2019r byd ac fe fydd yn brofiad rhagorol iddo fe \u2013 rydyn ni i gyd yn falch iawn o Alex ac yn dymuno\u2019n dda iawn iddo fe.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Ben Underwood, Cadeirydd Cymdeithas Perchnogion Gwestai Caerdydd: \u201cMae fy nghydweithwyr a mi yng Nghymdeithas Perchnogion Gwestai Caerdydd yn falch iawn o gael gefnogi CAVC drwy anfon cogydd ifanc i\u2019r digwyddiad Olympiad yn India. Mae\u2019n anodd recriwtio cogyddion yn y diwydiant ac yn fwy felly yng Nghaerdydd. Felly mae\u2019r ffaith bod gan gogyddion ifanc brwd gyfleuster mor arbennig i ddysgu eu crefft yn Y Dosbarth yn rhoi gobaith i ni y bydd y genhedlaeth nesaf o weithwyr lletygarwch proffesiynol yn un gref.     <\/p>\n<p>\u201cAr \u00f4l cyfarfod Alex, roeddwn i\u2019n teimlo bod ei ffocws a\u2019i agwedd yn rhagorol; mae\u2019n fy nharo i fel rhywun sy\u2019n gwybod beth mae ei eisiau a beth yw ei ddyheadau ac rydw i\u2019n si\u0175r y bydd yn gynrychiolydd arbennig iawn i Gymru.\u201d <\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.<\/p>\n<p><strong>Dysgwch fwy am <a href=\"https:\/\/businesswales.gov.wales\/skillsgateway\/cy\/prentisiaethau\">brentisiaethau<\/a> heddiw<\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Bydd Alex James, prentis yng Ngholeg Caerdydd a\u2019r Fro, yn mynd i India i gynrychioli Cymru mewn cystadleuaeth ryngwladol anrhydeddus i gogyddion ifanc \u2013 Olympiad Rhyngwladol 2018 i Gogyddion Ifanc. Yn dilyn cystadleuaeth fewnol ymhlith dysgwyr Lletygarwch &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/alex-prentis-yng-ngholeg-caerdydd-ar-fro-yn-mynd-i-india-i-gynrychioli-cymru-yn-olympiad-2018-i-gogyddion-ifanc\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[18],"tags":[],"class_list":["post-5410","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-worldskills-sioe-sgiliau"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5410","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5410"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5410\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5410"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5410"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5410"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}