{"id":5418,"date":"2017-12-05T11:53:53","date_gmt":"2017-12-05T11:53:53","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=5418"},"modified":"2022-09-13T10:50:21","modified_gmt":"2022-09-13T09:50:21","slug":"dafydd-yn-agor-y-drws-i-brentisiaid-cymraeg-eu-hiaith-y-dyfodol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/dafydd-yn-agor-y-drws-i-brentisiaid-cymraeg-eu-hiaith-y-dyfodol\/","title":{"rendered":"Dafydd yn agor y drws i brentisiaid Cymraeg eu hiaith y dyfodol"},"content":{"rendered":"<div id=\"attachment_9633\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignright\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/Dafydd-Emrys-e1512048870597.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-9633\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2017\/11\/Dafydd-Emrys-e1512048870597.jpg\" alt=\"Dafydd Emrys - working towards a foundation apprenticeship through the medium of Welsh.\" width=\"460\" height=\"523\" class=\"size-full wp-image-9633\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-9633\" class=\"wp-caption-text\">Dafydd Emrys &#8211; working towards a foundation apprenticeship through the medium of Welsh.<\/p><\/div>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/dafydd-opens-the-door-for-future-welsh-language-apprentices\/\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/dafydd-yn-agor-y-drws-i-brentisiaid-cymraeg-eu-hiaith-y-dyfodol\/\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae technegydd plastigion mewn canolfan ailgylchu yng Ngogledd Cymru\u2019n elwa ar ymgyrch Llywodraeth Cymru i gyflwyno prentisiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.<\/p>\n<p>Cyflogir Dafydd Emrys, sy\u2019n 34 oed, yn safle Caergylchu\u2019r fenter gymdeithasol Antur Waunfawr yng Nghaernarfon. Mae Dafydd ar y sbectrwm awtistig a chanfu ei fod yn cael trafferth gwneud ei waith yn Saesneg pan ddechreuodd asesiad sgiliau hanfodol i ddarganfod a oedd yn gweddu i Brentisiaeth Sylfaen mewn Ailgylchu (NVQ lefel 2).<\/p>\n<p>Canfu\u2019r swyddog hyfforddiant Amy Edwards, o Gwmni Hyfforddiant Cambrian, fod Dafydd yn deall y cwestiynau asesu\u2019n well o\u2019u gofyn yn y Gymraeg, sef ei iaith gyntaf, yn lle\u2019r Saesneg.<\/p>\n<p>Felly, gofynnodd tad Dafydd, sef Emrys Reid, a fyddai modd cyflwyno\u2019r Brentisiaeth Sylfaen yn y Gymraeg a chytunodd Cwmni Hyfforddiant Cambrian a chyfieithu ei werslyfrau iddo. Mae Dafydd yn un o saith aelod o staff sy\u2019n gweithio tuag at y cymhwyster, ond ef yw\u2019r unig un sy\u2019n ei wneud yn y Gymraeg ar hyn o bryd.<\/p>\n<p>Mae Haydn Jones, rheolwr Antur Waunfawr, Amy ac Emrys i gyd wedi addo helpu Dafydd gyda\u2019r cymhwyster  os bydd angen cymorth ychwanegol arno.<\/p>\n<p>\u201cMae Dafydd yn cael trafferth prosesu rhai geiriau Saesneg ond yn teimlo bod y cwrs yn llawer haws ei ddeall yn y Gymraeg,\u201d meddai Haydn. \u201cRwy\u2019n credu ei bod hi\u2019n wych bod Dafydd wedi agor y drws i bobl eraill a hoffai wneud eu NVQ yn eu mamiaith yn y dyfodol.<\/p>\n<p>\u201cMae Cwmni Hyfforddiant Cambrian wedi bod yn gefnogol iawn o Dafydd o\u2019r dechrau\u2019n deg sydd wedi\u2019i alluogi i fynd ar y cwrs ac maen nhw wedi gwneud y broses ddysgu\u2019n llawer haws ei rheoli ac yn effeithiol iddo.\u201d<\/p>\n<p>Mae Amy yn hyderus y bydd Dafydd, sydd \u00e2 TGAU mewn Mathemateg a Chelf, yn cwblhau\u2019r cymhwyster ochr yn ochr \u00e2\u2019i gydweithwyr. \u201cMae\u2019n gwneud yn dda iawn hyd yma ac mae ei atebion yn bodloni\u2019r meini prawf bob amser,\u201d meddai. \u201cMae\u2019n angerddol iawn ynghylch ailgylchu.<\/p>\n<p>\u201cRydym yn trafod trwy\u2019n holl sesiynau yn y Gymraeg ac yn cellwair ei fod yn fy helpu i wella fy Nghymraeg oherwydd mae\u2019n ail iaith i mi. Dyma\u2019r tro cyntaf i Gwmni Hyfforddiant Cambrian gyflwyno cymhwyster mewn rheoli adnoddau yn gynaliadwy yn y Gymraeg oherwydd nid oes neb wedi gofyn o\u2019r blaen.\u201d<\/p>\n<p>Rhoddodd ganmoliaeth i Antur Waunfawr am gyflogi, cefnogi ac integreiddio pobl gydag anableddau dysgu a dywedodd y byddai\u2019n enwebu\u2019r cwmni am un o wobrau Cyflogwr y Flwyddyn Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn 2018.<\/p>\n<p>Mae Antur Waunfawr yn fenter gymdeithasol sy\u2019n darparu cyfleoedd gwaith a hyfforddiant i bobl gydag anableddau dysgu yn eu cymuned. Cyfloga\u2019r elusen dros 90 aelod o staff ac mae\u2019n cefnogi dros 60 o oedolion gydag anableddau dysgu.<\/p>\n<p>Mae Llywodraeth Cymru\u2019n awyddus i gynyddu\u2019r cyfleoedd i ddysgwyr ymgymryd \u00e2 phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu\u2019n ddwyieithog. Mae am sicrhau bod pob dysgwr yn cael cyfle i gynnal a datblygu eu sgiliau yn y Gymraeg.<\/p>\n<p><strong>Dysgwch fwy am <a href=\"https:\/\/businesswales.gov.wales\/skillsgateway\/cy\/prentisiaethau\">brentisiaethau<\/a> heddiw<\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae technegydd plastigion mewn canolfan ailgylchu yng Ngogledd Cymru\u2019n elwa ar ymgyrch Llywodraeth Cymru i gyflwyno prentisiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg. Cyflogir Dafydd Emrys, sy\u2019n 34 oed, yn safle Caergylchu\u2019r fenter gymdeithasol Antur Waunfawr yng Nghaernarfon. Mae &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/dafydd-yn-agor-y-drws-i-brentisiaid-cymraeg-eu-hiaith-y-dyfodol\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-5418","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5418","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5418"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5418\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8797,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5418\/revisions\/8797"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5418"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5418"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5418"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}