{"id":5586,"date":"2018-03-12T10:00:38","date_gmt":"2018-03-12T10:00:38","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=5586"},"modified":"2018-03-12T11:48:48","modified_gmt":"2018-03-12T11:48:48","slug":"dechrau-chwilio-am-ser-gwobrau-prentisiaethau-cymru-2018","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/dechrau-chwilio-am-ser-gwobrau-prentisiaethau-cymru-2018\/","title":{"rendered":"Dechrau chwilio am s\u00ear Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2018"},"content":{"rendered":"<div id=\"attachment_9853\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2018\/03\/01.09.17-mh-Tata-Steel-Apprentices-23-e1520702054272.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-9853\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2018\/03\/01.09.17-mh-Tata-Steel-Apprentices-23-e1520702054272.jpg\" alt=\"Training delivery manager Huw Mathias with apprentices at Tata Steel in Port Talbot.\" width=\"460\" height=\"286\" class=\"size-full wp-image-9853\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-9853\" class=\"wp-caption-text\">Y rheolwr cyflenwi hyfforddiant, Huw Mathias, gyda phrentisiaid ar safle Tata Steel ym Mhort Talbot.<br \/><\/p><\/div>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/hunt-begins-for-apprenticeship-awards-cymru-stars-of-2018\/\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/dechrau-chwilio-am-ser-gwobrau-prentisiaethau-cymru-2018\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae cyflogwyr, dysgwyr a darparwyr dysgu llwyddiannus ledled Cymru\u2019n cael eu hannog i ymgeisio am Wobrau Prentisiaethau Cymru 2018 sy\u2019n cael eu lansio heddiw (dydd Llun).<\/p>\n<p>Bwriad y gwobrau blynyddol pwysig hyn yw arddangos a dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.<\/p>\n<p>Mae ffurflenni cais ar gael i\u2019w lawrlwytho o <a href=\"https:\/\/beta.llyw.cymru\/gwobrau-prentisiaethau-cymru\">llyw.cymru\/gwobrauprentisiaethaucymru<\/a> a\u2019r dyddiad cau yw hanner dydd ar 4 Mai. <\/p>\n<p>Ar \u00f4l derbyn y ceisiadau, bydd rhestrau byrion yn cael eu paratoi mewn 11 dosbarth am y gwobrau a gyflwynir mewn seremoni fawreddog yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd ar 9 Tachwedd 2018.<\/p>\n<p>Yn y dosbarth cyflogadwyedd, mae gwobrau ar gyfer Dysgwr y Flwyddyn (Hyfforddeiaethau), Ymgysylltu a Lefel 1. Mae gwobrau hefyd ar gyfer Prentis Sylfaen, Prentis a Phrentis Uwch y flwyddyn.<\/p>\n<p>Mae dosbarth y busnesau\u2019n cynnwys gwobrau i gyflogwyr bach (1 i 49 o weithwyr), canolig (50 i 249), mawr (250 to 4,999) a macro-gyflogwyr (5,000+), a bydd ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yn cystadlu am wobrau asesydd a thiwtor y flwyddyn.<\/p>\n<p>Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop. <\/p>\n<p>Mae cwmni sy\u2019n datblygu ei ffrwd ei hunan o brentisiaid dawnus ers hanner canrif yn annog cyflogwyr, dysgwyr a darparwyr dysgu yng Nghymru i ymgeisio am y gwobrau eleni.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l i gwmni Tata Steel ennill Gwobr Macro-gyflogwr y Flwyddyn y llynedd aeth Huw Mathias, rheolwr cyflenwi hyfforddiant y cwmni ym Mhort Talbot, ati i danlinellu pwysigrwydd prentisiaethau.<\/p>\n<p>Dros gyfnod o 50 mlynedd, mae\u2019r cwmni wedi hyfforddi tua 5,000 o brentisiaid ac mae ganddynt ran ganolog i\u2019w chwarae yn y busnes. \u201cNhw yw\u2019n dyfodol ni a hebddyn nhw fyddai gennym ni ddim diwydiant dur cynaliadwy,\u201d meddai Huw.<\/p>\n<p>\u201cMae prentisiaethau\u2019n sicrhau bod gan y cwmni ffrwd barod o ddoniau. Roedd Tata Steel wrth eu bodd yn ennill y wobr. Mae wedi tynnu sylw rhai o brif arweinwyr y busnes, llawer ohonynt yn gyn-brentisiaid, at ein rhaglen brentisiaethau.<\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n cynghori busnesau a dysgwyr i ymgeisio am Wobrau Prentisiaethau Cymru. Hyd yn oed pe na baem wedi ennill gwobr, byddai wedi bod yn brofiad braf a gwerth chweil cymryd cam yn \u00f4l ac ystyried y gwaith rydyn ni wedi\u2019i wneud. Weithiau, rydych yn anghofio cymaint y mae\u2019ch busnes wedi\u2019i gyflawni.\u201d<\/p>\n<p>Ers iddynt ennill y wobr, mae Tata Steel wedi croesawu cwmn\u00efau eraill o Gymru i ymweld \u00e2 nhw er mwyn rhannu eu profiadau o brentisiaethau. Ar hyn o bryd, mae\u2019r cwmni\u2019n cyflogi 301 o brentisiaid ac mae wedi recriwtio 122 dros y flwyddyn ddiwethaf. Y flwyddyn nesaf, mae\u2019n disgwyl y bydd ganddynt 339 o brentisiaid, yn cynnwys rhai rhwng 16 ac 19 oed a gweithwyr h\u0177n.<\/p>\n<p>Y drafferth i recriwtio gweithwyr medrus mewn gweithle byd-eang sy\u2019n mynd yn fwyfwy cystadleuol oedd un o\u2019r prif resymau pam y datblygodd Tata Steel ei Raglen Brentisiaethau. Gan fod y gweithlu\u2019n heneiddio, mae angen i\u2019r cwmni sicrhau ei fod yn hyfforddi ac yn datblygu gweithwyr medrus a fydd yn gallu parhau \u00e2&#8217;r gwaith dros y blynyddoedd nesaf.<\/p>\n<p>Wrth lansio\u2019r gwobrau, dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan: \u201cMae prentisiaethau\u2019n ffordd wych i unigolion feithrin sgiliau gwerthfawr a phrofiad ac ennill cyflog ar yr un pryd, ac i gyflogwyr sicrhau bod y sgiliau angenrheidiol gan eu gweithlu i baratoi\u2019r busnes ar gyfer y dyfodol.<\/p>\n<p>\u201cNi fu erioed yn bwysicach cynyddu sgiliau lefel uwch a datblygu llwybrau sgiliau er budd Cymru gyfan.<\/p>\n<p>\u201cMae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn tynnu sylw at lwyddiant Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru trwy ddangos yr hyn y mae ein prentisiaid, ein cyflogwyr, ein darparwyr dysgu a\u2019n hyfforddeion disglair wedi\u2019i gyflawni.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae cyflogwyr, dysgwyr a darparwyr dysgu llwyddiannus ledled Cymru\u2019n cael eu hannog i ymgeisio am Wobrau Prentisiaethau Cymru 2018 sy\u2019n cael eu lansio heddiw (dydd Llun). Bwriad y gwobrau blynyddol pwysig hyn yw arddangos a dathlu llwyddiant &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/dechrau-chwilio-am-ser-gwobrau-prentisiaethau-cymru-2018\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-5586","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5586","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5586"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5586\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5586"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5586"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5586"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}