{"id":5635,"date":"2018-04-22T14:51:05","date_gmt":"2018-04-22T14:51:05","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=5635"},"modified":"2018-04-22T14:51:05","modified_gmt":"2018-04-22T14:51:05","slug":"dyddiad-cau-gwobrau-prentisiaethau-cymru-2018-yn-agosau","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/dyddiad-cau-gwobrau-prentisiaethau-cymru-2018-yn-agosau\/","title":{"rendered":"Dyddiad cau Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2018 yn agos\u00e1u"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2018\/04\/App-Awards-27-e1524408259820.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2018\/04\/App-Awards-27-e1524408259820.jpg\" alt=\"App Awards 27\" width=\"480\" height=\"320\" class=\"alignleft size-full wp-image-9912\" \/><\/a><\/p>\n<p>Mae 4 Mai, y dyddiad cau ar gyfer cyflogwyr, dysgwyr a darparwyr dysgu sy\u2019n awyddus i ymgeisio am Wobrau Prentisiaethau Cymru, yn prysur agos\u00e1u.<\/p>\n<p>Bwriad y gwobrau blynyddol pwysig yw arddangos a dathlu llwyddiant eithriadol prentisiaid, hyfforddeion, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygu a chyflenwi rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.<\/p>\n<p><strong>Mae ffurflenni cais y gwobrau ar gael i\u2019w lawrlwytho o  <a href=\"https:\/\/beta.llyw.cymru\/gwobrau-prentisiaethau-cymru\">llyw.cymru\/gwobrauprentisiaethaucymru<\/a> a\u2019r dyddiad cau yw hanner dydd ar 4 Mai<\/strong>. <\/p>\n<p>Ar \u00f4l derbyn y ceisiadau, bydd rhestrau byrion yn cael eu paratoi mewn 11 dosbarth am y gwobrau a gyflwynir mewn seremoni fawreddog yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd ar 9 Tachwedd 2018. Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).<\/p>\n<p>Yn y dosbarth cyflogadwyedd, mae gwobrau ar gyfer Dysgwr y Flwyddyn (Hyfforddeiaethau), Ymgysylltu a Lefel 1. Mae tair gwobr hefyd yn y dosbarth prentisiaethau, ar gyfer Prentis Sylfaen, Prentis a Phrentis Uwch gorau\u2019r flwyddyn.<\/p>\n<p>Mae dosbarth y busnesau\u2019n cynnwys gwobrau i gyflogwyr bach (1 i 49 o weithwyr), canolig (50 i 249), mawr (250 to 4,999) a macro-gyflogwyr (5,000+), a bydd ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yn cystadlu am wobrau asesydd a thiwtor y flwyddyn.<\/p>\n<p>Dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan: \u201cMae prentisiaethau\u2019n ffordd wych i unigolion feithrin sgiliau gwerthfawr a phrofiad ac ennill cyflog ar yr un pryd, ac i gyflogwyr sicrhau bod y sgiliau angenrheidiol gan eu gweithlu i baratoi\u2019r busnes ar gyfer y dyfodol.<\/p>\n<p>\u201cNi fu erioed yn bwysicach cynyddu sgiliau lefel uwch a datblygu llwybrau sgiliau er budd Cymru gyfan. Trwy brentisiaethau, gall cyflogwyr elwa ar hyfforddiant o safon uchel a fydd yn golygu bod y sgiliau angenrheidiol gan weithlu\u2019r dyfodol i sicrhau bod Cymru\u2019n dal yn gystadleuol.<\/p>\n<p>\u201cMae gennym ddysgwyr, cyflogwyr ac ymarferwyr eithriadol iawn yng Nghymru ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn cydnabod llwyddiant rhai sydd wedi rhagori yn y gweithle neu wedi mynd yr ail filltir i gefnogi\u2019r bobl y maen nhw\u2019n gweithio gyda nhw.<\/p>\n<p>\u201cOs ydych chi neu\u2019ch busnes yn cymryd rhan mewn rhaglenni hyfforddeiaethau neu brentisiaethau, hoffwn eich annog i gyflwyno\u2019ch cais.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae 4 Mai, y dyddiad cau ar gyfer cyflogwyr, dysgwyr a darparwyr dysgu sy\u2019n awyddus i ymgeisio am Wobrau Prentisiaethau Cymru, yn prysur agos\u00e1u. Bwriad y gwobrau blynyddol pwysig yw arddangos a dathlu llwyddiant eithriadol prentisiaid, hyfforddeion, cyflogwyr, tiwtoriaid ac &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/dyddiad-cau-gwobrau-prentisiaethau-cymru-2018-yn-agosau\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-5635","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5635","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5635"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5635\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5635"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5635"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5635"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}