{"id":5638,"date":"2018-03-21T10:00:34","date_gmt":"2018-03-21T10:00:34","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=5638"},"modified":"2018-04-22T15:20:00","modified_gmt":"2018-04-22T15:20:00","slug":"rhowch-lais-i-brentisiaid-mewn-penderfyniadau-am-brentisiaethau-meddair-gweinidog","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/rhowch-lais-i-brentisiaid-mewn-penderfyniadau-am-brentisiaethau-meddair-gweinidog\/","title":{"rendered":"Rhowch lais i brentisiaid mewn penderfyniadau am brentisiaethau, meddai\u2019r Gweinidog"},"content":{"rendered":"<div id=\"attachment_5619\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2017\/03\/speakers-teach-learn-2018-2-e1521146552861.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-5619\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2017\/03\/speakers-teach-learn-2018-2-e1521146552861.jpg\" alt=\"Ch-Dd: Kelly Edwards, Pennaeth Ansawdd Dysgu Seiliedig ar Waith NTfW; Sarah John, Cadeirydd Cenedlaethol NTfW; Eluned Morgan Gweinidog yr Iaith Gymraeg a Dysgu Gydol Oes; Peter Munday, Ymgynghorydd, Education and Training Foundation; Alex Rollason Dirprwy Lywydd UCM Cymru, Cymdeithas Genedlaethol y Prentisiaid a Dr Esther Barrett, Arbenigwr Pwnc (Addysgu, Dysgu ac Asesu), Jisc.\" width=\"460\" height=\"244\" class=\"size-full wp-image-5619\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-5619\" class=\"wp-caption-text\">Ch-Dd: Kelly Edwards, Pennaeth Ansawdd Dysgu Seiliedig ar Waith NTfW; Sarah John, Cadeirydd Cenedlaethol NTfW; Eluned Morgan Gweinidog yr Iaith Gymraeg a Dysgu Gydol Oes; Peter Munday, Ymgynghorydd, Education and Training Foundation; Alex Rollason Dirprwy Lywydd UCM Cymru, Cymdeithas Genedlaethol y Prentisiaid a Dr Esther Barrett, Arbenigwr Pwnc (Addysgu, Dysgu ac Asesu), Jisc.<\/p><\/div>\n<p>Mae Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan, yn awyddus i brentisiaid gael mwy o lais mewn penderfyniadau am brentisiaethau.<\/p>\n<p>Ym mhrif araith yr ail Gynhadledd Addysgu, Dysgu ac Asesu a drefnwyd gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd, Caerdydd, dywedodd wrth 200 o gynadleddwyr o fyd dysgu seiliedig ar waith fod dysgwyr yn bartneriaid allweddol yn y gwaith o sicrhau llwyddiant y system brentisiaethau yng Nghymru. <\/p>\n<p>\u201cMae angen i ni ganfod ffyrdd creadigol o roi llais y dysgwr wrth galon y system,\u201d meddai\u2019r Gweinidog. \u201cBydd lleisiau dysgwyr yn ganolog i ddatblygiadau yn y dyfodol.\u201d<\/p>\n<p>Addawodd y byddai\u2019n mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r \u201canghyfartalwch enfawr\u201d sydd rhwng llwybrau academaidd a rhai galwedigaethol yng Nghymru. \u201cRwy\u2019n benderfynol na chaiff dysgu galwedigaethol a dysgu seiliedig ar waith eu gweld fel perthynas tlawd i lwybrau academaidd,\u201d meddai.<\/p>\n<p>\u201cMae prentisiaeth o safon uchel mor werthfawr, os nad yn fwy gwerthfawr, na gradd o ran y potensial i ennill cyflog.\u201d <\/p>\n<p>Diolchodd i\u2019r cynadleddwyr am helpu i sicrhau bod Llywodraeth Cymru ar y trywydd iawn i gyrraedd y nod o 100,000 o brentisiaethau yn nhymor presennol y Cynulliad, ond pwysleisiodd bod angen prentisiaethau o safon uwch er mwyn cefnogi dysgwyr, cyflogwyr ac economi Cymru.<\/p>\n<p>Mae\u2019n bwysig bod pobl ifanc yn cael sgiliau priodol fel y gallant ystyried cychwyn eu busnesau eu hunain ac ymuno \u00e2\u2019r miloedd o bobl eraill hunan-gyflogedig sy\u2019n gyrru economi Cymru, meddai.<\/p>\n<p>Canolbwyntiodd ar feysydd yr oedd angen eu gwella, yn cynnwys gwneud rhagor o ddysgu yn y gweithle, gwella datblygiad sgiliau a rhoi cyfle i ddysgwyr ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.<\/p>\n<p>Yn ogystal, galwodd y Gweinidog am gyfleoedd ym maes hyfforddi a datblygu fel y gall ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith wella safonau dysgu.<\/p>\n<p>Ymhlith y siaradwyr eraill roedd Alex Rollason sydd newydd ei ethol yn ddirprwy lywydd UCM Cymru, cynrychiolydd Cymdeithas Genedlaethol y Prentisiaid a phrentis peirianyddol yng Ngholeg Cambria \u2013 y prentis cyntaf yn y Deyrnas Unedig i&#8217;w benodi&#8217;n swyddog gydag UCM.<\/p>\n<p>Croesawodd sylwadau\u2019r Gweinidog a chytuno y dylai prentisiaid gael llais ar benderfyniadau sy&#8217;n effeithio arnyn nhw yngl\u0177n \u00e2&#8217;u prentisiaethau. Hoffai weld Llywodraeth Cymru&#8217;n ei gwneud yn haws i ddysgwyr allu newid o lwybrau academaidd i rai galwedigaethol os ydynt yn sylweddoli eu bod wedi gwneud y dewis anghywir.<\/p>\n<p>Soniodd am ei brofiad ef fel prentis a dywedodd fod angen i bobl ifanc mewn ysgolion a\u2019u rhieni gael gwell cyngor am yrfaoedd a\u2019r holl opsiynau sy\u2019n agored iddynt yn hytrach na dim ond prifysgolion.<\/p>\n<p>Canmolwyd yr aelodau am wella\u2019u harferion dysgu ac addysgu gan Sarah John, cadeirydd NTfW, ond dywedodd bod bob amser le i wella ac i gofleidio them\u00e2u ehangach. Gobeithiai y byddai\u2019r cynadleddwyr yn rhannu arferion gorau a\u2019r syniadau newydd a gawsant yn y gynhadledd gyda chydweithwyr, dysgwyr a chyflogwyr.<\/p>\n<p>Cyhoeddodd Sarah fod yr NTfW, trwy weithio mewn partneriaeth \u00e2 Llywodraeth Cymru, wedi llwyddo i ymgysylltu \u00e2 mwy o gyflogwyr ers iddynt gael yr holl awgrymiadau o Borth Sgiliau Busnes Cymru a bod y galw am brentisiaethau uwch wedi codi chwech y cant i 22%. <\/p>\n<p>Erbyn hyn, mae mwy o gydweithio rhwng y rhwydwaith dysgu seiliedig ar waith a sefydliadau Addyg Bellach ac Addysg Uwch ac mae\u2019r negeseuon cadarnhaol am brentisiaethau wedi arwain at gynnydd yn y galw gan ddysgwyr a rhieni.<\/p>\n<p>Yn unol \u00e2 pholisi Llywodraeth Cymru, mae llwybrau prentisiaethau newydd yn cael eu creu, mae rhagor o weithwyr yn cwblhau prentisiaethau uwch ac mae mwy o bwyslais ar sectorau blaenoriaeth a bennir gan Bartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol.<\/p>\n<p>Cafodd y gynhadledd, \u2018Grymuso dysgwyr i sicrhau ffyniant yn y dyfodol\u2019, ei chefnogi a\u2019i rhanariannu gan Lywodraeth Cymru. <\/p>\n<p>Ymhlith y siaradwyr roedd Peter Munday, ymgynghorydd o\u2019r Education and Training Foundation, a amlinellodd y camau roedd ei sefydliad wedi\u2019u cymryd i godi safonau ac i sicrhau rhagoriaeth ymhlith athrawon ac aseswyr.<\/p>\n<p>Bu Dr Esther Barrett, arbenigwr mewn dysgu ac asesu gyda Jisc, sefydliad nid-er-elw\u2019r sectorau addysg uwch, addysg bellach a sgiliau yn y Deyrnas Unedig ym maes gwasanaethau a datrysiadau digidol, yn s\u00f4n am ddyfodol lle byddai robotiaid yn cymryd swyddi y mae pobl yn eu gwneud yn awr.<\/p>\n<p>Daeth Hayden Llewellyn, prif weithredwr Cyngor y Gweithlu Addysg, \u00e2\u2019r gynhadledd i ben trwy ganolbwyntio ar ddatblygiad proffesiynol ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yn y dyfodol ar \u00f4l iddynt gofrestru gyda\u2019r Cyngor. Dywedodd fod 2,600 \u2013 mwy nag a ragwelwyd yn wreiddiol \u2013 o ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith wedi cofrestru.<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan, yn awyddus i brentisiaid gael mwy o lais mewn penderfyniadau am brentisiaethau. Ym mhrif araith yr ail Gynhadledd Addysgu, Dysgu ac Asesu a drefnwyd gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/rhowch-lais-i-brentisiaid-mewn-penderfyniadau-am-brentisiaethau-meddair-gweinidog\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[24],"tags":[],"class_list":["post-5638","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-cynhadledd-addysgu-dysgu"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5638","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5638"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5638\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5638"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5638"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5638"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}