{"id":5748,"date":"2018-05-22T22:16:05","date_gmt":"2018-05-22T22:16:05","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=5748"},"modified":"2018-05-22T22:28:47","modified_gmt":"2018-05-22T22:28:47","slug":"cynhadledd-yn-gyfle-i-ddatgelu-dyfodol-y-sector-dysgu-seiliedig-ar-waith-yng-nghymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cynhadledd-yn-gyfle-i-ddatgelu-dyfodol-y-sector-dysgu-seiliedig-ar-waith-yng-nghymru\/","title":{"rendered":"Cynhadledd yn gyfle i ddatgelu dyfodol y sector dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2018\/05\/Email-Signature-600x200px-e1527028017240.gif\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2018\/05\/Email-Signature-600x200px-e1527028017240.gif\" alt=\"Email-Signature-480 image\" width=\"480\" height=\"160\" class=\"alignleft size-full wp-image-10082\" \/><\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/conference-set-to-reveal-future-for-work-based-learning-sector-in-wales\">English<\/a> | <a href=\" https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cynhadledd-yn-gyfle-i-ddatgelu-dyfodol-y-sector-dysgu-seiliedig-ar-waith-yng-nghymru\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Bydd arweinwyr y maes a rheolwyr dysgu seiliedig ar waith o bob rhan o Gymru\u2019n dod ynghyd yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd fis nesaf i ganfod beth sydd gan y dyfodol i\u2019w gynnig iddynt wrth iddynt ymdrechu i sicrhau gweithlu hynod fedrus er budd economi Cymru.<\/p>\n<p>Mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) wedi dewis \u2018Adeiladu economi hynod fedrus ar syllfeini cadarn\u2019 yn thema i\u2019w gynhadledd flynyddol ar 28 Mehefin.<\/p>\n<p>Mae\u2019r NTfW yn cynrychioli dros gant o sefydliadau sy\u2019n ymwneud \u00e2 dysgu yn y gweithle, o ddarparwyr hyfforddiant bach arbenigol i sefydliadau cenedlaethol a rhyngwladol, ynghyd ag awdurdodau lleol, Sefydliadau Addysg Bellach ac elusennau.<\/p>\n<p>\u201cMewn blwyddyn pan fynegodd Llywodraeth Cymru ei bwriad i adeiladu economi gref trwy gyflenwi sgiliau lefel uwch ac, ar yr un pryd, roi pwyslais o\u2019r newydd ar \u2018yr economi sylfaenol\u2019, ni fu erioed yn bwysicach darparu dysgu seiliedig ar waith, a hwnnw o safon uchel, yng Nghymru,\u201d meddai Sarah John, cadeirydd NTfW.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r sector dysgu seiliedig ar waith yn s\u00f4n llawer ar yr hyn allai ddigwydd yn y dyfodol ac mae\u2019r gynhadledd flynyddol yn gyfle gwych i bawb drafod yr hyn y gallwn ei wneud i gefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru o sicrhau ffyniant i bawb.\u201d<\/p>\n<p>Bydd y cynadleddwyr yn awyddus i ddysgu beth fydd gan Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, i&#8217;w ddweud am gynlluniau Llywodraeth Cymru. <\/p>\n<p>Un arall o\u2019r siaradwyr fydd Huw Morris, cyfarwyddwr sgiliau, addysg uwch a dysgu gydol oes gyda Llywodraeth Cymru, a fydd yn s\u00f4n am sicrhau cyflogadwyedd a sgiliau sy\u2019n sicrhau ffyniant i bawb.<\/p>\n<p>Bydd yr Athro Karel Williams o Brifysgol Manceinion yn siarad am adeiladu sylfeini cadarn ar gyfer twf economaidd a bydd cynrychiolwyr cyflogwyr yn cyflwyno&#8217;u safbwynt nhw ar brentisiaethau yng Nghymru.<\/p>\n<p>Cynhelir cyfres o weithdai trwy gydol y dydd i drafod materion sy\u2019n arbennig o berthnasol i\u2019r sector dysgu seiliedig ar waith.<\/p>\n<p>Bydd y gweithdai\u2019n mynd i\u2019r afael \u00e2 Hynt y Cynllun Polisi Sgiliau Prentisiaethau, deall y Cynllun Gweithredu Cyflogadwyedd, r\u00f4l Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol yng nghyd-destun y Dinas Ranbarthau a cheisiadau am arian o\u2019r Gronfa Twf Rhanbarthol, datblygiad Prentisiaethau Gradd ac addysg a hyfforddiant \u00f4l-orfodol yng Nghymru a gweithredu cadarnhaol er mwyn ehangu mynediad i\u2019r Rhaglen Brentisiaethau.<\/p>\n<p>Ymhlith y pynciau eraill fydd adolygiad o 12 mis cyntaf y broses o gofrestru ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (EWC), \u2018Gyrfa Cymru &#8211; symud y tu hwnt i\u2019r Weledigaeth\u2019 a chanfyddiadau cychwynnol allweddol trefniadau arolygu newydd Estyn.<\/p>\n<p>Bydd cyflwynwyr y gweithdai\u2019n cynnwys Iwan Thomas, Jane Lewis a Karen Higgins sy\u2019n rheolwyr Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol, yr Athro Chantal Davies, Athro\u2019r Gyfraith, Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, Prifysgol Caer, Hayden Llewellyn, prif weithredwr yr EWC, Mandy Ifans, pennaeth cyngor cyflogaeth gyda Gyrfa Cymru, Dr Neil Surman, dirprwy gyfarwyddwr addysg uwch gyda Llywodraeth Cymru, Arolygwr Ei Mawrhydi gydg Estyn, Mark Evans, Angela West, rheolwr cyflogadwyedd a sgiliau Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, Cassy Taylor, Cyfarwyddwr Cyswllt Cymwysterau Galwedigaethol, Cymwysterau Cymru ac Edwyn Williams, pennaeth ymgysylltu cyflogadwyedd gyda Llywodraeth Cymru.<\/p>\n<p>Gellir prynu tocynnau ar gyfer y gynhadledd trwy fynd i <a href\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cynhadledd-ntfw\/ffurflen-i-gadw-lle-a-rhaglen\/\">https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cynhadledd-ntfw\/ffurflen-i-gadw-lle-a-rhaglen\/<\/a> ac mae nifer o ostyngiadau os ydych yn cadw lle cyn 31 Mai.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Bydd arweinwyr y maes a rheolwyr dysgu seiliedig ar waith o bob rhan o Gymru\u2019n dod ynghyd yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd fis nesaf i ganfod beth sydd gan y dyfodol i\u2019w gynnig iddynt wrth &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cynhadledd-yn-gyfle-i-ddatgelu-dyfodol-y-sector-dysgu-seiliedig-ar-waith-yng-nghymru\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[9],"tags":[],"class_list":["post-5748","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-cynhadledd-ntfw"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5748","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5748"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5748\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5748"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5748"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5748"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}