{"id":5784,"date":"2018-05-25T12:01:18","date_gmt":"2018-05-25T12:01:18","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=5784"},"modified":"2018-06-21T10:50:57","modified_gmt":"2018-06-21T10:50:57","slug":"myfyriwr-cyrsiau-awyr-agored-ar-fin-cychwyn-ar-antur-ar-fwrdd-llong-elusen-her-cymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/myfyriwr-cyrsiau-awyr-agored-ar-fin-cychwyn-ar-antur-ar-fwrdd-llong-elusen-her-cymru\/","title":{"rendered":"Myfyriwr cyrsiau Awyr Agored ar fin cychwyn ar antur ar fwrdd llong elusen Her Cymru!"},"content":{"rendered":"<div id=\"attachment_10096\" style=\"width: 287px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2018\/05\/Aron-Tregenza.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-10096\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2018\/05\/Aron-Tregenza.jpg\" alt=\"Arron Tregenza\" width=\"277\" height=\"370\" class=\"size-full wp-image-10096\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-10096\" class=\"wp-caption-text\">Arron Tregenza<\/p><\/div>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/outdoor-student-and-sailing-novice-to-go-on-wales-challenge-tall-ships-adventure\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/myfyriwr-cyrsiau-awyr-agored-ar-fin-cychwyn-ar-antur-ar-fwrdd-llong-elusen-her-cymru\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p>Mae Arron Tregenza, myfyriwr o gampws Coleg Meirion-Dwyfor yn Nolgellau wrthi&#8217;n paratoi ar gyfer ei antur awyr agored fawr nesaf, ac mi fydd hon yn dipyn o her.<\/p>\n<p>Mae Arron o Ddyffryn Ardudwy ar hyn o bryd yn dilyn cwrs BTEC ym maes Antur Awyr Agored ar gampws Dolgellau, ac yn hen law ar wynebu heriau yn yr awyr agored.   Roedd wrth ei fodd felly i glywed ei fod wedi bod yn llwyddiannus gyda&#8217;i gais i gymryd rhan ym mhrosiect Her Cymru. <\/p>\n<p>Dyma her fydd yn profi ei gariad antur yn ogystal \u00e2&#8217;i wybodaeth dechnegol i&#8217;r eithaf, mi fydd yn hwylio ar daith heriol 10 diwrnod o hyd fel rhan o Regatta Three Festivals Tall Ships.  Dydy Arron ddim yn forwr a does ganddo fawr o brofiad yn y maes, felly mi fydd hon yn her fwy na&#8217;r cyffredin iddo.<\/p>\n<p>Bydd yn cychwyn ar y daith yn Lerpwl ar 27 Mai 2018, yn hwylio gyda gweddill y criw i Ddulyn cyn gorffen yng Nghaerdydd deg diwrnod yn ddiweddarach.<\/p>\n<p>Llwyddodd Arron i ddod o hyd i gyllid i gyflawni&#8217;r daith gan gynllun bwrsariaeth Sail Training International ynghyd ag elusen Her Cymru.<br \/>\nMae Her Cymru yn elusen hyfforddi hwylio wedi&#8217;i lleoli ym Mae Caerdydd.  Mae&#8217;n gyfrifol am nifer o longau hwylio yn cynnwys Cwch Hwylio Challenge Wales &#8211; cwch hwylio 72 troedfedd o hyd sy&#8217;n barod i hwylio o amgylch y byd.  Mae hefyd yn gyfrifol am Adventure Wales, sgwner 60 troedfedd gyda dau fast.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r elusen yn cynorthwyo pawb sy&#8217;n mentro ar ei bwrdd i ddatblygu eu sgiliau personol a chymdeithasol; mae&#8217;n rhoi teimlad o bwrpas ac yn codi hyder unigolion ynghyd ag ehangu eu gorwelion. Dysgir hefyd waith t\u00eem a sgiliau arwain yn ystod eu cyfnod ar fwrdd y llong.<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\"><strong>Dywedodd Arron:<\/strong><br \/>\nDw i&#8217;n teimlo ei bod hi&#8217;n anrhydedd mawr i gael fy enwebu i gymryd rhan yn Regatta&#8217;r Tall Ships.   Dw i&#8217;n edrych ymlaen at ddatblygu fy sgiliau hwylio yn ystod y fordaith a chwrdd \u00e2 phobl newydd o bob cefndir.<\/em><\/p><\/blockquote>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\"><strong>Meddai Delyth Jones, Cydlynydd Antur Awyr Agored ar gampws Dolgellau:<\/strong><br \/>\nDa iawn Arron am ddefnyddio ei grebwyll i ddod o hyd i gyllid fel y gallai dderbyn y cynnig anhygoel hwn o hwylio ar Regatta Three Festivals Tall Ships.  Mae pawb yma&#8217;n falch iawn ei fod wedi ennill lle ar fwrdd y llong a dw i&#8217;n si\u0175r bydd hon yn antur unwaith mewn bywyd.<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Dylai&#8217;r sgiliau mae wedi&#8217;u meithrin ar y cwrs Antur Awyr Agored yn Nolgellau fod o ddefnydd mawr iddo ar y fordaith.  Ein bwriad yma yn y coleg ydy meithrin hyder ein myfyrwyr, eu dysgu i wneud penderfyniadau doeth, meithrin eu gallu technegol yn ogystal \u00e2&#8217;r ochr fentrus, a chael hwyl wrth ddysgu wrth gwrs!  <\/p>\n<p>Rhaid diolch i gynllun Bwrsariaeth Sail Training International ynghyd ag elusen Her Cymru am gynnig y cyfle gwych hwn i Arron.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.gllm.ac.uk\/news\/2147490465\/?LangType=2057\">Gr\u0175p Llandrillo Menai news<\/a><\/p>\n<p>I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i\u2019r adran <a href=\"https:\/\/businesswales.gov.wales\/skillsgateway\/cy\/prentisiaethau\">Prentisiaethau<\/a> ar wefan Busnes Cymru neu i gofrestru eich diddordeb mewn prentisiaethau, gallwch gwblhau ein <a href=\"https:\/\/businesswales.gov.wales\/skillsgateway\/cy\/prentisiaethau-0\">ffurflen Datganiad o Ddiddordeb<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae Arron Tregenza, myfyriwr o gampws Coleg Meirion-Dwyfor yn Nolgellau wrthi&#8217;n paratoi ar gyfer ei antur awyr agored fawr nesaf, ac mi fydd hon yn dipyn o her. Mae Arron o Ddyffryn Ardudwy ar hyn o bryd &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/myfyriwr-cyrsiau-awyr-agored-ar-fin-cychwyn-ar-antur-ar-fwrdd-llong-elusen-her-cymru\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-5784","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5784","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5784"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5784\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5784"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5784"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5784"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}