{"id":5806,"date":"2018-06-01T19:34:37","date_gmt":"2018-06-01T19:34:37","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=5806"},"modified":"2018-06-21T11:03:00","modified_gmt":"2018-06-21T11:03:00","slug":"adeiladu-sgiliau-adeiladwaith-mewn-prosiect-yn-serbia","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/adeiladu-sgiliau-adeiladwaith-mewn-prosiect-yn-serbia\/","title":{"rendered":"Adeiladu sgiliau adeiladwaith mewn prosiect yn Serbia"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/building-construction-skills-in-serbia\">English | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/adeiladu-sgiliau-adeiladwaith-mewn-prosiect-yn-serbia\">Welsh<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_10126\" style=\"width: 490px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2018\/06\/dylanevansweb-1-e1527881537228.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-10126\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2018\/06\/dylanevansweb-1-e1527881537228.jpg\" alt=\"Shared apprentice Dylan Evans explaining his role in Serbia to his colleagues at electrical company, Bullock Brothers.\" width=\"480\" height=\"274\" class=\"size-full wp-image-10126\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-10126\" class=\"wp-caption-text\">Dylan Evans yn esbonio ei r\u00f4l yn Serbia i&#8217;w gydweithwyr yn y cwmni trydanol, Bullock Brothers.<\/p><\/div>\n<p>Mae prentis adeiladu yng Ngholeg Sir G\u00e2r yn paratoi ar gyfer lleoliad gwaith rhyngwladol lle bydd yn adeiladu gorsaf d\u00e2n ar gyfer criw o wirfoddolwyr sy&#8217;n gyfrifol am ymladd tanau mewn coedwigoedd.<\/p>\n<p>Mae Dylan Evans o Langyndeyrn yn cael ei gyflogi fel prentis trydanol ar y cyd gan Sgiliau Adeiladu Cyfle, a bydd cyn bo hir yn rhan o weithlu medrus sy&#8217;n codi adeilad newydd ar gyfer 22 o ddiffoddwyr t\u00e2n ym mhentref Tometino Polje yn Serbia.<\/p>\n<p>Bydd dau d\u00eem o brentisiaid o Goleg Sir G\u00e2r a Choleg Ceredigion yn ymuno \u00e2 Dylan ar y lleoliad gwaith yn ddiweddarach y mis hwn (Mehefin). <\/p>\n<p>Yn ystod ei brentisiaeth, mae Dylan hefyd wedi gweithio yn Kachumbala yn Uganda lle bu&#8217;n helpu i reoli prosiect ar gyfer ward famolaeth newydd i&#8217;r pentref ac mae wedi cefnogi cynllun cymunedol yn Zamak, gorllewin Serbia.<\/p>\n<p>Gan ddychwelyd i&#8217;r coleg fel myfyriwr h\u0177n yn dilyn gyrfa yn y Corfflu Logisteg Brenhinol, roedd gan Dylan ddyheadau am ddysgu crefft fel rhan o raglen brentisiaeth. Darganfu yn fuan fod ei oedran a&#8217;i ddiffyg profiad yn rhwystr ac fe wnaeth gais am y Cynllun Prentis ar y Cyd sy&#8217;n cael ei redeg gan Sgiliau Adeiladu Cyfle ac fe wnaeth hyn ei helpu i gyflawni ei nod. Mae bellach wedi cwblhau lefel dau a thri o&#8217;i gymwysterau trydanol ac mae&#8217;n gobeithio symud ymlaen i HND neu radd sylfaen tra&#8217;n parhau \u00e2&#8217;i brentisiaeth.<\/p>\n<p>Meddai Anthony Rees, swyddog datblygu Sgiliau Adeiladu Cyfle, sydd wedi&#8217;i leoli ar gampws Coleg Sir G\u00e2r yn Rhydaman: &#8220;Mae Dylan yn llysgennad rhagorol i&#8217;r coleg a&#8217;r diwydiant adeiladu ac o ganlyniad i&#8217;w brofiad yn Uganda, mae wedi cael mwy o gyfrifoldeb yn y gweithle gan ei gontractwr yno.<\/p>\n<p>&#8220;Mae&#8217;r Cynllun Prentis ar y Cyd yn caniat\u00e1u i brentisiaid symud o fewn gwahanol gwmn\u00efau, gan gynnig mwy o brofiad iddynt na chynlluniau traddodiadol.<\/p>\n<p>&#8220;Mae gweithio dramor yn gyfle gwych i&#8217;n prentisiaid ac mae&#8217;n cynnig sgiliau a phrofiad sy&#8217;n newid bywyd.&#8221;<\/p>\n<p>Mae Coleg Sir G\u00e2r wedi darparu nawdd am y daith ar gyfer y tair prentisiaeth yn defnyddio&#8217;r Gronfa Prifathro.<\/p>\n<p><a href=\"http:\/\/www.colegsirgar.ac.uk\/cy\/about-coleg-sir-gar\/college-news\/1725-adeiladu-sgiliau-adeiladwaith-mewn-prosiect-yn-serbia\">Coleg Sir G\u00e2r Newyddion<\/a><\/p>\n<p>I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i\u2019r adran <a href=\"https:\/\/businesswales.gov.wales\/skillsgateway\/cy\/prentisiaethau\">Prentisiaethau<\/a> ar wefan Busnes Cymru neu i gofrestru eich diddordeb mewn prentisiaethau, gallwch gwblhau ein <a href=\"https:\/\/businesswales.gov.wales\/skillsgateway\/cy\/prentisiaethau-0\">ffurflen Datganiad o Ddiddordeb<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Welsh Mae prentis adeiladu yng Ngholeg Sir G\u00e2r yn paratoi ar gyfer lleoliad gwaith rhyngwladol lle bydd yn adeiladu gorsaf d\u00e2n ar gyfer criw o wirfoddolwyr sy&#8217;n gyfrifol am ymladd tanau mewn coedwigoedd. Mae Dylan Evans o Langyndeyrn &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/adeiladu-sgiliau-adeiladwaith-mewn-prosiect-yn-serbia\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-5806","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5806","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5806"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5806\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5806"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5806"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5806"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}