{"id":5813,"date":"2018-06-22T11:49:19","date_gmt":"2018-06-22T11:49:19","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=5813"},"modified":"2018-06-22T12:23:47","modified_gmt":"2018-06-22T12:23:47","slug":"ymateb-ir-galw-am-brentisiaethau-o-safon-uchel","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ymateb-ir-galw-am-brentisiaethau-o-safon-uchel\/","title":{"rendered":"Ymateb i\u2019r galw am brentisiaethau o safon uchel"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/responding-to-the-demand-for-high-quality-apprenticeships\">English | <a href=\" https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ymateb-ir-galw-am-brentisiaethau-o-safon-uchel\">Welsh<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2018\/06\/pp-sarah-john-2.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2018\/06\/pp-sarah-john-2.jpg\" alt=\"pp-sarah-john-2\" width=\"170\" height=\"200\" class=\"alignleft size-full wp-image-10172\" \/><\/a><\/p>\n<p>Wrth i ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith baratoi ar gyfer eu cynhadledd flynyddol yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, mae Sarah John yn rhoi cipolwg i ni ar fyd prentisiaethau.<\/p>\n<p>Mae prentisiaethau\u2019n fwy perthnasol heddiw nag erioed, o ganlyniad i gyflwyno\u2019r Ardoll Brentisiaethau ledled y Deyrnas Unedig a\u2019r Polisi Prentisiaethau yng Nghymru, a gweithgarwch y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol sy\u2019n gysylltiedig \u00e2\u2019r Dinas-ranbarthau a\u2019r Bargeinion Twf Rhanbarthol.<\/p>\n<p>Felly, mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) yn gwneud mwy, ar y cyd \u00e2\u2019i aelodau, i helpu Llywodraeth Cymru a chyflogwyr er mwyn sicrhau bod prentisiaethau\u2019n ymateb i\u2019r galw ac yn cyrraedd safon uchel.<\/p>\n<p>Mae\u2019r Polisi Prentisiaethau yng Nghymru wedi arwain at ddatblygiad llwybrau prentisiaethau o Lefel 2 i Lefel 5, gan roi cyfle i\u2019r dysgwyr symud ymlaen trwy eu gyrfa a sicrhau cydweithio rhwng pawb sy\u2019n darparu addysg \u00f4l-16 er mwyn cael y canlyniad a ddymunir, sef ansawdd da.  <\/p>\n<p>Bu cynnydd yn y prentisiaethau uwch a ddarperir ar lefel 4 ac uwch sy\u2019n cynnwys cymwysterau proffesiynol ynghyd ag opsiynau traddodiadol yr HNC\/HND a\u2019r Radd Sylfaen. Mae cyflogwyr yn sylweddoli bod angen iddynt ddefnyddio costau\u2019r Ardoll Brentisiaethau trwy uwchsgilio\u2019u gweithlu, gwella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd, creu cyfleoedd i recriwtio prentisiaid a buddsoddi yn eu dyfodol, wrth i\u2019w sefydliadau dyfu.<\/p>\n<p>Mae angen i\u2019r llywodraeth gyfan gydweithio er mwyn i Gymru barhau\u2019n llwyddiannus, gan ddwyn ynghyd adrannau sy\u2019n gweithio\u2019n uniongyrchol gyda chyflogwyr sy\u2019n tyfu a chyfleoedd ar gyfer mewnfuddsoddiad er mwyn alinio\u2019r rhaglenni prentisiadau i\u2019w paratoi ar gyfer y galw yn y dyfodol.<\/p>\n<p>Bydd r\u00f4l Bwrdd Cynghori Prentisiaethau Cymru yn hanfodol er mwyn creu a diweddaru rhaglenni prentisiaethau hen a newydd wrth i\u2019r galw gan gyflogwyr newid a bod angen prentisiaethau newydd. Mae gan y bwrdd ran allweddol i\u2019w chwarae\u2019n sicrhau y gellir cynnal ansawdd a bodloni anghenion sector-benodol, yn cynnwys cael cyflogwyr allweddol i gytuno i\u2019r newidiadau. <\/p>\n<p>Bydd yr NTfW yn parhau i gefnogi\u2019r bwrdd wrth i\u2019r gweithgarwch gynyddu. Byddwn yn dal i fod yn gyfryngwr, yn delio ag ymholiadau gan gyflogwyr trwy\u2019r Porth Sgiliau Busnes a thrwy benodi pum aelod newydd o\u2019r staff yn ddiweddar, gyda swyddog yn gweithio ym mhob rhan o Gymru, i arwain cyflogwyr i weithredu prentisiaethau\u2019n llwyddiannus yn eu sefydliadau nhw trwy\u2019r rhwydwaith darparwyr,<\/p>\n<p>Yn ogystal, mae\u2019r NTfW yn cyfrannu\u2019n llawn at ymgynghori ar ddyfodol Addysg a Hyfforddiant \u00d4l-orfodol (AHO) ar gyfer y sector 16+ yng Nghymru. Trwy bleidio manteision a llwyddiant prentisiaethau yng Nghymru, byddwn yn sicrhau bod gennym raglenni o safon uchel yn y dyfodol.<\/p>\n<p>Bydd llawer o\u2019r uwch-reolwyr a\u2019r arweinwyr sy\u2019n ymwneud \u00e2\u2019r sector addysg seiliedig ar waith yng Nghymru yn dod ynghyd yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd ar 28ain o Fehefin ar gyfer cynhadledd flynyddol yr NTfW.  Mae\u2019n gyfle iddynt canfod beth sydd o\u2019n blaen wrth i bawb ohonym ymdrechu i sicrhau gweithlu medrus iawn er budd economi Cymru. Gyda <strong><a href=\"http:\/\/www.cbac.co.uk\/?nav=2&#038;language_id=2\">CBAC<\/a><\/strong> fel y Prif Noddwr ac <strong><a href=\"https:\/\/www.agored.cymru\/Hafan\">Agored Cymru<\/a><\/strong>  a <strong><a href=\"https:\/\/qualifications.pearson.com\/en\/home.html\">Pearson<\/a><\/strong>  fel y Noddwyr Cyswllt y flwyddyn yma.<\/p>\n<p>\u2018Adeiladu economi hynod fedrus ar sylfeini cadarn\u2019 yw thema\u2019r gynhadledd ac ymhlith y prif siaradwyr mae Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes. Mae pawb ohonom yn awyddus i glywed yr hyn fydd gan y Gweinidog i\u2019w ddweud am gynlluniau Llywodraeth Cymru at y dyfodol. <\/p>\n<p>Mewn blwyddyn pan fynegodd Llywodraeth Cymru ei bwriad i adeiladu economi gref trwy gyflenwi sgiliau lefel uwch ac, ar yr un pryd, roi pwyslais o\u2019r newydd ar \u2018yr economi sylfaenol\u2019, ni fu erioed yn bwysicach darparu dysgu seiliedig ar waith, a hwnnw o safon uchel, yng Nghymru. <\/p>\n<p>Mae\u2019r sector dysgu seiliedig ar waith yn s\u00f4n llawer ar yr hyn allai ddigwydd yn y dyfodol ac mae\u2019r gynhadledd yn gyfle gwych i bawb drafod yr hyn y gallwn ei wneud i gefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru o sicrhau ffyniant i bawb.<\/p>\n<p>Mae\u2019r NTfW yn cynrychioli dros gant o sefydliadau sy\u2019n ymwneud \u00e2 dysgu yn y gweithle, o ddarparwyr hyfforddiant bach arbenigol i sefydliadau cenedlaethol a rhyngwladol, ynghyd ag awdurdodau lleol, Sefydliadau Addysg Bellach ac elusennau.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Welsh Wrth i ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith baratoi ar gyfer eu cynhadledd flynyddol yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, mae Sarah John yn rhoi cipolwg i ni ar fyd prentisiaethau. Mae prentisiaethau\u2019n fwy perthnasol heddiw nag erioed, &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ymateb-ir-galw-am-brentisiaethau-o-safon-uchel\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-5813","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5813","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5813"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5813\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5813"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5813"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5813"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}