{"id":5877,"date":"2018-06-17T10:00:42","date_gmt":"2018-06-17T10:00:42","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=5877"},"modified":"2018-06-21T10:58:05","modified_gmt":"2018-06-21T10:58:05","slug":"tom-prentis-gyda-dipyn-o-sbarc-yn-cavc-i-gynrychiolir-du-yn-euroskills","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/tom-prentis-gyda-dipyn-o-sbarc-yn-cavc-i-gynrychiolir-du-yn-euroskills\/","title":{"rendered":"Tom, prentis gyda dipyn o sbarc yn CAVC, i gynrychioli\u2019r DU yn EuroSkills"},"content":{"rendered":"<p><a href\"https:\/\/www.ntfw.org\/bright-spark-cavc-apprentice-tom-to-represent-uk-at-euroskills\">English | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/tom-prentis-gyda-dipyn-o-sbarc-yn-cavc-i-gynrychiolir-du-yn-euroskills\">Welsh<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2018\/06\/tom-lewis-cavc-e1528807557227.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2018\/06\/tom-lewis-cavc-e1528807557227.jpg\" alt=\"tom-lewis-cavc\" width=\"480\" height=\"320\" class=\"alignleft size-full wp-image-10225\" \/><\/a><\/p>\n<p>Mae prentis Gosodiadau Trydan yng Ngholeg Caerdydd a\u2019r Fro, Tom Lewis, wedi cael ei ddewis ar gyfer T\u00eem y DU yng nghystadleuaeth EuroSkills 2018 sydd i gael ei chynnal yn Budapest ym mis Medi.<\/p>\n<p>EuroSkills yw\u2019r bencampwriaeth Ewropeaidd ar gyfer pobl ifanc broffesiynol, ac mae\u2019n fersiwn rhanbarthol o gystadleuaeth WorldSkills. Mae pobl ifanc o bob cwr o Ewrop yn cystadlu mewn disgyblaethau amrywiol, o Adeiladu a Thechnegau Adeiladu i\u2019r Celfyddydau Creadigol a Ffasiwn. <\/p>\n<p>\u201cDoeddwn i ddim yn disgwyl cael fy newis ond roeddwn i\u2019n hapus iawn \u2013 pan gefais i\u2019r e-bost roeddwn i wrth fy modd,\u201d dywedodd Tom, 21 oed. \u201cRydw i\u2019n nerfus ond ar yr un pryd yn edrych ymlaen at y profiad, oherwydd fe fydd yn wych i mi.\u201d<\/p>\n<p>Mae Tom, sy\u2019n dod o Faesteg, wedi cael cefnogaeth drwy gydol y broses gan ei gyflogwr, Blues Electrical, a\u2019i Ddarlithydd Gosodiadau Trydan yn CAVC, Geoff Shaw.<br \/>\n\u201cMae Blues Electrical wedi bod yn gefnogol iawn, gan adael i mi fynd i hyfforddi ar y funud olaf. Maen nhw wedi fy helpu i ar hyd y ffordd,\u201d dywedodd Tom. \u201cMae Geoff wedi bod yn gr\u00eat hefyd, yn rhoi fy enw i yn yr holl gystadlaethau yma ac yn cael popeth roeddwn i ei angen i mi. Fe gafodd liniadur i mi\u2019n ddiweddar \u2013 ac mae\u2019n athro gwych.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Blues Electrical, David Chandler: \u201cMae ein rhaglen ni i fuddsoddi mewn prentisiaid wedi talu ar ei chanfed \u2013 mae tri o\u2019r chwech yn rownd derfynol y Sioe Sgiliau eleni\u2019n gweithio i Blues Electrical, sy\u2019n ganlyniad da. Mae ein targed o sicrhau bod 10% o\u2019r gweithlu\u2019n brentisiaid wedi arwain at y canlyniad priodol o ran cymryd rhan mewn cystadlaethau a\u2019n busnes ni o ddydd i ddydd.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Darlithydd Gosodiadau Trydan CAVC, Geoff Shaw: \u201cMae hwn yn newyddion gwych i Tom, ac yn gyfle arbennig iddo fe. Fe hoffwn i ddiolch i Blues Electrical am eu cefnogaeth ragorol iddo \u2013 maen nhw wir yn credu yn eu prentisiaid ac yn eu cefnogi.\u201d<br \/>\nDywedodd Dr Neil Bentley, Prif Weithredwr WorldSkills UK: \u201cFe hoffwn i longyfarch Tom. Bydd hwn yn gyfle i wella ei fywyd.     <\/p>\n<p>\u201cAr \u00f4l Brexit, bydd ein llwyddiant economaidd fel gwlad yn dibynnu ar ein gallu i sicrhau cytundebau masnach mawr a denu buddsoddiadau mewnol &#8211; a bydd hyn bob amser yn dibynnu ar ddangos bod gennym ni bobl \u00e2\u2019r sgiliau addas. Mae T\u00eem y DU yn dangos nid yn unig y nodweddion a\u2019r rhinweddau rydyn ni eisiau eu gweld mewn gweithlu ifanc, ond hefyd uchelgais Llywodraeth y DU a Phrydain Fyd-eang. <\/p>\n<p>\u201cDyma arweinwyr eu cenhedlaeth \u2013 ac fe fyddan nhw\u2019n ysbrydoli llawer mwy i ddilyn yn \u00f4l eu troed.\u201d<\/p>\n<p>Cyllidir y Rhaglen Prentisiaethau yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.     <\/p>\n<p><a href=\"http:\/\/www.cavc.ac.uk\/cy\/amdanom-ni\/newyddion\/tom-prentis-gyda-dipyn-o-sbarc-yn-cavc-i-gynrychiolir-du-yn-euroskills\/\">Newyddion Coleg Caerdydd a&#8217;r Fro<\/a><\/p>\n<p>I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i\u2019r adran <a href=\"https:\/\/businesswales.gov.wales\/skillsgateway\/cy\/prentisiaethau\">Prentisiaethau<\/a> ar wefan Busnes Cymru neu i gofrestru eich diddordeb mewn prentisiaethau, gallwch gwblhau ein <a href=\"https:\/\/businesswales.gov.wales\/skillsgateway\/cy\/prentisiaethau-0\">ffurflen Datganiad o Ddiddordeb<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Welsh Mae prentis Gosodiadau Trydan yng Ngholeg Caerdydd a\u2019r Fro, Tom Lewis, wedi cael ei ddewis ar gyfer T\u00eem y DU yng nghystadleuaeth EuroSkills 2018 sydd i gael ei chynnal yn Budapest ym mis Medi. EuroSkills yw\u2019r bencampwriaeth &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/tom-prentis-gyda-dipyn-o-sbarc-yn-cavc-i-gynrychiolir-du-yn-euroskills\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-5877","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5877","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5877"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5877\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5877"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5877"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5877"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}