{"id":5948,"date":"2018-07-03T10:33:00","date_gmt":"2018-07-03T10:33:00","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=5948"},"modified":"2018-07-05T14:46:49","modified_gmt":"2018-07-05T14:46:49","slug":"gweinidog-yn-diolch-i-ddarparwyr-hyfforddiant-cymru-ond-yn-galw-am-fwy-o-hwb-i-sgiliau","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/gweinidog-yn-diolch-i-ddarparwyr-hyfforddiant-cymru-ond-yn-galw-am-fwy-o-hwb-i-sgiliau\/","title":{"rendered":"Gweinidog yn diolch i ddarparwyr hyfforddiant Cymru ond yn galw am fwy o hwb i sgiliau"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/minister-thanks-wales-training-providers-but-wants-more-to-boost-skills\">English | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/gweinidog-yn-diolch-i-ddarparwyr-hyfforddiant-cymru-ond-yn-galw-am-fwy-o-hwb-i-sgiliau\">Welsh<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_10309\" style=\"width: 490px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2018\/07\/28.06.18-mh-NTFW-Conference-148-e1530613480811.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-10309\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2018\/07\/28.06.18-mh-NTFW-Conference-148-e1530613480811.jpg\" alt=\"L-R: Sarah Harris, Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Cymwysterau Galwedigaethol) , CBAC; Dr John Graystone, Cadeirydd Gweithredol y Bwrdd, Agored Cymru; Andrea Melvin, Pennaeth y Ddarpariaeth Ddysgu, Gr\u0175p Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes, Llywodraeth Cymru; Eluned Morgan AM, Anerchiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes a Sarah John, Cadeirydd, NTfW.  \" width=\"480\" height=\"291\" class=\"size-full wp-image-10309\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-10309\" class=\"wp-caption-text\">Ch-Dd: Sarah Harris, Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Cymwysterau Galwedigaethol) , CBAC; Dr John Graystone, Cadeirydd Gweithredol y Bwrdd, Agored Cymru; Andrea Melvin, Pennaeth y Ddarpariaeth Ddysgu, Gr\u0175p Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes, Llywodraeth Cymru; Eluned Morgan AM, Anerchiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes a Sarah John, Cadeirydd, NTfW.<br \/><\/p><\/div>\n<p>Roedd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan, yn llawn canmoliaeth i ddarparwyr dysgu gydol oes ledled Cymru yn eu cynhadledd flynyddol ond fe\u2019u heriodd hefyd i wneud hyd yn oed ragor i sicrhau gweithlu medrus iawn.<\/p>\n<p>Daeth dros 180 o gynadleddwyr ynghyd yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd i wrando ar y Gweinidog a nifer o siaradwyr eraill yn cyfeirio at y newid a welir ym maes cyflogaeth yng Nghymru, sy\u2019n golygu bod darparwyr hyfforddiant yn wynebu gofynion newydd.<\/p>\n<p>Thema cynhadledd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) oedd \u2018Adeiladu economi hynod fedrus ar sylfeini cadarn\u2019 a bu cryn dipyn o edrych i mewn i\u2019r belen risial i weld sut olwg fydd ar y dyfodol.<\/p>\n<p>Diolchodd y Gweinidog i aelodau\u2019r NTfW am helpu Llywodraeth Cymru i gadw at yr amserlen wrth geisio sicrhau bod 100,000 o bobl yn dechrau ar brentisiaethau o safon uchel yn ystod tymor presennol y Llywodraeth. Mae 24,000 wedi dechrau ar brentisiaethau yn y flwyddyn ddiwethaf.<\/p>\n<p>\u201cDiolch i bawb ohonoch am eich cyfraniad sylweddol at ddysgu gydol oes yng Nghymru ac am ein helpu i gyrraedd ein nod,\u201d meddai.<\/p>\n<p>Cyfeiriodd at bwysigrwydd dysgu gydol oes a dweud wrth y cynadleddwyr: \u201cBeth bynnag y buom yn ei wneud hyd yma, mae angen rhoi hwb fawr iddo oherwydd mae disgwyl i\u2019r gweithiwr cyffredin newid swyddi 12 gwaith mewn oes \u2013 sy\u2019n golygu bod angen i bawb ohonom addasu.<\/p>\n<p>\u201cEr mwyn sicrhau ffyniant hirdymor i bawb, mae angen i ni feddwl a gwneud pethau\u2019n wahanol ac mae dysgu\u2019n hollbwysig. Mae\u2019n hanfodol meithrin diwylliant o ddysgu gydol oes er mwyn helpu pobl i symud i wahanol swyddi. Mae angen i ni feddwl am wahanol ddulliau o baratoi ar gyfer newidiadau mawr ym myd gwaith. Eich meddwl a\u2019r hyn a roddwch ynddo yw&#8217;r peth mwyaf gwerthfawr sydd gennych.\u201d<\/p>\n<p>Datgelodd fod Llywodraeth Cymru\u2019n dymuno datblygu cyfrif dysgwr unigol i helpu gweithwyr i ailhyfforddi mewn sectorau lle mae prinder sgiliau. Galwodd ar gyflogwyr a darparwyr hyfforddiant i annog gweithwyr i uwchsgilio ac ymrwymo i ddysgu gydol oes a dywedodd ei bod yn hanfodol bod prentisiaethau yn cael yr un parch \u00e2 chymwysterau academaidd.<\/p>\n<p>Galwodd ar ddarparwyr hyfforddiant i ymateb yn well i anghenion cyflogwyr wrth gynllunio a chyflenwi hyfforddiant o safon uchel ac i ystyried y blaenoriaethau a bennir gan Bartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol.<\/p>\n<p>Mae pobl fregus mewn cymdeithas yn bwysig iddi hefyd. Er bod 79% o bobl Cymru sydd heb anableddau yn gweithio, dywedodd fod y ganran yn syrthio i 45% ar gyfer pobl anabl. Gofynnodd i\u2019r darparwyr annog cyflogwyr i ymgysylltu \u00e2 phobl anabl ac i\u2019w cyflogi.<\/p>\n<p>Dywedodd fod yr iaith Gymraeg yn \u201cun o drysorau Cymru\u201d a\u2019i bod yn awyddus i ragor o ddarparwyr hyfforddiant gyflenwi prentisiaethau yn y Gymraeg. Nod Llywodraeth Cymru yw sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.<\/p>\n<p>Mewn anerchiad oedd yn gwneud i chi feddwl, soniodd yr Athro Karel Williams, o Ysgol Fusnes Alliance Manchester am bwysigrwydd dysgu gydol oes a dywedodd bod angen i Gymru addasu ei pholis\u00efau hyfforddi i gefnogi perchnogion a rheolwyr meicro-fusnesau Cymru, sy\u2019n rhan mor fawr o economi\u2019r wlad.<\/p>\n<p>Rhybuddiodd y byddai awtomeiddio\u2019n \u201cnewid y byd o\u2019n cwmpas\u201d o fewn yr 20 mlynedd nesaf ac y byddai angen set wahanol o sgiliau ar weithwyr Cymru. Byddai awtomeiddio\u2019n golygu na fyddai angen llawer o sgiliau gwaith dwylo ond byddai angen sgiliau datrys problemau a chyfathrebu, sy\u2019n sgiliau trosglwyddadwy, ac yn gofyn am \u201cddeallusrwydd emosiynol\u201d.<\/p>\n<p>\u201cMae angen i ni ddwyn hyfforddiant seiliedig ar waith ac addysg alwedigaethol yn nes at ei gilydd er mwyn darparu hyfforddiant ar gyfer meicro-fusnesau,&#8221; meddai. \u201cDylem ddechrau holi pobl ifanc beth yw eu nod mewn bywyd a sut y gallwn ni eu helpu i gyrraedd y nod hwnnw.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Ian Price, cyfarwyddwr CBI Cymru, bod prinder sgiliau\u2019n dal yn broblem i gyflogwyr ledled Cymru a bod llawer o ffactorau\u2019n cyfrannu at hyn.<\/p>\n<p>Galwodd am roi\u2019r un parch i gymwysterau galwedigaethol ag i rai academaidd a dywedodd ei bod yn bryd i Lywodraeth Cymru gymryd camau i wella\u2019r cysylltiadau rhwng ysgolion a chyflogwyr ac i gyflwyno addysg drydyddol ledled Cymru. \u201cMae cymaint o waith i\u2019w wneud yn addysgu\u2019r addysgwyr,\u201d meddai.<\/p>\n<p>Dywedodd ei fod o blaid dull gweithredu hyblyg a chydgysylltiedig gan ysgolion, darparwyr hyfforddiant seiliedig ar waith, colegau addysg bellach, busnesau a Llywodraeth Cymru i ddarparu\u2019r sgiliau y mae cyflogwyr yn gofyn amdanynt.<\/p>\n<p>Ymhlith y siaradwyr eraill roedd Andrea Melvin, pennaeth y ddarpariaeth ddysgu seiliedig ar waith yn Llywodraeth Cymru, Dr John Greystone, cadeirydd gweithredol Agored Cymru a Sarah Harris o CBAC, prif noddwr y gynhadledd.<\/p>\n<p>Dywedodd Sarah Harris, y cyfarwyddwr cynorthwyol sy\u2019n gyfrifol am gymwysterau galwedigaethol, Bagloriaeth Cymru a Sgiliau Hanfodol yng Nghyd-bwyllgor Addysg Cymru, bod gan CBAC ran bwysig i\u2019w chwarae ym myd addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Wrth ganmol NTfW, dywedodd: \u201cRwy bob amser yn cael fy ysbrydoli gan y ffordd gadarnhaol y mae\u2019r rhwydwaith yn addasu ac yn ymateb i newid.\u201d<\/p>\n<p>Yn ogystal, cafodd y cynadleddwyr gyfle i fynd i gyfres o weithdai\u2019n ymwneud \u00e2 phrif bynciau\u2019r gynhadledd.<\/p>\n<p>Dywedodd Sarah John, cadeirydd NTfW, ei bod yn gynhadledd gyffrous, gyda siaradwyr oedd yn procio&#8217;r meddwl ac yn llawn gwybodaeth. Roedd yn hanfodol bod yr aelodau\u2019n cynnwys blaenoriaethau a nodwyd gan y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol yn eu cynlluniau ar gyfer mynd i\u2019r afael \u00e2 newid swyddi, awtomeiddio a deallusrwydd artiffisial.<\/p>\n<p>Dywedodd ei bod yn bwysig bod Llywodraeth Cymru\u2019n ymgynghori \u00e2\u2019r NTfW am unrhyw raglenni newydd y byddai gofyn i\u2019w aelodau eu cyflenwi.<\/p>\n<p>Mae\u2019r NTfW yn cynrychioli dros gant o sefydliadau sy\u2019n ymwneud \u00e2 dysgu yn y gweithle, o ddarparwyr hyfforddiant bach arbenigol i sefydliadau cenedlaethol a rhyngwladol, ynghyd ag awdurdodau lleol, Sefydliadau Addysg Bellach ac elusennau.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Welsh Roedd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan, yn llawn canmoliaeth i ddarparwyr dysgu gydol oes ledled Cymru yn eu cynhadledd flynyddol ond fe\u2019u heriodd hefyd i wneud hyd yn oed ragor i sicrhau gweithlu &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/gweinidog-yn-diolch-i-ddarparwyr-hyfforddiant-cymru-ond-yn-galw-am-fwy-o-hwb-i-sgiliau\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-5948","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5948","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5948"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5948\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5948"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5948"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5948"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}