{"id":6050,"date":"2018-09-24T09:00:38","date_gmt":"2018-09-24T09:00:38","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=6050"},"modified":"2018-09-20T22:06:52","modified_gmt":"2018-09-20T22:06:52","slug":"raf-y-fali-prentisiaid-lleol-yn-cael-swyddi-ym-maes-peirianneg","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/raf-y-fali-prentisiaid-lleol-yn-cael-swyddi-ym-maes-peirianneg\/","title":{"rendered":"RAF Y Fali &#8211; Prentisiaid Lleol yn cael Swyddi ym maes Peirianneg"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2018\/09\/VAL-OFFICIAL-20180907-357-0038.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2018\/09\/VAL-OFFICIAL-20180907-357-0038.jpg\" alt=\"VAL-OFFICIAL-20180907-357-0038\" width=\"480\" height=\"290\" class=\"alignleft size-full wp-image-10458\" \/><\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/raf-valley-engineering-jobs-for-local-apprentices\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/raf-y-fali-prentisiaid-lleol-yn-cael-swyddi-ym-maes-peirianneg\">Welsh<\/a><\/p>\n<p>Mae gr\u0175p o Brentisiaid o Gr\u0175p Rhyngwladol Babcock yn dathlu wedi iddynt sicrhau swyddi parhaol yn RAF Y Fali gyda&#8217;r cwmni enwog ym maes awyrennau a pheirianneg.<\/p>\n<p>Daeth y prentisiaid a&#8217;u teuluoedd ynghyd \u00e2 chynrychiolwyr o Babcock ac adran fusnes Gr\u0175p Llandrillo Menai, Busnes@LLandrilloMenai, ynghyd yn ddiweddar i ddathlu llwyddiant y Rhaglen Brentisiaeth ym maes Peirianneg Awyrenegol a&#8217;r Prentisiaethau Peirianneg Gyffredinol HADES a gyflwynwyd am y tro cyntaf yng ngogledd Cymru. Gwnaeth y pymtheg dysgwr yn aruthrol o dda yn ystod eu hyfforddiant, ac o ganlyniad, cafodd pob un ohonynt gynnig contract gyda Babcock yn RAF Y Fali.<\/p>\n<p>Roedd tri arall, a astudiodd Brentisiaeth Peirianneg Gyffredinol HADES, hefyd yn dathlu eu bod wedi cwblhau eu prentisiaethau ac wedi sicrhau swyddi parhaol yn dilyn tair blynedd o astudio a chyflawni Diploma City and Guilds Lefel 3 mewn Peirianneg.<\/p>\n<p>Yn 2016 arwyddwyd memorandwm o ddealltwriaeth rhwng Coleg Menai a Babcock, lle cytunodd y ddau sefydliad i weithio gyda&#8217;i gilydd i hyfforddi 33 o beirianwyr awyrenegol dros gyfnod o dair blynedd hyd at 2020.  Bydd y cytundeb hwn yn help i dair carfan o bobl ifanc lleol i ennill y cymhwyster BTEC Lefel 3 mewn Peirianneg Awyrenegol.<\/p>\n<p>Y prentisiaid hyn, sydd newydd sicrhau swyddi parhaol, yw&#8217;r gr\u0175p cyntaf i gyflawni&#8217;r rhaglen hon. Bydd grwpiau eraill yn cwblhau eu hyfforddiant yn 2019 a 2020. Mae&#8217;r part\u00efon yn gobeithio ymestyn y cynllun ymhellach wrth i Babcock ddatblygu a buddsoddi yn RAF Y Fali a meithrin carfan o dalent lleol.<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\"><strong>Dywedodd Neal Misell, Rheolwr Gyfarwyddwr busnes Awyrennau Milwrol Babcock yn y DU,<\/strong><br \/>\nRydym yn falch iawn o lwyddiant ein Prentisiaid. Roedd hi&#8217;n bwysig cydnabod yr hyn roeddynt wedi&#8217;i gyflawni a dathlu gyda&#8217;u teuluoedd. Yr her sydd o&#8217;u blaenau r\u0175an yw mynd ymlaen i sicrhau gyrfaoedd gwych gyda Babcock. Edrychwn ymlaen at eu gwylio&#8217;n datblygu ymhellach yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod.<\/em><\/p><\/blockquote>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\"><strong>Aeth Dafydd Evans<\/strong> ymlaen i ddweud:<br \/>\nRydym yn ofnadwy o falch o&#8217;r prentisiaid sydd wedi gweithio mor galed yn y coleg ac yn y gweithle. Mae&#8217;n braf gweld pobl ifanc lleol yn cael hyfforddiant a gwaith gyda chwmni enwog fel Babcock. Fel coleg rydym yn falch iawn o&#8217;r cyfle i gydweithio&#8217;n agos gyda&#8217;r diwydiant er mwyn datblygu rhaglenni sy&#8217;n cynnig hyfforddiant o&#8217;r radd flaenaf.<\/p>\n<p>Mae enw da a phoblogrwydd prentisiaethau wedi disgyn yn ystod y degawdau diwethaf, ond mae rhaglenni fel hyn wedi codi proffil prentisiaethau &#8211; dim ond ymgeiswyr arbennig iawn mae Babcock yn eu dewis ac yn mynd ymlaen i&#8217;w hyfforddi i&#8217;r safon uchaf. Mae&#8217;r bobl ifanc rydym wedi&#8217;u cyfarfod y bore yma yn profi y gall prentisiaethau agor y drws i yrfa lewyrchus iawn, gyrfa sy&#8217;n cynnig cyfle i ddatblygu a theithio. Rwyf am ofyn i&#8217;r prentisiaid sydd yma heddiw i rannu eu profiadau gyda phobl ifanc eraill a chanu clod y rhaglenni prentisiaeth, a Choleg Menai wrth gwrs.<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p><a href=\"https:\/\/www.gllm.ac.uk\/news\/\">Newyddion Gr\u0175p Llandrillo Menai<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Welsh Mae gr\u0175p o Brentisiaid o Gr\u0175p Rhyngwladol Babcock yn dathlu wedi iddynt sicrhau swyddi parhaol yn RAF Y Fali gyda&#8217;r cwmni enwog ym maes awyrennau a pheirianneg. Daeth y prentisiaid a&#8217;u teuluoedd ynghyd \u00e2 chynrychiolwyr o Babcock &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/raf-y-fali-prentisiaid-lleol-yn-cael-swyddi-ym-maes-peirianneg\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-6050","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6050","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6050"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6050\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6050"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6050"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6050"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}