{"id":6054,"date":"2018-09-26T01:00:45","date_gmt":"2018-09-26T01:00:45","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=6054"},"modified":"2018-10-01T15:24:11","modified_gmt":"2018-10-01T15:24:11","slug":"lansio-gwasanaeth-prentisiaethau-newydd-ar-gyfer-cyflogwyr","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/lansio-gwasanaeth-prentisiaethau-newydd-ar-gyfer-cyflogwyr\/","title":{"rendered":"Lansio gwasanaeth Prentisiaethau newydd ar gyfer cyflogwyr"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/new-apprenticeships-service-launched-for-employers\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/lansio-gwasanaeth-prentisiaethau-newydd-ar-gyfer-cyflogwyr\">Welsh<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_10465\" style=\"width: 490px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2018\/09\/13.09.18-mh-NTFW-Apprenticeship-Launch-5-e1537798769799.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-10465\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2018\/09\/13.09.18-mh-NTFW-Apprenticeship-Launch-5-e1537798769799.jpg\" alt=\"The NTfW Apprenticeships Team with NTfW chair Sarah John, NTfW director of operations Jeff Protheroe and training providers from across Wales at the launch of the new service.\" width=\"480\" height=\"272\" class=\"size-full wp-image-10465\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-10465\" class=\"wp-caption-text\">T\u00eem Prentisiaethau&#8217;r NTfW gyda chadeirydd yr NTfW, Sarah John, cyfarwyddwr gweithrediadau\u2019r NTfW, Jeff Protheroe, a darparwyr o bob rhan o Gymru yn lansiad y gwasanaeth newydd.<\/p><\/div>\n<p>Mae gwasanaeth newydd ar gael ar gyfer busnesau sy\u2019n awyddus i recriwtio prentisiaid neu ddefnyddio\u2019r Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru i gynyddu sgiliau eu gweithwyr.<\/p>\n<p>Mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), sy\u2019n cynrychioli dros gant o ddarparwyr dysgu ledled Cymru, wedi penodi t\u00eem o arbenigwyr i\u2019w gwneud yn haws i gyflogwyr ymwneud \u00e2 Rhaglen Brentisiaethau Llywodraeth Cymru.<\/p>\n<p>Nod T\u00eem Prentisiaethau NTFW yw sicrhau bod rhagor o gyflogwyr yn recriwtio prentisiaid, ynghyd ag annog recriwtio pobl ifanc i sectorau cyflogaeth o bwysigrwydd cenedlaethol neu ranbarthol. <\/p>\n<p>Ariannir y t\u00eem gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) a bydd yn cydweithio \u00e2 chyflogwyr a rhanddeiliaid ledled Cymru, gyda\u2019r nod o gynnig gwasanaeth arbenigol i bawb sy\u2019n holi am brentisiaethau. <\/p>\n<p>Mae\u2019r t\u00eem yn cynnwys dau swyddog ymgysylltu, Sam Cutlan ac Andrea Sammon a thri rheolwr datblygu rhanbarthol ar gyfer y Rhaglen Brentisiaethau, Joanne O\u2019Keefe (y de-ddwyrain), Catherine Morris (y gogledd) a Rhys Daniels (y de-orllewin a\u2019r canolbarth).<\/p>\n<div id=\"attachment_10466\" style=\"width: 490px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2018\/09\/13.09.18-mh-NTFW-Apprenticeship-Launch-42-e1537798737901.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-10466\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2018\/09\/13.09.18-mh-NTFW-Apprenticeship-Launch-42-e1537798737901.jpg\" alt=\"The NTfW Apprenticeships Team (from left) Catherine Morris, Andrea Sammon, Rhys Daniels, Sam Cutlan and Joanne O\u2019Keefe.\" width=\"480\" height=\"320\" class=\"size-full wp-image-10466\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-10466\" class=\"wp-caption-text\">T\u00eem Prentisiaethau&#8217;r NTfW (o\u2019r Chwith): Sam Cutlan, Andrea Sammon, Joanne O\u2019Keefe, Catherine Morris a Rhys Daniels.<\/p><\/div>\n<p>Sam ac Andrea sy\u2019n trafod ymholiadau cychwynnol cyflogwyr sy\u2019n llenwi ffurflen mynegi diddordeb ar wefan Llywodraeth Cymru, <strong>Porth Sgiliau Busnes Cymru  <a href=\"https:\/\/businesswales.gov.wales\/skillsgateway\/cy\/rhaglenni-sgiliau-hyfforddiant\/prentisiaethau\">https:\/\/businesswales.gov.wales\/skillsgateway\/cy\/rhaglenni-sgiliau-hyfforddiant\/prentisiaethau<\/a><\/strong>. <\/p>\n<p>Mae Joanne, Catherine a Rhys yn cydweithio \u00e2 chyflogwyr mawr, yn enwedig y rhai sy&#8217;n talu&#8217;r Ardoll Brentisiaethau, i ddatblygu cyfleoedd ar gyfer ymgysylltu a phrentisiaethau.<\/p>\n<p>Trwy siarad \u00e2 chyflogwyr, mae\u2019r t\u00eem yn canfod yn fuan iawn beth yw eu hanghenion a pha fframwaith a llwybr Prentisiaethau sy\u2019n addas cyn trosglwyddo\u2019r achos i\u2019r darparwyr dysgu sydd yn y sefyllfa orau i gyflenwi Rhaglen Brentisiaethau ar gyfer y sector hwnnw. <\/p>\n<p>Ar \u00f4l canfod darpariaeth addas, mater i\u2019r cyflogwr yw dewis pa ddarparwr yr hoffai gydweithio ag ef. Mae\u2019r t\u00eem yn hollol ddiduedd.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l i\u2019r cyflogwr fynegi diddordeb, ni ddylai gymryd mwy na phum diwrnod i\u2019r darparwr dysgu gysylltu ag ef. Y nod yw darparu llinell uniongyrchol ar gyfer cyflogwyr sy\u2019n chwilio am wybodaeth am sut i gymryd rhan mewn Prentisiaethau.<\/p>\n<p>Cynhelir ymgyrch gyhoeddusrwydd ac ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo\u2019r gwasanaeth newydd a rhoi gwybod i gyflogwyr amdano. Bwriad y gwasanaeth cyfeirio newydd yw helpu Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei nod o greu 100,000 o Brentisiaethau o safon uchel yng Nghymru yn ei thymor presennol.<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\"><strong>Dywedodd Jeff Protheroe, cyfarwyddwr gweithrediadau NTfW<\/strong>, bod y ddarpariaeth brentisiaethau yng Nghymru\u2019n esblygu\u2019n barhaus i ddiwallu anghenion cyflogwyr.<\/br><br \/>\n\u201cRydym wedi ymrwymo i sicrhau bod cyflogwyr yng Nghymru\u2019n cael y gwasanaeth y maen nhw\u2019n chwilio amdano. Datblygwyd y broses mewn ymgynghoriad \u00e2\u2019r rhwydwaith darparwyr cyfan ac rydym yn awyddus iddo weithio i bawb.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\"><strong>Dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan<\/strong>: \u201cMae\u2019r broses atgyfeirio newydd a gynigir gan yr NTfW yn ei gwneud yn haws o lawer i gyflogwyr ledled Cymru gymryd rhan yn y Rhaglen Brentisiaethau a chanfod y gwasanaeth penodol y maen nhw\u2019n chwilio amdano.<\/br><br \/>\nTrwy gymryd rhan yn \u2018Prentisiaethau yng Nghymru\u2019, mae cyflogwyr yn creu gweithlu sy\u2019n gallu ymateb yn well i\u2019r gofynion, sy\u2019n fwy brwdfrydig ac sy\u2019n meddu ar y sgiliau allweddol a\u2019r profiad angenrheidiol. Mae prentisiaethau\u2019n helpu busnesau i fod yn fwy proffidiol ac yn helpu cyflogwyr i fod yn fwy cynhyrchiol a chystadleuol.<\/br><br \/>\nMae Llywodraeth Cymru\u2019n gwneud yn dda wrth anelu at y nod uchelgeisiol o greu 100,000 o brentisiaethau yn ystod y weinyddiaeth hon. Mae mwy iddi na chyrraedd targedau. Mae hefyd yn cynnwys sicrhau bod y cyfleoedd iawn yn cael eu creu yn y meysydd iawn fel y gall unigolion, busnesau a\u2019r economi ffynnu.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\"><strong>Dywedodd Sarah John, Cadeirydd NTfW<\/strong>: \u201cMae lansio\u2019r t\u00eem newydd yn garreg filltir arall i\u2019r NTfW wrth geisio darparu gwasanaeth cynhwysfawr ar gyfer prentisiaethau yng Nghymru.<\/br><br \/>\nMae Llywodraeth Cymru wedi gweld bod angen cyfeirio ymholiadau am brentisiaethau i un man lle gall cyflogwyr gael cyngor cyfredol a chywir am y prentisiaethau. Mae hyn yn cynnwys deall ym mha sectorau a swyddi y mae prentisiaethau ar gael, gwybod pa ddarparwr all gynnig y gwasanaeth yn lleol ac ateb y cwestiwn allweddol \u2018A yw hyn yn cael ei gyllido?\u2019<\/br><br \/>\nTrwy fuddsoddiad Llywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) mae\u2019r NTfW wedi llwyddo i gyflogi pump o weithwyr allweddol i ateb y cwestiynau hyn ac i fynd allan i\u2019r gweithle i godi ymwybyddiaeth gan sicrhau bod rhagor o alw am y Rhaglenni Prentisiaethau ardderchog sydd gennym yng Nghymru.<\/br><br \/>\nBydd y t\u00eem newydd yn gaffaeliad mawr i\u2019r cant a mwy o ddarparwyr sydd gennym ledled y wlad yn ateb gofynion cyflogwyr ac yn creu gweithlu cymwys ar gyfer y dyfodol yng Nghymru.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p><strong>Roedd darparwyr dysgu yn barod iawn i groesawu\u2019r t\u00eem newydd. <\/strong><\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\"><strong>Dywedodd Hayley Roberts, cydlynydd prentisiaethau gwag gydag ACT Limited<\/strong>, bod un cyflogwr a gyfeiriwyd at y cwmni gan y t\u00eem newydd wedi creu tair prentisiaeth newydd a bod potensial ar gyfer mwy yn y dyfodol.<\/br><br \/>\nMae\u2019n bwynt cyswllt canolog ar gyfer cyflogwyr a fyddai\u2019n gorfod cysylltu \u00e2 llawer o wahanol ddarparwyr fel arall,\u201d meddai. \u201cRwy\u2019n credu y bydd yn helpu rhagor o fusnesau i greu prentisiaethau.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\"><strong>Dywedodd Katy Godsell, rheolwr marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian<\/strong>: \u201cMae penodi\u2019r t\u00eem newydd yn gam da iawn a fydd yn galluogi\u2019r rhwydwaith i godi ymwybyddiaeth o brentisiaethau ac ymateb mewn ffordd fwy effeithlon ac effeithiol i anghenion penodol y cyflogwyr.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p><strong>Am fwy o wybodaeth cysylltwch \u00e2 Porth Sgiliau Busnes Cymru:<\/strong><br \/>\nWefan: <a href=\"https:\/\/businesswales.gov.wales\/skillsgateway\/cy\/rhaglenni-sgiliau-hyfforddiant\/prentisiaethau\">https:\/\/businesswales.gov.wales\/skillsgateway\/cy\/rhaglenni-sgiliau-hyfforddiant\/prentisiaethau<\/a><br \/>\nFf\u00f4n 03301 228338<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Welsh Mae gwasanaeth newydd ar gael ar gyfer busnesau sy\u2019n awyddus i recriwtio prentisiaid neu ddefnyddio\u2019r Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru i gynyddu sgiliau eu gweithwyr. Mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), sy\u2019n cynrychioli dros gant o ddarparwyr dysgu &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/lansio-gwasanaeth-prentisiaethau-newydd-ar-gyfer-cyflogwyr\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-6054","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6054","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6054"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6054\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6054"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6054"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6054"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}