{"id":6089,"date":"2018-10-02T07:56:54","date_gmt":"2018-10-02T07:56:54","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=6089"},"modified":"2018-10-09T08:47:48","modified_gmt":"2018-10-09T08:47:48","slug":"cymryd-prentis-yn-helpu-busnes-teuluol-i-ddyblu-ei-drosiant","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cymryd-prentis-yn-helpu-busnes-teuluol-i-ddyblu-ei-drosiant\/","title":{"rendered":"Cymryd prentis yn helpu busnes teuluol i ddyblu ei drosiant"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/care-company-shortlisted-for-apprenticeship-awards-cymru\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cymryd-prentis-yn-helpu-busnes-teuluol-i-ddyblu-ei-drosiant\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_10521\" style=\"width: 490px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2018\/10\/Lelo-press-e1538423330468.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-10521\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2018\/10\/Lelo-press-e1538423330468.jpg\" alt=\"Oswyn Jones (right) Jan Davies and higher apprentice Daniel Roberts from Lelo Skip Hire and Heather Martin (left) of Cambrian Training Company.\" width=\"480\" height=\"320\" class=\"size-full wp-image-10521\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-10521\" class=\"wp-caption-text\">Oswyn Jones (dde), Jan Davies a\u2019r prentis uwch Daniel Roberts o Lelo Skip Hire, a Heather Martin (chwith) o Gwmni Hyfforddiant Cambrian.<\/p><\/div>\n<p>Mae busnes teuluol bach o\u2019r gogledd, Lelo Skip Hire, sydd wedi dyblu ei drosiant ers iddo recriwtio\u2019i brentis cyntaf bedair blynedd yn \u00f4l, ar y rhestr fer ar gyfer gwobr genedlaethol o bwys.<\/p>\n<p>I ddechrau, cymerodd Oswyn Jones, sy\u2019n rhedeg y cwmni o Gorwen, ei fab 16 oed Daniel i weithio i\u2019r cwmni ar y rhaglen Twf Swyddi Cymru yn 2014. <\/p>\n<p>Ers hynny, mae Daniel wedi symud ymlaen o Brentisiaeth Sylfaen mewn Rheoli Adnoddau Cynaliadwy i wneud Prentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Rheoli Systemau a Gweithrediadau gyda chymorth Cwmni Hyfforddiant Cambrian, y darparwr dysgu o\u2019r Trallwng.<\/p>\n<p>Wrth i wybodaeth a sgiliau Daniel gynyddu, mae cwsmeriaid y cwmni wedi cynyddu hefyd. Gwelwyd cynnydd o 195% yn y trosiant o ganlyniad uniongyrchol i\u2019w wybodaeth am dechnolegau trin, rheoliadau dyletswydd gofal a pholis\u00efau amgylcheddol ac mae hynny\u2019n golygu bod yn cwmni\u2019n gallu gwneud mwy o waith.<\/p>\n<p>Yn awr, mae Lelo Skip Hire wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru. Bydd y cwmni\u2019n cystadlu i fod yn Gyflogwr Bach y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd ar 9 Tachwedd.<\/p>\n<p>Bwriad y gwobrau blynyddol yw arddangos a dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.<\/p>\n<p>Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe\u2019u cefnogir gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.<br \/>\nMae 30 o gyflogwyr, dysgwyr a darparwyr dysgu o bob rhan o Gymru wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru. <\/p>\n<p>Dau weithiwr sydd gan Lelo Skip Hire ac mae\u2019n cynnig gwasanaeth llogi sgipiau gan eu danfon a\u2019u casglu ledled gogledd-ddwyrain Cymru. Mae ganddo gynlluniau i agor safle trwyddedig i ailgylchu\u2019r gwastraff a gesglir gan y cwmni.<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">\u201cTrwy gael ein safle ni\u2019n hunain, byddem yn ganolfan ailgylchu gyflawn a dyna yw ein nod yn y pen draw.\u201d <strong>meddai Oswyn.<\/strong> \u201cRoedd ein mab yn awyddus i ymuno \u00e2 busnes y teulu erioed ac roedden ninnau\u2019n dymuno iddo barhau i ddysgu a defnyddio\u2019r hyn yr oedd yn ei ddysgu i helpu\u2019r busnes i dyfu. <\/p>\n<p>\u201cGwelsom fod y Rhaglen Brentisiaethau\u2019n ffordd ddelfrydol o hyfforddi Daniel a datblygu\u2019r busnes. Pan fyddwn mewn sefyllfa i agor ein safle ailgylchu a chyflogi rhagor o staff, byddwn yn cynnwys Prentisiaethau yn y rhan newydd o\u2019r busnes hefyd.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Roedd Oswyn yn llawn canmoliaeth i bartneriaeth \u201cffantastig\u201d y busnes gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian. Enwyd Lelo Skip Hire yn Gyflogwr Bach y Flwyddyn yng ngwobrau blynyddol y darparwr dysgu yn gynharach eleni.<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\"><strong>Dywedodd Heather Martin, pennaeth uned fusnes Cwmni Hyfforddiant Cambrian: <\/strong><br \/>\n\u201cMae Lelo Skip Hire yn dangos y pethau rhyfeddol y gellir eu cyflawni \u00e2 dim ond un prentis.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">Wrth longyfarch Lelo Skip Hire ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd <strong>Gweinidog y Gymraeg a Dysgu gydol Oes, Eluned Morgan:<\/strong> \u201cMae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn tynnu sylw at lwyddiant Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru a\u2019r hyn y mae ein prentisiaid, ein cyflogwyr, ein darparwyr dysgu a\u2019n hyfforddeion disglair wedi\u2019i gyflawni.<\/br><br \/>\n\u201cMae prentisiaethau\u2019n ffordd wych i unigolion feithrin sgiliau gwerthfawr a phrofiad ac ennill cyflog ar yr un pryd, ac i gyflogwyr sicrhau bod y sgiliau angenrheidiol gan eu gweithlu i baratoi\u2019r busnes ar gyfer y dyfodol.<\/br><br \/>\n\u201cNi fu erioed yn bwysicach cynyddu sgiliau lefel uwch a datblygu llwybrau sgiliau er budd Cymru gyfan.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p><strong>Darllenwch fwy am y rhai sydd <a href=\"https:\/\/beta.llyw.cymru\/gwobrau-prentisiaethau-cymru\/enillwyr-a-theilyngwyr\">yn rownd derfynol <\/br>Gwobrau Prentisiaethau Cymru<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae busnes teuluol bach o\u2019r gogledd, Lelo Skip Hire, sydd wedi dyblu ei drosiant ers iddo recriwtio\u2019i brentis cyntaf bedair blynedd yn \u00f4l, ar y rhestr fer ar gyfer gwobr genedlaethol o bwys. I ddechrau, cymerodd Oswyn &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cymryd-prentis-yn-helpu-busnes-teuluol-i-ddyblu-ei-drosiant\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-6089","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6089","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6089"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6089\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6089"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6089"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6089"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}