{"id":6093,"date":"2018-10-02T08:10:45","date_gmt":"2018-10-02T08:10:45","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=6093"},"modified":"2018-10-09T08:47:21","modified_gmt":"2018-10-09T08:47:21","slug":"cwmni-gofal-ar-restr-fer-gwobrau","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cwmni-gofal-ar-restr-fer-gwobrau\/","title":{"rendered":"Cwmni gofal ar restr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/care-company-shortlisted-for-apprenticeship-awards-cymru-2\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cwmni-gofal-ar-restr-fer-gwobrau\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_10524\" style=\"width: 490px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2018\/10\/Inspiration-Lifestyle-App-press-e1538423671109.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-10524\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2018\/10\/Inspiration-Lifestyle-App-press-e1538423671109.jpg\" alt=\"Ben Jones, human resources director at Inspiration Lifestyle Services.\" width=\"480\" height=\"320\" class=\"size-full wp-image-10524\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-10524\" class=\"wp-caption-text\">Ben Jones, cyfarwyddwr adnoddau dynol gydag Inspiration Lifestyle Services.<\/p><\/div>\n<p>Mae darparwr gofal arbenigol o orllewin Cymru sy\u2019n ymfalch\u00efo yn ei agwedd at ddysgu a datblygu staff ar bob cam o\u2019u llwybr gyrfa wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr genedlaethol o bwys.<\/p>\n<p>Mae Inspiration Lifestyle Services, Caerfyrddin, sydd eisoes wedi cael achrediad aur Buddsoddwyr mewn Pobl, yn gofalu am bobl sydd ag anableddau dysgu a phroblemau iechyd meddwl, trwy wasanaethau preswyl a gwasanaethau yn y cartref ledled de Cymru.<\/p>\n<p>Mae 14 o brentisiaid yn rhan o weithlu\u2019r cwmni o 62 o weithwyr sydd wedi\u2019u hyfforddi i safon uchel i ateb gofynion amrywiol y cleientiaid. Dros y pum mlynedd diwethaf, mae\u2019r cwmni wedi cyflogi 35 o brentisiaid.<\/p>\n<p>Yn awr, mae Inspiration Lifestyle Services wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru. Bydd y cwmni\u2019n cystadlu i fod yn Gyflogwr Canolig y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd ar 9 Tachwedd.<\/p>\n<p>Bwriad y gwobrau blynyddol yw arddangos a dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.<\/p>\n<p>Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe\u2019u cefnogir gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop. <\/p>\n<p>Mae 30 o gyflogwyr, dysgwyr a darparwyr dysgu o bob rhan o Gymru wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru. <\/p>\n<p>Mewn cydweithrediad \u00e2 PRP Training, mae Inspiration Lifestyle Services yn cynnig Rhaglenni Prentisiaethau\u2019n amrywio o Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar Lefelau 2 a 3 o dan y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (QCF) i Ddiplomas mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth ar gyfer Gwasanaethau Gofal ar Lefel 5 ac Arwain T\u00eem Lefel 2.<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">\u201cMae\u2019n hanfodol bod gweithwyr yn dysgu ac yn datblygu er mwyn sicrhau eu bod yn diwallu anghenion defnyddwyr ein gwasanaethau bob amser ac felly mae Rhaglenni Prentisiaethau&#8217;n rhan bwysig o\u2019n gwaith,\u201d <strong>meddai Ben Jones, cyfarwyddwr adnoddau dynol gydag Inspiration Lifestyle Services.<\/strong><\/p>\n<p>\u201cRydym yn sicrhau bod gennym gynlluniau mewn lle fel y gall y staff gamu ymlaen gyda&#8217;r cwmni ac rydym yn rhoi blaenoriaeth i ddatblygu a dyrchafu ein staff ni&#8217;n hunain.<br \/>\nMae llawer o\u2019r staff sy\u2019n dilyn Rhaglenni Prentisiaethau yn symud ymlaen i ddysgu ar lefel uwch ac yn camu ymlaen yn eu gyrfaoedd.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Ar \u00f4l cyfnod prawf ar \u00f4l ymuno \u00e2\u2019r cwmni, caiff yr holl staff gynnig cyfle i weithio tuag at gymhwyster o dan y QCF, faint bynnag o brofiad sydd ganddynt ac a ydynt yn gweithio llawn amser neu ran amser. Maent yn cael eu hannog i ddatblygu eu sgiliau yn y Gymraeg wrth ddysgu hefyd. <\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">Canmolwyd Inspiration Lifestyle Services am fuddsoddi yn natblygiad ei weithwyr ac ymroi iddo gan <strong>Laura Barrett, asesydd datblygu busnes gyda PRP Training. <\/strong><\/p>\n<p>\u201cMae ethos cyffredinol ac arferion gweitho ILS yn ei wneud yn esiampl ardderchog a hoffai PRP Training ei weld yn cael ei wobrwyo,\u201d <strong>meddai.<\/strong><\/em><\/p><\/blockquote>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">Wrth longyfarch Inspiration Lifestyle Services ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd <strong>Gweinidog y Gymraeg a Dysgu gydol Oes, Eluned Morgan:<\/strong> \u201cMae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn tynnu sylw at lwyddiant Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru a\u2019r hyn y mae ein prentisiaid, ein cyflogwyr, ein darparwyr dysgu a\u2019n hyfforddeion disglair wedi\u2019i gyflawni.<\/br><br \/>\n\u201cMae prentisiaethau\u2019n ffordd wych i unigolion feithrin sgiliau gwerthfawr a phrofiad ac ennill cyflog ar yr un pryd, ac i gyflogwyr sicrhau bod y sgiliau angenrheidiol gan eu gweithlu i baratoi\u2019r busnes ar gyfer y dyfodol.<\/br><br \/>\n\u201cNi fu erioed yn bwysicach cynyddu sgiliau lefel uwch a datblygu llwybrau sgiliau er budd Cymru gyfan.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p><strong>Darllenwch fwy am y rhai sydd <a href=\"https:\/\/beta.llyw.cymru\/gwobrau-prentisiaethau-cymru\/enillwyr-a-theilyngwyr\">yn rownd derfynol <\/br>Gwobrau Prentisiaethau Cymru<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae darparwr gofal arbenigol o orllewin Cymru sy\u2019n ymfalch\u00efo yn ei agwedd at ddysgu a datblygu staff ar bob cam o\u2019u llwybr gyrfa wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr genedlaethol o bwys. Mae Inspiration Lifestyle &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cwmni-gofal-ar-restr-fer-gwobrau\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-6093","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6093","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6093"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6093\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6093"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6093"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6093"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}