{"id":6111,"date":"2018-10-05T14:38:44","date_gmt":"2018-10-05T14:38:44","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=6111"},"modified":"2018-10-09T08:45:54","modified_gmt":"2018-10-09T08:45:54","slug":"lle-ar-restr-fer-gwobrau-prentisiaethau-cymru-i-gwmni-cymorth-tg-syn-tyfu","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/lle-ar-restr-fer-gwobrau-prentisiaethau-cymru-i-gwmni-cymorth-tg-syn-tyfu\/","title":{"rendered":"Lle ar restr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru i gwmni cymorth TG sy\u2019n tyfu"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/growing-it-support-firm-shortlisted-for-apprenticeship-awards-cymru\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/lle-ar-restr-fer-gwobrau-prentisiaethau-cymru-i-gwmni-cymorth-tg-syn-tyfu\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_10626\" style=\"width: 490px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2018\/10\/pisys.net-aac2018-e1538749099633.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-10626\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2018\/10\/pisys.net-aac2018-e1538749099633.jpg\" alt=\"Pisys.net director Steve Bain \u2013 \u201cApprenticeships ideal for our business\u201d.\" width=\"480\" height=\"320\" class=\"size-full wp-image-10626\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-10626\" class=\"wp-caption-text\">Cyfarwyddwr Pisys.net Steve Bain \u2013 \u201cMae Prentisiaethau yn ddelfrydol i\u2019n busnes ni\u201d.<\/p><\/div>\n<p>Mae Prentisiaethau\u2019n rhan hanfodol o raglen recriwtio cwmni sy\u2019n cynnig cefnogaeth a gwasanaethau TG fforddiadwy i fusnesau ledled Prydain o\u2019i brif swyddfa yn Abertawe.<\/p>\n<p>Sefydlwyd Pisys.net yn 2003 ac erbyn hyn mae\u2019n un o\u2019r prif gwmn\u00efau sy\u2019n cynnig gwasanaethau TG allanol, i fusnesau bach newydd a sefydliadau mawr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a\u2019r trydydd sector.<\/p>\n<p>Yn awr, mae\u2019r cwmni wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2018. Bydd Pisys.net yn cystadlu i fod yn Gyflogwr Bach y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd ar 9 Tachwedd.<\/p>\n<p>Bwriad y gwobrau blynyddol yw arddangos a dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.<\/p>\n<p>Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe\u2019u cefnogir gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.<\/p>\n<p>Mae 30 o gyflogwyr, dysgwyr a darparwyr dysgu o bob rhan o Gymru wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.<\/p>\n<p>Mae Pisys.net yn ehangu ledled Prydain trwy gynnig cyfleoedd masnachfreinio i unigolion medrus o feddwl tebyg. Gyda masnachfreintiau o Inverness i Gaerdydd, mae t\u00eem Pisys.net wedi tyfu i 22.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l recriwtiio 18 o brentisiaid dros y degawd diwethaf, mae gan y cwmni dri ar hyn o bryd sy\u2019n gweithio tuag at Brentisiaethau Sylfaen a Phrentisiaethau mewn Gwaith Proffesiynol mewn TG, Meddalwedd a Thelathrebu a gyflenwir gan ITeC Abertawe.<\/p>\n<p>Mae Pisys.net wedi&#8217;i achredu&#8217;n Bartner Busnes i IBM ac mae wedi cadw statws Partner Microsoft oherwydd ei ymrwymiad i hyfforddi staff a datblygiad proffesiynol parhaus ac am ei fod yn cael ei ganmol gan gleientiaid.<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">\u201cWrth recriwtio, rydym ni\u2019n hoffi penodi pobl sydd i\u2019w gweld yn addas ar gyfer ein busnes a defnyddio\u2019r Rhaglen Brentisiaethau i ddatblygu eu sgiliau a\u2019u gwybodaeth,\u201d <strong> meddai cyfarwyddwr y cwmni Steve Bain.<\/strong><\/br><br \/>\n\u201cTrwy wneud hyn a chynnig llwybr pendant y gall staff symud ymlaen ar ei hyd, gallwn recriwtio, hyfforddi a symud staff ymlaen yn gyflym er budd y busnes a\u2019r unigolyn.<\/br><br \/>\n\u201cMae\u2019r Rhaglen Brentisiaethau\u2019n ddelfrydol ar gyfer ein busnes ni oherwydd gallwn gyfuno hyfforddiant mewnol a\u2019r hyfforddiant allanol ardderchog a gawn gan ITeC Abertawe i sicrhau canlyniad sydd o fudd i bawb.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Roedd Helen Necrews, rheolwr gyfarwyddwr ITeC Abertawe, yn llawn canmoliaeth i ymrwymiad Pisys.net i Brentisiaethau: \u201cAr \u00f4l meithrin perthynas dda a chefnogol, roedd modd i ni addasu gwaith recriwtio, cefnogi a hyfforddi i fodloni amcanion y cwmni,\u201d meddai.<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">Wrth longyfarch Pisys.net ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd <strong>Gweinidog y Gymraeg a Dysgu gydol Oes, Eluned Morgan:<\/strong> \u201cMae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn tynnu sylw at lwyddiant Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru a\u2019r hyn y mae ein prentisiaid, ein cyflogwyr, ein darparwyr dysgu a\u2019n hyfforddeion disglair wedi\u2019i gyflawni.<\/br><br \/>\n\u201cMae prentisiaethau\u2019n ffordd wych i unigolion feithrin sgiliau gwerthfawr a phrofiad ac ennill cyflog ar yr un pryd, ac i gyflogwyr sicrhau bod y sgiliau angenrheidiol gan eu gweithlu i baratoi\u2019r busnes ar gyfer y dyfodol.<\/br><br \/>\n\u201cNi fu erioed yn bwysicach cynyddu sgiliau lefel uwch a datblygu llwybrau sgiliau er budd Cymru gyfan.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p><strong>Darllenwch fwy am y rhai sydd <a href=\"https:\/\/beta.llyw.cymru\/gwobrau-prentisiaethau-cymru\/enillwyr-a-theilyngwyr\">yn rownd derfynol <\/br>Gwobrau Prentisiaethau Cymru<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae Prentisiaethau\u2019n rhan hanfodol o raglen recriwtio cwmni sy\u2019n cynnig cefnogaeth a gwasanaethau TG fforddiadwy i fusnesau ledled Prydain o\u2019i brif swyddfa yn Abertawe. Sefydlwyd Pisys.net yn 2003 ac erbyn hyn mae\u2019n un o\u2019r prif gwmn\u00efau sy\u2019n &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/lle-ar-restr-fer-gwobrau-prentisiaethau-cymru-i-gwmni-cymorth-tg-syn-tyfu\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-6111","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6111","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6111"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6111\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6111"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6111"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6111"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}