{"id":6118,"date":"2018-10-05T15:07:11","date_gmt":"2018-10-05T15:07:11","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=6118"},"modified":"2018-10-09T08:45:27","modified_gmt":"2018-10-09T08:45:27","slug":"prentisiaid-yn-chwarae-rhan-allweddol-yn-llwyddiant-fls","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/prentisiaid-yn-chwarae-rhan-allweddol-yn-llwyddiant-fls\/","title":{"rendered":"Prentisiaid yn chwarae rhan allweddol yn llwyddiant FLS"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/apprentices-play-key-role-in-fls-success-story\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/prentisiaid-yn-chwarae-rhan-allweddol-yn-llwyddiant-fls\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_6124\" style=\"width: 490px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2018\/10\/FLS-Awards-35-press-e1538751887454.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-6124\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2018\/10\/FLS-Awards-35-press-e1538751887454.jpg\" alt=\"Rheolwr gyfarwyddwr FLS, Ieuan Rosser, gyda phrentisiaid.\" width=\"480\" height=\"320\" class=\"size-full wp-image-6124\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-6124\" class=\"wp-caption-text\">Rheolwr gyfarwyddwr FLS, Ieuan Rosser, gyda phrentisiaid.<\/p><\/div>\n<p>Mae prentisiaid wedi chwarae rhan allweddol yn natblygiad llwyddiannus cwmni Freight Logistics Solutions o Gwmbr\u00e2n, cwmni rheoli cadwyni cyflenwi sy\u2019n arbenigo mewn logisteg.    <\/p>\n<p>Ffurfiwyd y cwmni gan y rheolwr gyfarwyddwr Ieuan Rosser ym mis Mai 2016, ac mae\u2019n cyflogi 25 o bobl, yn cynnwys chwech o brentisiaid sy\u2019n gweithio tuag at Brentisiaeth mewn Gweinyddu Busnes gyda Hyfforddiant Torfaen. Yn cyd-fynd \u00e2\u2019r Brentisiaeth, mae rhaglen hyfforddi fewnol sy\u2019n canolbwyntio ar reoli cadwyni cyflenwi a logisteg.<\/p>\n<p>Yn awr, mae FLS wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni. Bydd y cwmni\u2019n cystadlu i fod yn Gyflogwr Bach y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo fawreddog yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd ar 9 Tachwedd.<\/p>\n<p>Bwriad y gwobrau blynyddol yw arddangos a dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.<\/p>\n<p>Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe\u2019u cefnogir gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop. <\/p>\n<p>Mae 30 o gyflogwyr, dysgwyr a darparwyr dysgu o bob rhan o Gymru wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru. <\/p>\n<p>Mae FLS yn cynnig gwasanaethau cludo ym Mhrydain, Ewrop a gweddill y byd sy\u2019n gwella\u2019r gwasanaeth sydd ar gael i gleientiaid ac yn lleihau\u2019r costau. Ac yntau\u2019n cychwyn ar ei drydedd flwyddyn, mae\u2019r cwmni wedi ennill nifer o wobrau i gwmn\u00efau newydd a\u2019i nod yw dyblu ei drosiant a\u2019i staff cyn pen pum mlynedd.<\/p>\n<p>Mae\u2019r Rhaglen Brentisiaethau\u2019n rhan bwysig o gynllun busnes y cwmni. Caiff prentisiaid eu recriwrio ar sail eu potensial, c\u00e2nt brofiad o wahanol adrannau yn y busnes a\u2019u hannog i wneud awgrymiadau, i fod yn ddyfeisgar, i brofi pethau newydd ac i ddatblygu\u2019n aelodau amhrisiadwy o d\u00eem. <\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">\u201cGall fod yn anodd dychmygu y bydd pobl ifanc 17 oed heb brofiad o gwbl o fyd busnes yn dod yn llwyddiannus ond mae\u2019n rhoi boddhad mawr i ni eu gweld yn dysgu ac yn datblygu o\u2019r dechrau\u2019n deg,\u201d <strong>meddai Ieuan.<\/strong><\/br><br \/>\n\u201cRydym wedi gweld bod y prentisiaid yn llawn egni ac yn wybodus a\u2019u bod yn dod \u00e2 bywiogrwydd a syniadau ffres i&#8217;r gweithle. Rydym yn fusnes agored iawn ac mae hyn yn eu helpu i ddatblygu&#8217;n gyflym mewn busnes sy&#8217;n tyfu&#8217;n sydyn a dod yn rhan hanfodol o weithrediad y cwmni.<\/br><br \/>\n\u201cYn ogystal \u00e2 chynnig cyfle i bobl ifanc gychwyn ar yrfa werth chweil yn ein sector, mae prentisiaethau\u2019n dod \u00e2 llu o fanteision i fusnesau.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Dywedodd Richard Cook o Hyfforddiant Torfaen: \u201cRydym yn barod iawn i s\u00f4n wrth fusnesau lleol am FLS a&#8217;r hyn y gellir ei gyflawni trwy ddefnyddio Rhaglen Brentisiaethau mewn ffordd effeithiol.\u201d<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">Wrth longyfarch FLS ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd <strong>Gweinidog y Gymraeg a Dysgu gydol Oes, Eluned Morgan:<\/strong>\u201cMae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn tynnu sylw at lwyddiant Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru a\u2019r hyn y mae ein prentisiaid, ein cyflogwyr, ein darparwyr dysgu a\u2019n hyfforddeion disglair wedi\u2019i gyflawni.<\/br><br \/>\n\u201cMae prentisiaethau\u2019n ffordd wych i unigolion feithrin sgiliau gwerthfawr a phrofiad ac ennill cyflog ar yr un pryd, ac i gyflogwyr sicrhau bod y sgiliau angenrheidiol gan eu gweithlu i baratoi\u2019r busnes ar gyfer y dyfodol.<\/br><br \/>\n\u201cNi fu erioed yn bwysicach cynyddu sgiliau lefel uwch a datblygu llwybrau sgiliau er budd Cymru gyfan.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p><strong>Darllenwch fwy am y rhai sydd <a href=\"https:\/\/beta.llyw.cymru\/gwobrau-prentisiaethau-cymru\/enillwyr-a-theilyngwyr\">yn rownd derfynol <\/br>Gwobrau Prentisiaethau Cymru<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae prentisiaid wedi chwarae rhan allweddol yn natblygiad llwyddiannus cwmni Freight Logistics Solutions o Gwmbr\u00e2n, cwmni rheoli cadwyni cyflenwi sy\u2019n arbenigo mewn logisteg. Ffurfiwyd y cwmni gan y rheolwr gyfarwyddwr Ieuan Rosser ym mis Mai 2016, ac &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/prentisiaid-yn-chwarae-rhan-allweddol-yn-llwyddiant-fls\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-6118","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6118","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6118"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6118\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6118"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6118"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6118"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}