{"id":6142,"date":"2018-11-02T14:00:39","date_gmt":"2018-11-02T14:00:39","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=6142"},"modified":"2018-11-02T08:50:21","modified_gmt":"2018-11-02T08:50:21","slug":"gobaith-am-wobr-i-thomas-sydd-ai-fryd-ar-y-byd-amlgyfrwng","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/gobaith-am-wobr-i-thomas-sydd-ai-fryd-ar-y-byd-amlgyfrwng\/","title":{"rendered":"Gobaith am wobr i Thomas sydd \u00e2\u2019i fryd ar y byd amlgyfrwng"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/award-finalist-thomas-targets-multimedia-career\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/gobaith-am-wobr-i-thomas-sydd-ai-fryd-ar-y-byd-amlgyfrwng\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_6329\" style=\"width: 490px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2018\/10\/Thomas-Watkins-Apprentice-12-press-e1541148047331.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-6329\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2018\/10\/Thomas-Watkins-Apprentice-12-press-e1541148047331.jpg\" alt=\"Thomas Watkins \u2013 \u00e2\u2019i fryd ar yrfa yn y byd amlgyfrwng.\" width=\"480\" height=\"320\" class=\"size-full wp-image-6329\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-6329\" class=\"wp-caption-text\">Thomas Watkins \u2013 \u00e2\u2019i fryd ar yrfa yn y byd amlgyfrwng.<\/p><\/div>\n<p>Mae Thomas Watkins yn benderfynol o gael gyrfa yn y cyfryngau er bod anhwylder ar y sbectrwm awtistig yn amharu ar ei leferydd.<\/p>\n<p>Llwyddodd Thomas, 26 oed, o Ddraenen Pen-y-graig, Caerdydd, i gwblhau Prentisiaeth Uwch (Lefel 4) yn y Cyfryngau Creadigol a Digidol (Llwybr y Cyfryngau Rhyngweithiol) trwy&#8217;r darparwr hyfforddiant Sgil Cymru wrth weithio i White Hart Multimedia.<\/p>\n<p>Yn awr, cafodd ymdrechion Thomas eu cydnabod ac mae wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni. Bydd yn cystadlu i fod yn Brentis Uwch y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo fawreddog yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd ar 9 Tachwedd.<\/p>\n<p>Bwriad y gwobrau blynyddol yw arddangos a dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.<\/p>\n<p>Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe\u2019u cefnogir gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop. <\/p>\n<p>Mae 30 o gyflogwyr, dysgwyr a darparwyr dysgu o bob rhan o Gymru wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru. <\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\"><strong>Mae Chris Brooks, cyfarwyddwr White Hart Multimedia,<\/strong> yn llawn edmygedd o Thomas, sy\u2019n weithiwr llawrydd erbyn hyn. \u201cDydi e byth yn gadael i\u2019r nam ar ei leferydd ei gadw rhag cymryd rhan lawn yn y gwaith. Gallai\u2019r rhwystr hon fod wedi bod yn drech na rhywun heb benderfyniad tawel a dewrder Thomas. Mae\u2019n ysbrydoliaeth i bawb sy\u2019n gweithio yma.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Mae Thomas wedi creu argraff ar bobl eraill hefyd. Ef oedd Prentis y Flwyddyn y Diwydiannau Creadigol yng Ngwobrau&#8217;r Gynghrair Sgiliau Ansawdd (QSA) yng Nghaerdydd eleni.<\/p>\n<p>Dechreuodd ymddiddori yn y cyfryngau digidol a chreadigol yn yr ysgol ac aeth ymlaen i wneud HND mewn Dylunio yn y Cyfryngau Digidol yng Ngholeg Pen-y-bont cyn sicrhau\u2019r brentisiaeth amlgyfrwng.<\/p>\n<p>Roedd ei hyfforddiant yn y gweithle ac yn Stiwdios Pinewood Cymru yn cynnwys graffeg, camer\u00e2u, meddalwedd golygu, cyfuno elfennau rhyngweithiol a rhoi prawf ar lwyfannau e-Ddysgu.<\/p>\n<p>Bu Thomas yn gweithio&#8217;n annibynnol ar brosiect ffilm ar gyfer clwb dawns mewn ysgol, prosiect oedd yn gofyn am nifer o sgiliau, ac mae ganddo ddawn i brofi modiwlau e-ddysgu a systemau adrodd digidol ac i greu graffeg ar gyfer y pecynnau rhyngweithiol.<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">\u201cFy nod mewn bywyd yw gwneud rhywbeth sy\u2019n fy ngwneud yn hapus a, gan fy mod yn mwynhau gweithio yn y maes amlgyfrwng, rwy am wneud gyrfa o hynny,\u201d <strong>meddai Thomas.<\/strong><\/br><br \/>\n\u201cRwy\u2019n gweithio\u2019n llawrydd yn awr, sy\u2019n gyffredin yn y diwydiant hwn oherwydd natur y gwaith, ac rwy\u2019n benderfynol o wneud gyrfa ohoni.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">Wrth longyfarch Thomas ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd <strong>Gweinidog y Gymraeg a Dysgu gydol Oes, Eluned Morgan:<\/strong> \u201cMae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn tynnu sylw at lwyddiant Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru a\u2019r hyn y mae ein prentisiaid, ein cyflogwyr, ein darparwyr dysgu a\u2019n hyfforddeion disglair wedi\u2019i gyflawni.<\/br><br \/>\n\u201cMae prentisiaethau\u2019n ffordd wych i unigolion feithrin sgiliau gwerthfawr a phrofiad ac ennill cyflog ar yr un pryd, ac i gyflogwyr sicrhau bod y sgiliau angenrheidiol gan eu gweithlu i baratoi\u2019r busnes ar gyfer y dyfodol.<\/br><br \/>\n\u201cNi fu erioed yn bwysicach cynyddu sgiliau lefel uwch a datblygu llwybrau sgiliau er budd Cymru gyfan.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p><strong>Darllenwch fwy am y rhai sydd <a href=\"https:\/\/beta.llyw.cymru\/gwobrau-prentisiaethau-cymru\/enillwyr-a-theilyngwyr\/gwobrau-2018?_ga=2.70917200.1193729103.1538749523-1607368084.1538576159\">yn rownd derfynol Gwobrau Prentisiaethau Cymru<\/a><\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae Thomas Watkins yn benderfynol o gael gyrfa yn y cyfryngau er bod anhwylder ar y sbectrwm awtistig yn amharu ar ei leferydd. Llwyddodd Thomas, 26 oed, o Ddraenen Pen-y-graig, Caerdydd, i gwblhau Prentisiaeth Uwch (Lefel 4) &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/gobaith-am-wobr-i-thomas-sydd-ai-fryd-ar-y-byd-amlgyfrwng\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-6142","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6142","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6142"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6142\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6142"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6142"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6142"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}