{"id":6144,"date":"2018-10-29T13:01:23","date_gmt":"2018-10-29T13:01:23","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=6144"},"modified":"2018-10-29T13:01:23","modified_gmt":"2018-10-29T13:01:23","slug":"gobaith-am-wobr-i-gogydd-ifanc-wrth-iddo-geisio-ennill-bri-yng-nghymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/gobaith-am-wobr-i-gogydd-ifanc-wrth-iddo-geisio-ennill-bri-yng-nghymru\/","title":{"rendered":"Gobaith am wobr i gogydd ifanc wrth iddo geisio ennill bri yng Nghymru"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/young-chef-shortlisted-for-award-as-he-aims-to-make-his-mark-in-wales\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/gobaith-am-wobr-i-gogydd-ifanc-wrth-iddo-geisio-ennill-bri-yng-nghymru\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_6306\" style=\"width: 490px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2018\/10\/Thomas-Martin-51-press-e1540817967669.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-6306\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2018\/10\/Thomas-Martin-51-press-e1540817967669.jpg\" alt=\"Thomas Martin - gobeithio gwneud enw iddo\u2019i hunan fel cogydd.\" width=\"480\" height=\"328\" class=\"size-full wp-image-6306\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-6306\" class=\"wp-caption-text\">Thomas Martin &#8211; gobeithio gwneud enw iddo\u2019i hunan fel cogydd.<\/p><\/div>\n<p>Mae\u2019r prentis cogydd Thomas Martin wrth ei fodd yn coginio ac mae eisoes wedi cael profiad o weithio yn rhai o fwytai gorau Llundain.<\/p>\n<p>Ac yntau\u2019n 22 oed, mae\u2019n gobeithio y bydd ei lwybr gyrfa\u2019n ei arwain i wireddu ei uchelgais o agor bwyty yng Nghaerdydd i hyrwyddo cynhwysion gorau Cymru.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l dilyn Prentisiaeth Sylfaen mewn Coginio Proffesiynol gyda&#8217;r darparwr hyfforddiant Cwmni Hyfforddiant Cambrian, mae\u2019n bwriadu symud ymlaen i wneud Prentisiaeth y flwyddyn nesaf.<\/p>\n<p>Yn gynharach eleni, gwobrwywyd ei angerdd a\u2019i ymroddiad i ddysgu pan enwyd ef yn Brentis Sylfaen y Flwyddyn yng ngwobrau blynyddol Cwmni Hyfforddiant Cambrian a daeth yn agos at y brig yng ngornest Cogydd Ifanc Cymru.<\/p>\n<p>Yn awr, mae wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni. Bydd yn cystadlu i fod yn Brentis Sylfaen y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo fawreddog yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd ar 9 Tachwedd.<\/p>\n<p>Bwriad y gwobrau blynyddol yw arddangos a dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.<\/p>\n<p>Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe\u2019u cefnogir gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop. <\/p>\n<p>Mae 30 o gyflogwyr, dysgwyr a darparwyr dysgu o bob rhan o Gymru wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.<br \/>\nAr hyn o bryd mae Thomas yn chef de partie yn yr Holm House Hotel, Penarth a bu\u2019n gweithio yn y Manor Parc Country Hotel and Restaurant, Caerdydd, Chapel 1887, Caerdydd ac yn Stadiwm y Principality, Caerdydd fel aelod o d\u00eem arlwyo g\u00eam derfynol Cynghrair y Pencampwyr y llynedd. <\/p>\n<p>Yn Llundain, cafodd brofiad o weithio yn Restaurant Gordon Ramsay, bwyty Michel Roux Junior Le Gavroche, Marcus Wareing at the Berkley, bwyty Nathan Outlaw yn y Capital a World\u2019s End Market, Chelsea.<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">\u201cRoedd yn brofiad gwych a phwy na fyddai\u2019n manteisio ar y cyfle i weithio mewn tri bwyty \u00e2 s\u00ear Michelin yn 20 neu\u2019n 21 oed?,&#8221; <strong>meddai Thomas<\/strong>. \u201cGwnaeth y profiad hwnnw newid fy nisgwyliadau o \u2019ngyrfa a gwneud y llwybr ro\u2019n i am ei droedio yn gliriach o lawer.<\/br><br \/>\n\u201cFy uchelgais yw cael fy mwyty fy hunan yn Nghaerdydd yn hyrwyddo cynhwysion o Gymru. Rydw i am chwifio\u2019r faner dros Gymru.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Bwriad Thomas pan adawodd yr ysgol oedd mynd yn saer coed ond yna darganfu ei gariad at goginio. Mae\u2019n dweud mai diolch i\u2019w Brentisiaeth y cafodd yr hyder i fynd i weithio yn Llundain.<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">Wrth longyfarch Thomas ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd <strong>Gweinidog y Gymraeg a Dysgu gydol Oes, Eluned Morgan:<\/strong>\u201cMae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn tynnu sylw at lwyddiant Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru a\u2019r hyn y mae ein prentisiaid, ein cyflogwyr, ein darparwyr dysgu a\u2019n hyfforddeion disglair wedi\u2019i gyflawni.<\/br><br \/>\n\u201cMae prentisiaethau\u2019n ffordd wych i unigolion feithrin sgiliau gwerthfawr a phrofiad ac ennill cyflog ar yr un pryd, ac i gyflogwyr sicrhau bod y sgiliau angenrheidiol gan eu gweithlu i baratoi\u2019r busnes ar gyfer y dyfodol.<\/br><br \/>\n\u201cNi fu erioed yn bwysicach cynyddu sgiliau lefel uwch a datblygu llwybrau sgiliau er budd Cymru gyfan.<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p><strong>Darllenwch fwy am y rhai sydd <a href=\"https:\/\/beta.llyw.cymru\/gwobrau-prentisiaethau-cymru\/enillwyr-a-theilyngwyr\/gwobrau-2018?_ga=2.70917200.1193729103.1538749523-1607368084.1538576159\">yn rownd derfynol Gwobrau Prentisiaethau Cymru<\/a><\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae\u2019r prentis cogydd Thomas Martin wrth ei fodd yn coginio ac mae eisoes wedi cael profiad o weithio yn rhai o fwytai gorau Llundain. Ac yntau\u2019n 22 oed, mae\u2019n gobeithio y bydd ei lwybr gyrfa\u2019n ei arwain &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/gobaith-am-wobr-i-gogydd-ifanc-wrth-iddo-geisio-ennill-bri-yng-nghymru\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-6144","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6144","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6144"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6144\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6144"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6144"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6144"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}