{"id":6164,"date":"2018-10-24T09:00:52","date_gmt":"2018-10-24T09:00:52","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=6164"},"modified":"2018-10-24T07:33:49","modified_gmt":"2018-10-24T07:33:49","slug":"gobaith-am-wobr-i-mariska-ar-ol-goresgyn-rhwystrau-i-gychwyn-ar-lwybr-gyrfa","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/gobaith-am-wobr-i-mariska-ar-ol-goresgyn-rhwystrau-i-gychwyn-ar-lwybr-gyrfa\/","title":{"rendered":"Gobaith am wobr i Mariska ar \u00f4l goresgyn rhwystrau i gychwyn ar lwybr gyrfa"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/award-finalist-mariska-overcomes-barriers-to-launch-career-path\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/gobaith-am-wobr-i-mariska-ar-ol-goresgyn-rhwystrau-i-gychwyn-ar-lwybr-gyrfa\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_6302\" style=\"width: 490px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2018\/10\/Mariska-Hutton-press-e1540366362605.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-6302\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2018\/10\/Mariska-Hutton-press-e1540366362605.jpg\" alt=\"Mae Mariska Hutton wedi goresgyn rhwystrau yn ei bywyd.\" width=\"480\" height=\"320\" class=\"size-full wp-image-6302\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-6302\" class=\"wp-caption-text\">Mae Mariska Hutton wedi goresgyn rhwystrau yn ei bywyd.<\/p><\/div>\n<p>Mae merch ifanc sydd wedi goresgyn llawer o rwystrau a heriau yn ei bywyd wedi defnyddio rhaglen Hyfforddeiaeth Lefel 1 Llywodraeth Cymru fel man cychwyn ar gyfer ei llwybr gyrfa.<\/p>\n<p>Gadawodd Mariska Hutton, 20 oed, o Dwynyrodyn, Merthyr Tudful, yr ysgol heb gymwysterau ond mae wedi llwyddo i gwblhau\u2019r Hyfforddeiaeth ac ennill Tystysgrif NVQ Lefel 1 mewn Sgiliau Manwerthu trwy\u2019r darparwr hyfforddiant PeoplePlus.<\/p>\n<p>Bu\u2019r cymwysterau hyn o gymorth iddi gael lleoliad yn siop y Groes Goch Brydeinig ym Merthyr Tudful ac mae\u2019n gobeithio y bydd hynny\u2019n arwain at swydd lawn amser.<\/p>\n<p>Yn awr, mae Mariska wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni. Bydd yn cystadlu i fod yn Ddysgwr y Flwyddyn \u2013 Hyfforddeiaethau (Lefel 1) yn y seremoni wobrwyo fawreddog yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd ar 9 Tachwedd.<\/p>\n<p>Bwriad y gwobrau blynyddol yw arddangos a dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.<\/p>\n<p>Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe\u2019u cefnogir gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop. <\/p>\n<p>Mae 30 o gyflogwyr, dysgwyr a darparwyr dysgu o bob rhan o Gymru wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru. <\/p>\n<p>Ganed Mariska yn Ne Affrica, cymerwyd hi i ofal yr awdurdodau yn bedair oed, bu mewn cartref maeth, cafodd ei mabwysiadu&#8217;n saith oed a symudodd i Brydain gyda&#8217;r rhieni a&#8217;i mabwysiadodd pan oedd yn 15.<\/p>\n<p>Ychydig ar \u00f4l symud i Gymru, cafodd gyfnod o iselder am ei bod yn cael ei bwlio yn yr ysgol ac am fod y berthynas rhyngddi a\u2019i mam fabwysiedig wedi chwalu. Cafodd gyfnodau hir o orbryder ac iselder ar \u00f4l y trafferthion yn y berthynas \u00e2\u2019i theulu ac felly roedd yn methu cadw swyddi yn hir.<\/p>\n<p>Cafodd ei chyflwyno i PeoplePlus gan ffrind ac, ar \u00f4l cychwyn ar raglen ymgysylltu ym mis Ionawr eleni, dechreuodd fagu hyder a gwneud ffrindiau newydd.<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">\u201cRwy wedi gweithio\u2019n galed dros y deunaw mis diwethaf i wneud fy mywyd yn well,\u201d <strong>meddai Mariska.<\/strong><br \/>\n\u201cPan ddechreuais i gyda PeoplePlus, roeddwn wedi cael profiadau gwael ac roeddwn i\u2019n dioddef o orbryder ac iselder. Gyda chymorth y staff, rwy wedi dod yn fwy hyderus ac rwy\u2019n gobeithio cael swydd lawn amser gyda chyflog.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\"><strong>Dywedodd ei thiwtor gyda PeoplePlus, Carol Williams:<\/strong> \u201cMae Mariska yn ferch ifanc hyderus, fawr ei gofal, sy\u2019n gweithio\u2019n galed. Mae wedi wynebu llawer o heriau a rhwystrau yn ei bywyd ond mae\u2019n dal yn uchelgeisiol ac yn benderfynol o wella\u2019i hunan.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">Wrth longyfarch Mariska ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd <strong>Gweinidog y Gymraeg a Dysgu gydol Oes, Eluned Morgan:<\/strong> \u201cMae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn tynnu sylw at lwyddiant Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru a\u2019r hyn y mae ein prentisiaid, ein cyflogwyr, ein darparwyr dysgu a\u2019n hyfforddeion disglair wedi\u2019i gyflawni.<\/br><br \/>\n\u201cMae prentisiaethau\u2019n ffordd wych i unigolion feithrin sgiliau gwerthfawr a phrofiad ac ennill cyflog ar yr un pryd, ac i gyflogwyr sicrhau bod y sgiliau angenrheidiol gan eu gweithlu i baratoi\u2019r busnes ar gyfer y dyfodol.<\/br><br \/>\n\u201cNi fu erioed yn bwysicach cynyddu sgiliau lefel uwch a datblygu llwybrau sgiliau er budd Cymru gyfan.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p><strong>Darllenwch fwy am y rhai sydd <a href=\"https:\/\/beta.llyw.cymru\/gwobrau-prentisiaethau-cymru\/enillwyr-a-theilyngwyr\/gwobrau-2018?_ga=2.70917200.1193729103.1538749523-1607368084.1538576159\">yn rownd derfynol Gwobrau Prentisiaethau Cymru<\/a><\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae merch ifanc sydd wedi goresgyn llawer o rwystrau a heriau yn ei bywyd wedi defnyddio rhaglen Hyfforddeiaeth Lefel 1 Llywodraeth Cymru fel man cychwyn ar gyfer ei llwybr gyrfa. Gadawodd Mariska Hutton, 20 oed, o Dwynyrodyn, &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/gobaith-am-wobr-i-mariska-ar-ol-goresgyn-rhwystrau-i-gychwyn-ar-lwybr-gyrfa\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-6164","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6164","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6164"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6164\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6164"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6164"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6164"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}