{"id":6169,"date":"2018-11-03T12:00:33","date_gmt":"2018-11-03T12:00:33","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=6169"},"modified":"2018-11-02T08:59:02","modified_gmt":"2018-11-02T08:59:02","slug":"lynnette-yn-rhoi-sgiliau-arwain-a-rheoli-ar-waith-yn-y-gweithle","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/lynnette-yn-rhoi-sgiliau-arwain-a-rheoli-ar-waith-yn-y-gweithle\/","title":{"rendered":"Lynnette yn rhoi sgiliau Arwain a Rheoli ar waith yn y gweithle"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/lynnette-applies-leadership-and-management-skills-in-the-workplace\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/lynnette-yn-rhoi-sgiliau-arwain-a-rheoli-ar-waith-yn-y-gweithle\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_6336\" style=\"width: 490px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2018\/10\/Lynette-Davies-13-press-e1541148984826.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-6336\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2018\/10\/Lynette-Davies-13-press-e1541148984826.jpg\" alt=\"Lynnette Davies \u2013 arweinydd ysbrydoledig.\" width=\"480\" height=\"320\" class=\"size-full wp-image-6336\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-6336\" class=\"wp-caption-text\">Lynnette Davies \u2013 arweinydd ysbrydoledig.<\/p><\/div>\n<p>Mae gwybodaeth a sgiliau a ddysgodd Lynnette Davies ar Brentisiaeth Uwch yr ILM mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth (Lefel 5) wedi\u2019i helpu i sicrhau gwelliannau sylweddol yn y DVLA yn Abertawe.<\/p>\n<p>Bu Lynnette, 51 oed, o Gastell-nedd, mor llwyddiannus yn gwneud newidiadau, yn ennyn diddordeb staff ac yn gostwng nifer y cwynion fel ei bod wedi&#8217;i phenodi&#8217;n arweinydd gwelliant parhaus ynghyd \u00e2\u2019i swydd fel rheolwr gwella profiad cwsmeriaid.<\/p>\n<p>A hithau\u2019n dychwelyd i addysg ffurfiol am y tro cyntaf mewn 31 o flynyddoedd, cwblhaodd y Brentisiaeth Uwch trwy Hyfforddiant Llwybrau yng Ngr\u0175p Colegau NPTC ac mae\u2019n symud ymlaen yn awr i\u2019r Proffesiwn Cyflawni Gweithredol Lefel 6.<\/p>\n<p>Yn awr, cafodd ei hymdrechion eu cydnabod ac mae wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni. Bydd yn cystadlu i fod yn Brentis Uwch y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo fawreddog yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd ar 9 Tachwedd.<\/p>\n<p>Bwriad y gwobrau blynyddol yw arddangos a dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.<\/p>\n<p>Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe\u2019u cefnogir gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop. <\/p>\n<p>Mae 30 o gyflogwyr, dysgwyr a darparwyr dysgu o bob rhan o Gymru wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru. <\/p>\n<p>Roedd Lynnette yn rhan o d\u00eem arwain a gafodd y dasg o rymuso ac ysbrydoli\u2019r gweithlu. O fewn dau fis ar \u00f4l dechrau ar ei Phrentisiaeth Uwch, cafodd ddyrchafiad dros dro a mwy o gyfrifoldeb a oedd yn dipyn o her i\u2019w sgiliau rheoli pobl.<\/p>\n<p>Roedd y swydd newydd yn cynnwys newidiadau strategol, cynllunio cyllidol, datblygu pobl recriwtio, ad-drefnu a chynllun datblygu personol i sicrhau ei bod yn cyrraedd y targedau. <\/p>\n<p>Cafodd ei chydnabod yn \u201cberfformiwr disglair\u201d yn ei hasesiad ar \u00f4l cyflwyno cynlluniau i\u2019r cyfarwyddwr a fyddai\u2019n gwella rheolaeth ariannol y sefydliad. Llwyddodd i sicrhau bod llawer llai o bapur yn cael ei wastraffu a chyflwynodd dechnoleg newydd i wella gofal bugeiliol a chyfathrebu gyda rhai oedd yn gweithio o bell. <\/p>\n<p>Yn ogystal, Lynnette oedd yn arwain gwaith cynllunio a chyflenwi hyfforddiant \u2018Diwylliant Cwsmeriaid yn Gyntaf\u2019 a fydd yn cael ei gynnig fesul tipyn i bron 4,000 o staff. <\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">\u201cRwy wedi ymrwymo\u2019n llwyr i\u2019r Brentisiaeth Uwch ac rwy wedi rhoi\u2019r hyn a ddysgais ar waith yn \u00f4l yn y gweithle gan sicrhau gwelliannau sylweddol sy\u2019n cael eu cydnabod ar y lefel uchaf yn y sefydliad,\u201d <strong>meddai Lynnette.<\/strong><\/em><\/p><\/blockquote>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\"><strong>Dywedodd Stephen Hartnoll, pennaeth Uned Cwynion, Twyll Gweithredol a Gwaith Achosion y DVLA:<\/strong> \u201cMae Lynnette wedi dangos ei bod yn feddylwraig strategol, yn arweinydd ysbrydoledig ac yn berson sy\u2019n dda iawn am gyflwyno newidiadau. Mae\u2019n ddi-os bod y sgiliau a ddatblygodd trwy\u2019r brentisiaeth wedi bod yn allweddol i\u2019w llwyddiant.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">Wrth longyfarch Lynnette ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd <strong>Gweinidog y Gymraeg a Dysgu gydol Oes, Eluned Morgan:<\/strong> \u201cMae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn tynnu sylw at lwyddiant Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru a\u2019r hyn y mae ein prentisiaid, ein cyflogwyr, ein darparwyr dysgu a\u2019n hyfforddeion disglair wedi\u2019i gyflawni.<\/br><br \/>\n\u201cMae prentisiaethau\u2019n ffordd wych i unigolion feithrin sgiliau gwerthfawr a phrofiad ac ennill cyflog ar yr un pryd, ac i gyflogwyr sicrhau bod y sgiliau angenrheidiol gan eu gweithlu i baratoi\u2019r busnes ar gyfer y dyfodol.<\/br><br \/>\n\u201cNi fu erioed yn bwysicach cynyddu sgiliau lefel uwch a datblygu llwybrau sgiliau er budd Cymru gyfan.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p><strong>Darllenwch fwy am y rhai sydd <a href=\"https:\/\/beta.llyw.cymru\/gwobrau-prentisiaethau-cymru\/enillwyr-a-theilyngwyr\/gwobrau-2018?_ga=2.70917200.1193729103.1538749523-1607368084.1538576159\">yn rownd derfynol Gwobrau Prentisiaethau Cymru<\/a><\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae gwybodaeth a sgiliau a ddysgodd Lynnette Davies ar Brentisiaeth Uwch yr ILM mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth (Lefel 5) wedi\u2019i helpu i sicrhau gwelliannau sylweddol yn y DVLA yn Abertawe. Bu Lynnette, 51 oed, o Gastell-nedd, mor &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/lynnette-yn-rhoi-sgiliau-arwain-a-rheoli-ar-waith-yn-y-gweithle\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-6169","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6169","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6169"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6169\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6169"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6169"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6169"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}