{"id":6193,"date":"2018-11-04T12:00:05","date_gmt":"2018-11-04T12:00:05","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=6193"},"modified":"2018-11-02T09:14:16","modified_gmt":"2018-11-02T09:14:16","slug":"prentisiaeth-yn-trawsnewid-bywyd-peiriannydd-prosiectau","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/prentisiaeth-yn-trawsnewid-bywyd-peiriannydd-prosiectau\/","title":{"rendered":"Prentisiaeth yn trawsnewid bywyd peiriannydd prosiectau"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/apprenticeship-pathway-transforms-project-engineers-life\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/prentisiaeth-yn-trawsnewid-bywyd-peiriannydd-prosiectau\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_6340\" style=\"width: 490px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2018\/10\/Daren-Chesworth-KFP_6007-press-e1541149828489.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-6340\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2018\/10\/Daren-Chesworth-KFP_6007-press-e1541149828489.jpg\" alt=\"Daren Chesworth, wrth ei fodd \u00e2 pheirianneg cynnal a chadw.\" width=\"480\" height=\"320\" class=\"size-full wp-image-6340\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-6340\" class=\"wp-caption-text\">Daren Chesworth, wrth ei fodd \u00e2 pheirianneg cynnal a chadw.<\/p><\/div>\n<p>Mae Daren Chesworth, peiriannydd cynnal, yn profi y gall prentisiaethau newid bywydau <\/p>\n<p>Aeth Daren, 30 oed, sy\u2019n byw yn Garden Village, Wrecsam, i weithio gyda Transcontinental AC UK Ltd yn y dref ar \u00f4l i\u2019w swydd fel plymer ddod i ben ac yntau \u00e2 theulu i\u2019w gynnal. <\/p>\n<p>Diolch i&#8217;r llwybr prentisiaethau, mae\u2019r gweithiwr di-grefft wedi cymhwyso\u2019n beiriannydd cynnal sy\u2019n rhan o d\u00eem aml-adrannol ar wahanol brosiectau. <\/p>\n<p>Yn awr, cafodd ei ymdrechion eu cydnabod ac mae wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni. Bydd yn cystadlu i fod yn Brentis Uwch y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo fawreddog yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd ar 9 Tachwedd.<\/p>\n<p>Bwriad y gwobrau blynyddol yw arddangos a dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.<\/p>\n<p>Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe\u2019u cefnogir gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop. <\/p>\n<p>Mae 30 o gyflogwyr, dysgwyr a darparwyr dysgu o bob rhan o Gymru wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru. <\/p>\n<p>Wrth gael ei hyfforddi\u2019n dechnegydd cynnal a chadw amlsgiliau, Daren oedd prentis cyntaf Transcontinental AC UK Ltd ac fe gwblhaodd ei Brentisiaeeth mewn Gweithgynhyrchu Peirianneg trwy Goleg Cambria. <\/p>\n<p>Yna, symudodd ymlaen i Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) a gradd mewn Peirianneg Ddiwydiannol (Mecatroneg) gydag Anrhydedd, gan roi\u2019r wybodaeth a\u2019r sgiliau roedd wedi\u2019u dysgu ar waith. <\/p>\n<p>Ei nod yw bod yn Beiriannydd Siartredig ac yn arbenigwr ar beirianneg cynnal a chadw trwy wneud gwaith ymchwil \u00f4l-radd. Cyn hir, bydd yn cwblhau ei MPhil cyn dechrau astudio ar gyfer MBA.<\/p>\n<p>Diolch i\u2019r hyn a ddysgodd, cafodd gyfle i gyflwyno papur ymchwil ar dechnegau cynnal a chadw newydd mewn uwchgynhadledd ddiwydiannol ryngwladol ym mis Mawrth.  Mae\u2019n datblygu strategaeth gynnal a chadw \u2018glyfar\u2019 ac mae wedi cyflwyno dull newydd o brofi pympiau trosglwyddo y disgwylir iddo arbed dros \u00a320,000 y flwyddyn i\u2019w gyflogwr.<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">\u201cMae&#8217;r brentisiaeth wedi bod yn fan cychwyn i mi ddatblygu gyrfa mewn pwnc rwy\u2019n credu\u2019n gryf ynddo,\u201d <strong>meddai Daren,<\/strong> gan gamol ei gyflogwr a Choleg Cambria am eu cefnogaeth. \u201cRwy am rannu fy mhrofiad ag eraill yn y gobaith y gallaf ddangos bod prentisiaeth wir yn gallu newid eich bywyd.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\"><strong>Dywedodd Dr Keith Vidamour, rheolwr peirianneg Transcontinental AC UK Ltd:<\/strong> \u201cO\u2019r dechrau, roedd yn amlwg bod gan y cwmni ddisgwyliadau uchel o\u2019u prentisiaid ac mae Daren wedi rhagori ar y disgwyliadau hynny.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">Wrth longyfarch Daren ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd <strong>Gweinidog y Gymraeg a Dysgu gydol Oes, Eluned Morgan:<\/strong> \u201cMae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn tynnu sylw at lwyddiant Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru a\u2019r hyn y mae ein prentisiaid, ein cyflogwyr, ein darparwyr dysgu a\u2019n hyfforddeion disglair wedi\u2019i gyflawni.<\/br><br \/>\n\u201cMae prentisiaethau\u2019n ffordd wych i unigolion feithrin sgiliau gwerthfawr a phrofiad ac ennill cyflog ar yr un pryd, ac i gyflogwyr sicrhau bod y sgiliau angenrheidiol gan eu gweithlu i baratoi\u2019r busnes ar gyfer y dyfodol.<\/br><br \/>\n\u201cNi fu erioed yn bwysicach cynyddu sgiliau lefel uwch a datblygu llwybrau sgiliau er budd Cymru gyfan.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p><strong>Darllenwch fwy am y rhai sydd <a href=\"https:\/\/beta.llyw.cymru\/gwobrau-prentisiaethau-cymru\/enillwyr-a-theilyngwyr\/gwobrau-2018?_ga=2.70917200.1193729103.1538749523-1607368084.1538576159\">yn rownd derfynol Gwobrau Prentisiaethau Cymru<\/a><\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae Daren Chesworth, peiriannydd cynnal, yn profi y gall prentisiaethau newid bywydau Aeth Daren, 30 oed, sy\u2019n byw yn Garden Village, Wrecsam, i weithio gyda Transcontinental AC UK Ltd yn y dref ar \u00f4l i\u2019w swydd fel &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/prentisiaeth-yn-trawsnewid-bywyd-peiriannydd-prosiectau\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-6193","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6193","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6193"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6193\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6193"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6193"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6193"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}