{"id":6353,"date":"2018-11-18T21:11:52","date_gmt":"2018-11-18T21:11:52","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=6353"},"modified":"2018-11-18T21:12:31","modified_gmt":"2018-11-18T21:12:31","slug":"prentis-yn-cael-ei-anrhydeddu-gan-sefydliad-y-peirianwyr-mecanyddol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/prentis-yn-cael-ei-anrhydeddu-gan-sefydliad-y-peirianwyr-mecanyddol\/","title":{"rendered":"Prentis yn cael ei anrhydeddu gan Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/engineering-accoladae-for-apprentice-dafydd\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/prentis-yn-cael-ei-anrhydeddu-gan-sefydliad-y-peirianwyr-mecanyddol\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2018\/11\/Dafydd-Orthios-Apprentice-iMechE-award-8-sml-e1542575412246.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2018\/11\/Dafydd-Orthios-Apprentice-iMechE-award-8-sml-e1542575412246.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"328\" class=\"alignleft size-full wp-image-10899\" \/><\/a><\/p>\n<p>Mewn seremoni ddiweddar yng Ngholeg Menai, Dafydd Morris Jones o F\u00f4n dderbyniodd wobr 2018 Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol (IMechE) i&#8217;r &#8220;Prentis sydd wedi Gwella Fwyaf&#8221;.  <\/p>\n<p>Prentis yng nghwmni Orthios Eco Parks Ltd ym M\u00f4n yw Dafydd a gwnaeth ei benderfyniad a&#8217;i ymroddiad i&#8217;w waith argraff fawr ar ei benaethiaid, ei gydweithwyr, ei diwtoriaid a Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol. Mae hefyd wedi bod yn barod i iawn i hyrwyddo pynciau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) i ddisgyblion mewn digwyddiadau STEM lleol.  <\/p>\n<p>Dyma&#8217;r ail wobr i Dafydd ei hennill mewn llai na 12 mis. Yn gynharach eleni, enillodd wobr &#8216;Prentis Peirianneg y Flwyddyn\u2019 yng Ngwobrau Prentisiaethau Gr\u0175p Llandrillo Menai.  <\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">Yn y digwyddiad, dywedodd <strong>Gareth Cemlyn Jones, Cadeirydd Rhanbarth Glannau Mersi a Gogledd Cymru o\u2019r IMechE:<\/strong><\/br><br \/>\n&#8220;Mae Dafydd wedi profi ei fod yn \u0175r ifanc brwdfrydig ac ymroddgar iawn sy&#8217;n dysteb i&#8217;w broffesiwn. Nid yn unig mae&#8217;n ymestyn ei hun i gwblhau cyrsiau ychwanegol er mwyn ehangu ei sgiliau a&#8217;i wybodaeth, ond mae hefyd yn llysgennad gwych i&#8217;w gyflogwyr yn Orthios ac i&#8217;r diwydiant Peirianneg.<\/br><br \/>\n&#8220;Yn IMechE rydym yn credu&#8217;n gryf bod posib i ni newid y byd drwy beirianneg.  Rydym yn dod o hyd i dalentau newydd, ac yn eu meithrin. Rydym yn helpu peirianwyr i ddatblygu gyrfaoedd ac ymgymryd \u00e2 phroblemau a fydd yn gwneud gwahaniaeth i ni i gyd wedi iddynt gael eu datrys.<\/br><br \/>\n&#8220;Drwy ei waith yn hyrwyddo pynciau STEM mewn ysgolion lleol a&#8217;i brentisiaeth yn Orthios, mae Dafydd yn dangos ei ymrwymiad i Beirianneg. Mae ganddo yrfa addawol o&#8217;i flaen.&#8221;<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Prentis ym maes Peirianneg Fecanyddol yw Dafydd. Mae eisoes wedi cwblhau lefel 2 ei brentisiaeth ac ar ei ffordd i gwblhau ei lefel 3.  <\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\"><strong>Dywedodd Wendy Williams o gwmni Orthios:<\/strong><\/br><br \/>\n\u201cYmunodd Dafydd ag Orthios fel prentis yn Chwefror 2016 ac ers hynny mae wedi cael profiad o weithio ar amrywiaeth o dasgau yn ogystal \u00e2 gwneud gwaith cynnal a chadw peirianegol. Ar hyn o bryd mae&#8217;n gweithio tuag at Ddiploma Estynedig EAL NVQ3 mewn Cynnal a Chadw Peirianegol ac yn canolbwyntio ar Dechnegau Cynnal a Chadw Cyfanswm Allbwn (TPM).<\/br><br \/>\nRydym yn hynod o falch o Dafydd ac yn dymuno pob llwyddiant iddo.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\"><strong>Dywedodd Dafydd,<\/strong> &#8220;Ers dechrau ar fy mhrentisiaeth rydw i wedi datblygu gwell dealltwriaeth o weithdrefnau cynnal a chadw ac offer mecanyddol. Rydw i&#8217;n gwybod yn well r\u0175an sut maen nhw&#8217;n gweithio a beth yw&#8217;r symptomau gwahanol sy&#8217;n digwydd pan fydd rhannau&#8217;n methu.<\/br><br \/>\nMae bod yn rhan o d\u00eem Orthios wedi fy ngwneud i&#8217;n fwy hyderus, ac mae&#8217;r gefnogaeth rydw i&#8217;n ei chael gan fy mentor a &#8216;nghydweithwyr yn Orthios yn arbennig.&#8221;<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Cwmni arbenigol ym maes datblygu atgynhyrchiol yw Orthios ac mae ei holl ethos yn ymwneud \u00e2 hyrwyddo cynaliadwyedd ac economi gylchol.  <\/p>\n<p>Bwriada Orthios ddatblygu ei Ganolfan Brosesu Polymer ar safle Caergybi. Canolfan yw hon sy&#8217;n troi gwastraff plastig yn olew er mwyn mynd i&#8217;r afael \u00e2 phroblem enbyd gwastraff plastig a llygredd yn y DU a&#8217;r UE.  <\/p>\n<p>Mae Orthios wedi cael caniat\u00e2d i ddefnyddio adeiladau presennol y cyn waith alwminiwm i brosesu plastig yn gynnyrch uchel ei werth.<\/p>\n<p>Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae Orthios wedi cynnal asesiad manwl o nifer o dechnegau prosesu polymer ac wedi dod i bartneriaeth \u00e2 darparwr technoleg yn ogystal \u00e2 chreu cysylltiadau ag ymgynghorwyr blaenllaw ym maes peirianneg a&#8217;r amgylchedd. <\/p>\n<p>Mae Orthios wedi ymroi&#8217;n llwyr i&#8217;r cynlluniau hyn a bydd yn rhoi diweddariad i&#8217;w randdeiliaid pan fydd yr amser yn briodol. <\/p>\n<p>I gael rhagor o wybodaeth am brentisiaethau gyda Busnes@LlandrilloMenai ewch i gllm.ac.uk\/busnes neu ffonio 08445 460 460. <\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mewn seremoni ddiweddar yng Ngholeg Menai, Dafydd Morris Jones o F\u00f4n dderbyniodd wobr 2018 Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol (IMechE) i&#8217;r &#8220;Prentis sydd wedi Gwella Fwyaf&#8221;. Prentis yng nghwmni Orthios Eco Parks Ltd ym M\u00f4n yw Dafydd a &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/prentis-yn-cael-ei-anrhydeddu-gan-sefydliad-y-peirianwyr-mecanyddol\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-6353","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6353","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6353"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6353\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6353"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6353"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6353"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}