{"id":6404,"date":"2018-12-12T09:00:53","date_gmt":"2018-12-12T09:00:53","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=6404"},"modified":"2019-08-27T19:01:36","modified_gmt":"2019-08-27T19:01:36","slug":"cyflogwyr-yn-cydweithio-i-roi-cyfleoedd-i-brentisiaid","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cyflogwyr-yn-cydweithio-i-roi-cyfleoedd-i-brentisiaid\/","title":{"rendered":"Cyflogwyr yn cydweithio i roi cyfleoedd i Brentisiaid"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/employers-working-together-to-provide-apprenticeship-opportunities\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cyflogwyr-yn-cydweithio-i-roi-cyfleoedd-i-brentisiaid\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_6405\" style=\"width: 490px\" class=\"wp-caption alignnone\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2018\/12\/01.09.17-mh-Cyfle-Finalists-31-e1544176072348.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-6405\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2018\/12\/01.09.17-mh-Cyfle-Finalists-31-e1544176072348.jpg\" alt=\"Rhys Fisher (chwith) o Sgiliau Adeiladu Cyfle gyda phrentisiaid, Josephine Jones a Scott Roderick.\" width=\"480\" height=\"320\" class=\"size-full wp-image-6405\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-6405\" class=\"wp-caption-text\">Rhys Fisher (chwith) o Sgiliau Adeiladu Cyfle gyda phrentisiaid, Josephine Jones a Scott Roderick.<\/p><\/div>\n<p>Mae tua 180 o gyflogwyr yn y diwydiant adeiladu yn ne-orllewin Cymru yn cefnogi Rhaglen Rhannu Prentisiaethau sy\u2019n rhedeg ers 11 mlynedd ac sydd wedi ennill gwobrau.<\/p>\n<p>Mae Sgiliau Adeiladu Cyfle o Rydaman yn cyflogi 125 o brentisiaid a rennir, sy\u2019n golygu ei fod yn un o\u2019r cyflogwyr mwyaf o\u2019i fath ym Mhrydain. Mae\u2019r rhaglen yn datblygu\u2019n barhaus i ateb anghenion y diwydiant adeiladu.<\/p>\n<p>Mae\u2019r rhaglen yn rhoi cyfle i brentisiaid ddatblygu eu sgiliau a\u2019u gwybodaeth trwy symud rhwng cwmn\u00efau bach a mawr sy\u2019n gweithredu mewn gwahanol rannau o\u2019r diwydiant.<\/p>\n<p>Ymhlith ei fframweithiau mae gosod brics, gwaith saer, gwaith trydan, plastro, plymio, cynnal a chadw ac adnewyddu, paentio ac addurno, a gwaith technegol. Mae\u2019r prentisiaid yn dilyn cyrsiau mewn colegau rhanbarthol ac yn cael cynnig gwaith ymarferol mewn gwahanol grefftau dros gyfnod o ddwy flynedd.<\/p>\n<p>Cychwynnwyd y rhaglen yn 2007 fel partneriaeth a ddatblygwyd yn Sir Gaerfyrddin ac, yn 2013, cafodd ei ehangu i gynnwys Ceredigion, Sir Benfro, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.<\/p>\n<p>Y llynedd, enwyd Sgiliau Adeiladu Cyfle yn Gyflogwr Canolig y Flwyddyn yn seremoni fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru ac enillodd Wobr y Frenhines am Fenter: Arloesi.<\/p>\n<p>Ym mis Ionawr 2019, bwriedir lansio rhaglen fentora ar gyfer cyflogwyr i geisio sicrhau bod rhagor o bobl sy\u2019n dechrau gweithio yn y diwydiant adeiladu yn aros yno\u2019n hirach. Mae cynlluniau ar y gweill i hyrwyddo defnydd o\u2019r iaith Gymraeg ar safleoedd adeiladu hefyd.<\/p>\n<p>Er mwyn creu llwybr i brentisiaid symud ymlaen i swyddi rheoli, fel goruchwylwyr a rheolwyr safleoedd adeiladu, mae Sgiliau Adeiladu Cyfle yn cynnig Prentisiaeth Dechnegol erbyn hyn.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r rhaglen yn falch o\u2019i record ar amrywiaeth yn y gweithle, gyda 10 o ferched yn brentisiaid ar hyn o bryd, yn cynnwys tair sy\u2019n gweithio tuag at y Brentisiaeth Dechnegol. <\/p>\n<p>Mae\u2019r rhaglen yn ymfalch\u00efo yn ei chyfradd gadw o 95% ac mae llawer o\u2019r prentisiaid gwreiddiol wedi symud ymlaen i ddechrau eu busnesau eu hunain a chynnig lleoliadau i genhedlaeth newydd o brentisiaid.<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\">\u201cYn fy marn i, mae mwy i Brentisiaeth na\u2019r ddwy flynedd y mae\u2019r prentisiaid yn dilyn y rhaglen,\u201d <strong>meddai Anthony Rees, rheolwr rhanbarthol Sgiliau Adeiladu Cyfle.<\/strong> \u201cMae\u2019n fan cychwyn ar gyfer dysgu gydol oes.<\/br><br \/>\n\u201cMae prentisiaethau\u2019n dod \u00e2 gwaed newydd i\u2019r diwydiant adeiladu ac mae angen i bob busnes harneisio doniau newydd, ffres a chreadigrwydd. Mae Prentisiaethau\u2019n darparu gweithwyr medrus i ddiogelu dyfodol busnes.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Nod Rhaglenni Prentisiaethau Llywodraeth Cymru yw darparu\u2019r gweithwyr medrus y mae ar gyflogwyr eu hangen at y dyfodol. Mae cymwysterau sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 hyfforddiant ymarferol yn creu prentisiaid medrus a chynhyrchiol sydd \u00e2&#8217;r sgiliau i addasu i dechnoleg ac arferion gweithio newydd. <\/p>\n<p>Dylai cyflogwyr sy\u2019n dymuno cynnig Prentisiaethau lenwi ffurflen mynegi diddordeb ym Mhorth Sgiliau Busnes Cymru https:\/\/businesswales.gov.wales\/skillsgateway\/cy\/rhaglenni-sgiliau-hyfforddiant\/prentisiaethau  <\/p>\n<p>Dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan: \u201cTrwy gymryd rhan mewn Prentisiaethau yng Nghymru, mae cyflogwyr yn creu gweithlu sy\u2019n gallu ymateb yn well i\u2019r gofynion, sy\u2019n fwy brwdfrydig ac sy\u2019n meddu ar y sgiliau allweddol a\u2019r profiad angenrheidiol. Mae prentisiaethau\u2019n helpu busnesau i fod yn fwy proffidiol ac yn helpu cyflogwyr i fod yn fwy cynhyrchiol a chystadleuol.\u201d<\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). <\/p>\n<p><strong><a href=\"http:\/\/cyflebuilding.co.uk\/blog\">Newyddion Sgiliau Adeiladu Cyfle<\/a><\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae tua 180 o gyflogwyr yn y diwydiant adeiladu yn ne-orllewin Cymru yn cefnogi Rhaglen Rhannu Prentisiaethau sy\u2019n rhedeg ers 11 mlynedd ac sydd wedi ennill gwobrau. Mae Sgiliau Adeiladu Cyfle o Rydaman yn cyflogi 125 o &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cyflogwyr-yn-cydweithio-i-roi-cyfleoedd-i-brentisiaid\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-6404","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6404","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6404"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6404\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6404"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6404"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6404"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}