{"id":6627,"date":"2019-04-11T16:38:07","date_gmt":"2019-04-11T16:38:07","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=6627"},"modified":"2019-04-11T16:38:07","modified_gmt":"2019-04-11T16:38:07","slug":"cefnogi-taith-ddysgu-broffesiynol-y-gweithlu-dsw","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cefnogi-taith-ddysgu-broffesiynol-y-gweithlu-dsw\/","title":{"rendered":"Cefnogi taith ddysgu broffesiynol y gweithlu DSW"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/supporting-the-professional-learning-journey-of-the-wbl-workforce\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cefnogi-taith-ddysgu-broffesiynol-y-gweithlu-dsw\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p><div id=\"attachment_11224\" style=\"width: 409px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2019\/03\/29.01.19-mh-NTFW-and-City-Guilds-Launch-7-e1552477651225.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-11224\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2019\/03\/29.01.19-mh-NTFW-and-City-Guilds-Launch-7-e1552477651225.jpg\" alt=\"\" width=\"399\" height=\"339\" class=\"size-full wp-image-11224\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-11224\" class=\"wp-caption-text\">Kelly Edwards, Head of Work-based Learning Quality<\/p><\/div><br \/>\n<\/br><br \/>\n<\/br><br \/>\n<\/br><br \/>\n<\/br><br \/>\n<\/br><br \/>\n<\/br><br \/>\n<\/br><br \/>\n<\/br><br \/>\n<\/br><br \/>\n<\/br><br \/>\n<\/br><br \/>\n<\/br><br \/>\n<\/br><\/p>\n<p>Bu\u2019r blynyddoedd diwethaf yn gyfnod cyffrous i ddysgu seiliedig ar waith (DSW). Cafwyd nifer o ddatblygiadau allweddol ar daith broffesiynoli ymarferwyr DSW yng Nghymru: o gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ym mis Ebrill 2017, i lansio\u2019r Safonau Proffesiynol ar gyfer athrawon addysg bellach ac ymarferwyr DSW ym mis Tachwedd 2017, ac yna raglen arbennig o ddysgu proffesiynol wedi\u2019i chydlynu gan NTfW a\u2019i chefnogi gan Cymwysterau Cymru.<\/p>\n<p>Mae NTfW newydd gwblhau cyfres o <strong>weithdai dysgu proffesiynol Mae Ansawdd yn Bwysig<\/strong> ar gyfer ymarferwyr DSW ledled Cymru ac rydym yn diolch i <a href=\"https:\/\/www.qualificationswales.org\/cymraeg\/\">Cymwysterau Cymru<\/a> am roi cymorth grant i\u2019n holl ddigwyddiadau. Cyflwynwyd y gweithdai i gyd gan Jo Kelso yn <a href=\"https:\/\/www.learnon.co.uk\/\">LearnOn<\/a> a bu ymateb y rhai a gymerodd ran yn gadarnhaol iawn. Datblygwyd y gweithdai mewn ymateb i argymhellion am welliannau a nodwyd yn adolygiadau sector Cymwysterau Cymru a gyhoeddwyd rhwng 2016 a 2018.<\/p>\n<p>Er mwyn rhoi rhagor o gymorth i\u2019r sector DSW, bu NTfW yn cydweithio \u00e2 <a href=\"https:\/\/www.jisc.ac.uk\/wales\">Jisc<\/a> i ddatblygu gweithdy dysgu proffesiynol newydd i gyrraedd safonau proffesiynol athrawon addysg bellach ac ymarferwyr DSW. Mae\u2019r gweithdy\u2019n agored i aelodau NTfW ac fe\u2019i cynhelir yn y gogledd a\u2019r de.<\/p>\n<p>Roedd yn bleser gan NTfW gymeradwyo\u2019r <strong>safonau proffesiynol<\/strong> a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2017 ac roedd cynrychiolwyr o\u2019r sector wrth eu bodd o gael cyfrannu at y datblygiad.<\/p>\n<p>Datblygwyd y <a href=\"https:\/\/learning.gov.wales\/resources\/collections\/professional-standards?lang=cy\">safonau proffesiynol<\/a> gan d\u00eem o weithwyr proffesiynol o\u2019r sector \u2013 yr un faint o athrawon addysg bellach ag o ymarferwyr DSW \u2013 ac arweiniwyd y prosiect gan yr Athro Bill Lucas o The Centre for Real-World Learning ym Mhrifysgol Caer-wynt sydd \u00e2 phrofiad helaeth o addysgu a dysgu galwedigaethol ar lefel ryngwladol. <\/p>\n<p>Un o brif elfennau\u2019r safonau yw eu bod yn canolbwyntio ar rai sy\u2019n cyflenwi cymwysterau galwedigaethol fel \u2018proffesiynolion deuol\u2019, yn arbenigwyr yn eu diwydiant ac yn athrawon arbenigol, gan feithrin sgiliau a gwybodaeth alwedigaethol y dysgwyr. Mae pwysigrwydd proffesiynoldeb deuol fel un o egwyddorioin arweiniol y safonau newydd yn allweddol. Mae hyn yn cydnabod bod r\u00f4l yr ymarferydd DSW yn unigryw ac mae\u2019n bwysig o ran cydnabod cymhlethdod y r\u00f4l, a phwysigrwydd dysgu proffesiynol er mwyn gwarchod gwybodaeth alwedigaethol a chryfhau sgiliau dysgu ac asesu.  Roedd ein sector yn awyddus i sicrhau bod gwarchod gwybodaeth a phrofiad o\u2019r diwydiant yn dal un un o\u2019r blaenoriaethau allweddol.<\/p>\n<p>Datblygiad pwysig arall yn ein sector dros y blynyddoedd diwethaf yw cynyddu\u2019r nifer sy\u2019n <strong>cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg<\/strong>.  Ym mis Ebrill 2017, daeth yn ofynnol am y tro cyntaf i ymarferwyr gofrestru fel gweithwyr proffesiynol gyda Chyngor y Gweithlu Addysg. Mae hyn yn gam ymlaen ac yn rhywbeth y bu NTfW yn ymgyrchu drosto ers amser, er mwyn sicrhau statws cyfartal. <\/p>\n<p>Croesawyd y cyfle i <a href=\"https:\/\/www.ewc.wales\/site\/index.php\/cy\/cofrestru\/ceisio-am-gofrestru.html\">gofrestru fel gweithwyr proffesiynol<\/a> gan y sector i raddau helaeth. Mae&#8217;n bwysig i DSW fod yn rhan o\u2019r corff proffesiynol sy\u2019n cynrychioli\u2019r gweithlu addysg a hyfforddiant i gyd, er mwyn rhannu\u2019r un gydnabyddiaeth a statws ag athrawon a darlithwyr. Ac felly mae cyflwyno safonau proffesiynol, ar y cyd \u00e2 chofrestru proffesiynol, yn arwydd o\u2019r rhan allweddol y mae ein hymarferwyr yn ei chwarae, ac mae\u2019n codi parch a statws y sector DSW, fel rhan werthfawr o\u2019r holl weithlu addysg a hyfforddiant.<\/p>\n<p>Mae datblygiadau fel hyn yn tanlinellu\u2019r newid yn r\u00f4l yr ymarferydd DSW, i un sy\u2019n cynnwys mwy o ddysgu a hyfforddi nag erioed o\u2019r blaen. Fel sector, daeth DSW yn gyfarwydd \u00e2 newid, ond mae r\u00f4l yr ymarferydd DSW yn un gymhleth ac mae\u2019n newid ac yn cael ei haddasu yn aml. Mae ymgyrch Llywodraeth Cymru i greu mwy o brentisiaethau lefel uwch, yr angen i gydymffurfio \u00e2 dyletswydd Prevent, a phwysigrwydd datblygu sgiliau modern dysgwyr fel y gallant gystadlu yn yr oes ddigidol fel rhan o\u2019r economi fyd-eang yn ddim ond rhai enghreifftiau o\u2019r ffyrdd y mae r\u00f4l yr ymarferydd DSW yn mynd yn fwyfwy cymhleth. <\/p>\n<p>Mae NTfW mewn sefyllfa dda i gefnogi\u2019r gweithlu a mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r heriau hyn ac rydym yn dal i chwilio am gyfleoedd newydd ar gyfer dyfeisgarwch a thwf proffesiynol ar y daith tuag at ragoriaeth ym myd dysgu seiliedig ar waith. Trwy weithgorau a rhwydweithiau, digwyddiadau hyfforddi a gweithgareddau ymgysylltu \u00e2 rhanddeiliaid, mae NTfW yn gweithio i roi gwybodaeth i\u2019r rhwydwaith ac i ddarparu addysg broffesiynol er mwyn cynnig rhaglen DSW drawsnewidiol, o ansawdd da, i ddysgwyr a chyflogwyr.<\/p>\n<p><strong><a href=\"mailto:kelly.edwards@ntfw.org\">Kelly Edwards, Pennaeth Ansawdd Dysgu Seiliedig ar Waith NTfW<\/a><\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Bu\u2019r blynyddoedd diwethaf yn gyfnod cyffrous i ddysgu seiliedig ar waith (DSW). Cafwyd nifer o ddatblygiadau allweddol ar daith broffesiynoli ymarferwyr DSW yng Nghymru: o gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ym mis Ebrill 2017, i lansio\u2019r &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/cefnogi-taith-ddysgu-broffesiynol-y-gweithlu-dsw\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-6627","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6627","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6627"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6627\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6627"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6627"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6627"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}