{"id":6668,"date":"2019-04-14T20:00:08","date_gmt":"2019-04-14T20:00:08","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=6668"},"modified":"2019-04-12T18:52:17","modified_gmt":"2019-04-12T18:52:17","slug":"dwy-anrhydedd-i-arweinydd-cydraddoldeb-ac-amrywiaeth-ntfw","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/dwy-anrhydedd-i-arweinydd-cydraddoldeb-ac-amrywiaeth-ntfw\/","title":{"rendered":"Dwy Anrhydedd i Arweinydd Cydraddoldeb ac Amrywiaeth NTfW"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/double-honours-for-ntfw-equality-and-diversity-lead\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/dwy-anrhydedd-i-arweinydd-cydraddoldeb-ac-amrywiaeth-ntfw\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_11357\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2019\/04\/EMWWAA-Awards-2019_BV3A6052-v2-e1555093702488.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-11357\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2019\/04\/EMWWAA-Awards-2019_BV3A6052-v2-e1555093702488.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"457\" class=\"size-full wp-image-11357\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-11357\" class=\"wp-caption-text\">Humie Webbe a\u2019r Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn seremoni wobrwyo Cymdeithas Cydnabod Llwyddiant Menywod Cymreig Lleiafrifoedd Ethnig (EMWWAA) yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd.<\/p><\/div>\n<p>Mae&#8217;r ymgyrchydd cydraddoldeb ac amrywiaeth Humie Webbe wedi treulio\u2019i bywyd yn helpu pobl o gymunedau Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) i ddweud eu dweud \u2013 ac fe gafodd ei hymdrechion diflino eu cydnabod wrth iddi ennill dwy wobr o bwys.<\/p>\n<p>Mae Gwobrau Cymdeithas Cydnabod Llwyddiant Menywod Cymreig Lleiafrifoedd Ethnig (EMWWAA) wedi anrhydeddu Humie, sy\u2019n byw yng Nghaerdydd, am ei gwaith a\u2019i hymroddiad eithriadol i hyrwyddo ac ysbrydoli pobl mewn cymunedau BAME yng Nghymru.<\/p>\n<p>A hithau\u2019n arweinydd strategol cydraddoldeb ac amrywiaeth gyda Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), mae Humie\u2019n ymwneud \u00e2 phobl mewn cymunedau BAME a phobl ag anableddau ledled Cymru ac yn eu hannog i elwa ar y cyfleoedd a gynigir gan brentisiaethau. <\/p>\n<p>Cyn ymuno \u00e2 NTfW, bu Humie\u2019n gydlynydd cenedlaethol amrywiaeth ar gyfer ymgyrch Mind Cymru, Amser i Newid Cymru, ac mae wedi treulio bron 30 mlynedd yn y sector cyhoeddus a\u2019r sector cymunedol yn helpu pobl o grwpiau difreintiedig.<\/p>\n<p>Roedd Humie a\u2019r brifathrawes nodedig o Gaerdydd, y ddiweddar Betty Campbell, ymlith sefydlwyr Mis Hanes Pobl Dduon Cymru ac fe\u2019i henwyd ymhlith y bobl Affricanaidd Carib\u00efaidd ac Affricanaidd Cymreig mwyaf dylanwadol. Yn y flwyddyn 2000, cafodd ei chynnwys yn rhestr y Western Mail o\u2019r 1,000 o bobl fwyaf dylanwadol yng Nghymru.<\/p>\n<p>Mae Humie\u2019n cydweithio a nifer fawr o gyrff cyhoeddus, sefydliadau a grwpiau addysgol a chymunedol gan ddefnyddio\u2019i phrofiad cyfoethog a\u2019i chysylltiadau niferus i ddwyn pobl ynghyd i greu ymwybyddiaeth a chyfleoedd i bobl mewn cymunedau BAME. <\/p>\n<p>Mae\u2019n credu\u2019n gryf mewn ehangu gorwelion pobl a hyrwyddo llwybrau hyfforddiant a gyrfa i bobl mewn cymunedau BAME yng Nghymru. Yn ogystal, fel mentor gyda rhaglen ymgysylltu EYST Cymru (T\u00eem Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru), mae\u2019n helpu pobl i feithrin sgiliau gwleidyddol a bod yn fwy effeithiol mewn bywyd cyhoeddus.<\/p>\n<p>Cyflwynwyd \u2018Gwobr Gymdeithasol a Dyngarol\u2019 EMWWAA ar y cyd i Humie a chyfarwyddwr EYST, Rocio Cifuentes. Dyma wobr sy\u2019n cydnabod menyw sydd wedi gwella neu gyfoethogi bywydau pobl eraill yn sylweddol neu wedi helpu\u2019r gymdeithas gyfan yn gyffredinol, neu wedi helpu i integreiddio gwahanol ddiwylliannau trwy ymdrechion elusennol a chymunedol.\u201d<\/p>\n<p>Er iddi gael swyddi pwysig ac arwain llawer o gynlluniau sydd wedi helpu i drawsnewid bywydau pobl, mae Humie\u2019n wylaidd iawn am ei chyfraniad.<\/p>\n<div id=\"attachment_11358\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2019\/04\/EMWWAA-Awards-2019_BV3A6550-v2-cropped-e1555093797347.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-11358\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2019\/04\/EMWWAA-Awards-2019_BV3A6550-v2-cropped-e1555093797347.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"459\" class=\"size-full wp-image-11358\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-11358\" class=\"wp-caption-text\">Humie Webbe a enillodd ddwy wobr EMWWAA<\/p><\/div>\n<p>\u201cDwi ddim yn hyderus iawn i fod yn geffyl blaen. Dwi\u2019n gwneud beth dwi\u2019n ei wneud a dyna ni,\u201d meddai Humie a gafodd ei henwebu am y gwobrau gan gydweithiwr.<\/p>\n<p>\u201cRoedd yn anrhydedd fawr cael fy enwebu ochr yn ochr \u00e2 menywod sydd wedi gwneud pethau anhygoel. Fe gefais i\u2019r gwobrau am gyfuniad o bethau rwy wedi\u2019u gwneud dros y blynyddoedd. Ond dydych chi ddim yn cyflawni pethau ar eich pen eich hunan; rydych chi\u2019n cydweithio \u00e2 phobl eraill. Roedd yn dda bod rhai o fy nghydweithwyr ym myd amrywiaeth a chydraddoldeb wedi cael eu henwebu hefyd.\u201d<\/p>\n<p>Pan ddechreuodd weithio gyda NTfW ddwy flynedd yn \u00f4l, aeth Humie ati ar unwaith i drefnu digwyddiadau gan ddefnyddio&#8217;i dawn fawr i rwydweithio er mwyn cyflwyno prentisiaethau i bobl a oedd wedi&#8217;u tangynrychioli yn y maes cyn hynny.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l ennill gwobrau EMWWAA a thrwy ei gwaith fel llysgennad, ei gobaith yw y daw i gysylltiad \u00e2 hyd yn oed ragor o bobl gan agor y drws i gael sgyrsiau a chreu cyfleoedd i bobl gychwyn ar bartneriaethau strategol.\u201d<\/p>\n<p>Yn ei barn hi, mae\u2019r brwdfrydedd yno ond dydi\u2019r bobl ddim bob amser yn ymwybodol o\u2019r cyfleoedd:<br \/>\n\u201cPan fydda i\u2019n siarad \u00e2 phobl am brentisiaethau, mae ganddyn nhw ddiddordeb mawr ond dydi llawer o bobl ddim yn gwybod am eu bodolaeth. Ond all hi ddim bod yn sgwrs unochrog. \u201d<\/p>\n<p>Yn ogystal \u00e2 bod yn un o gyd-enillwyr Gwobr Gymdeithasol a Dyngarol EMWWAA, enillodd Humie un o dair Gwobr Llysgennad Rhodri Morgan gan EMWWAA. Cyflwynwyd y rhain er cof am y diweddar Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru. <\/p>\n<p>Iolanda Banu Viegas a Shavannah Taj a gafodd y ddwy wobr arall a dywed Humie ei bod am ddefnyddio\u2019i gwobr hi i hyrwyddo\u2019i gwaith.<\/p>\n<p>\u201cNi yw\u2019r cyntaf i dderbyn y wobr hon ac mae\u2019n anrhydedd fawr iawn. Fe wnaeth Rhodri Morgan lawer iawn dros y gymuned BAME.\u201d<br \/>\nDywedodd prif weithredwr Race Council Cymru, Uzo Iwobi OBE, \u201cMae r\u00f4l llysgennad EMWWAA yn un bwysig iawn ac mae\u2019n hanfodol er mwyn sicrhau bod llawer o arwresau gwylaidd o wahanol gefndiroedd ethnig yn cael eu darganfod, eu cydnabod, eu henwebu a\u2019u mawrygu. <\/p>\n<p>Fel Llysgennad, bydd Humie yn goleuo\u2019r ffordd ac yn annog llawer i enwebu menywod sy\u2019n fodelau r\u00f4l da ac yn ysgogi newid yng Nghymru.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd yr Athro Meena Upadhyaya, sefydlydd a chadeirydd EMWWAA bod llawer o geisiadau wedi dod gan nifer fawr o \u2018unigolion eithriadol\u2019 ledled Cymru.<\/p>\n<p>\u201cEleni, dewisodd y beirniaid anrhydeddu Humie Webbe, Iolanda Banu Viegas a Shavannah Taj, ac rydym yn edrych ymlaen at eu gweld, fel llysgenhadon, yn dal ati i ganfod a thynnu sylw at fenywod o Gymru sy&#8217;n arwresau disylw. <\/p>\n<p>\u201cBwriad y Gwobrau yw adrodd straeon ysbrydoledig i roi hwb i fenywod ym mhob man ac i ddiolch iddynt, mewn ffordd fach iawn, am y cyfan a wn\u00e2nt. Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio \u00e2 Humie a\u2019r Llysgenhadon eraill yn 2019.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Sarah John, cadeirydd cenedlaethol NTfW, \u201cRydym wrth ein bodd bod yr EMWWAA wedi cydnabod llwyddiant Humie. Ers iddi ymuno \u00e2 NTfW, mae Humie wedi llwyddo i sicrhau bod llawer iawn mwy o bobl o\u2019r gymuned BAME yng Nghymru yn gwybod am brentisiaethau ac yn awyddus i\u2019w dilyn.\u201d<\/p>\n<p>Os hoffech wybod mwy am yr EMWWAA, ewch i <a href=\"http:\/\/emwwaa.org.uk\/\">www.emwwaa.org.uk<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae&#8217;r ymgyrchydd cydraddoldeb ac amrywiaeth Humie Webbe wedi treulio\u2019i bywyd yn helpu pobl o gymunedau Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) i ddweud eu dweud \u2013 ac fe gafodd ei hymdrechion diflino eu cydnabod wrth &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/dwy-anrhydedd-i-arweinydd-cydraddoldeb-ac-amrywiaeth-ntfw\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-6668","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6668","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6668"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6668\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6668"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6668"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6668"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}