{"id":6676,"date":"2019-04-25T08:58:34","date_gmt":"2019-04-25T08:58:34","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=6676"},"modified":"2019-04-25T09:05:33","modified_gmt":"2019-04-25T09:05:33","slug":"dyddiad-cau-gwobrau-prentisiaethau-cymru-yn-agosau-2","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/dyddiad-cau-gwobrau-prentisiaethau-cymru-yn-agosau-2\/","title":{"rendered":"Dyddiad Cau Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn Agos\u00e1u"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/closing-date-is-approaching-for-apprenticeship-awards-cymru\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/dyddiad-cau-gwobrau-prentisiaethau-cymru-yn-agosau-2\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_11378\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2019\/04\/Celtica-Foods-Awards-11-press-e1556101852747.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-11378\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2019\/04\/Celtica-Foods-Awards-11-press-e1556101852747.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"446\" class=\"size-full wp-image-11378\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-11378\" class=\"wp-caption-text\">Rheolwr Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol (CSR) a Hyfforddiant Castell Howell, Edward Morgan, gyda phrentisiaid Celtica.<\/p><\/div>\n<p>Dydi hi ddim yn rhy hwyr i fod yn rhan o\u2019r dathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau yng Nghymru \u2013 Gwobrau Prentisiaethau Cymru.<\/p>\n<p>Rhaid ymgeisio <strong>cyn 12 (ganol dydd), 3 Mai<\/strong>, ac mae\u2019r ffurflenni cais ar gael trwy fynd i  <a href=\"https:\/\/gov.wales\/apprenticeship-awards-cymru\">llyw.cymru\/gwobrau-prentisiaethau-cymru<\/a><\/p>\n<p>Bwriad y gwobrau yw tynnu sylw at lwyddiant dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau a\u2019r penllanw fydd seremoni fawreddog yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yng Nghasnewydd ar 24 Hydref.<\/p>\n<p>Mae 12 categori yn cynnwys dosbarth newydd \u201cDoniau\u2019r Dyfodol\u201d sy\u2019n rhoi cyfle i gyflogwyr enwebu prentis sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd ac sydd \u2018wedi dangos cynnydd personol sylweddol\u2019 ac wedi rhoi \u2018hwb pendant i berfformiad y sefydliad\u2019.\u2019<\/p>\n<p>Yn y dosbarth Cyflogadwyedd, mae gwobrau ar gyfer Dysgwr y Flwyddyn (Hyfforddeiaethau), Ymgysylltu a Lefel 1. Mae gwobrau hefyd ar gyfer Prentis Sylfaen, Prentis a Phrentis Uwch gorau\u2019r flwyddyn.<\/p>\n<p>Caiff cyflogwyr llwyddiannus eu cydnabod \u00e2 gwobrau ar gyfer cyflogwyr bach (1 i 49 o weithwyr), cyflogwyr canolig (50 i 249 o weithwyr), cyflogwyr mawr (250 i 4,999) a macrogyflogwyr (5,000+). Mae dwy wobr ar gyfer ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith &#8211; Asesydd a Thiwtor y Flwyddyn.<\/p>\n<p>Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.<\/p>\n<p>Mae Celtica Foods, enillydd dosbarth Cyflogwr Canolig y Flwyddyn y llynedd, yn rhoi cymaint o bwyslais ar ddatblygu gweithlu medrus nes ei fod wedi sefydlu ei academi hyfforddi ei hunan.<\/p>\n<p>Dros y pum mlynedd diwethaf, mae&#8217;r cwmni o Sir Gaerfyrddin sy\u2019n cigydda ac yn prosesu cig, wedi hyfforddi 30 o brentisiaid ac mae ganddo chwech ar y llyfrau ar hyn o bryd.<\/p>\n<p>Mae gan Celtica, sy\u2019n rhan o gwmni  cyfanwerthwyr arlwyo annibynnol Castell Howell Foods, safle modern gwerth \u00a35m i drin cig yn Cross Hands ac mae\u2019n cyflenwi cig i fwytai, tafarndai, y sectorau arlwyo a lletygarwch, ysbytai ac ysgolion.<\/p>\n<p>Dywedodd Edward Morgan, Rheolwr Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol (CSR) a Hyfforddiant Castell Howell, \u201cRoedd t\u00eem Celtica yn falch iawn o ddod yn gyntaf yn eu dosbarth yn 2018. <\/p>\n<p>\u201cRydym yn cydnabod bod cyflwyno darpar weithwyr i\u2019r diwydiant bwyd, yn enwedig y sector cig, yn llawn heriau. Mae\u2019n bwysig cael llwybr gyrfa clir a phendant yn rhan o\u2019r fframwaith prentisiaethau er mwyn denu a chadw doniau newydd. Mae gennym gydweithwyr sydd wedi cwblhau Lefel 2, Lefel 3 a Lefel 4 ac sydd erbyn hyn yn rheolwyr canol ac yn uwch-reolwyr gyda\u2019r cwmni. <\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r wobr yn cydnabod eu gwaith caled; ond allwn ni ddim gorffwys ar ein rhwyfau ac mae\u2019n rhaid i ni ddefnyddiio gwobr 2018 fel man cychwyn ar gyfer parhau i wella.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates: \u201cGwyddom fod busnesau\u2019n gwerthfawrogi rhaglenni prentisiaethau a hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru yn fawr iawn am eu bod yn helpu pobl i ddatblygu\u2019r sgiliau a\u2019r profiad y mae ar bob sector o\u2019r economi yng Nghymru eu hangen.<\/p>\n<p>\u201cYn ogystal \u00e2 bod yn gyfle i dynnu sylw at y rhaglenni hyn, mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru\u2019n gyfle gwych i ddathlu ac arddangos llwyddiant pawb \u2013 o\u2019n prentisiaid a\u2019n cyflogwyr disglair, i ddarparwyr hyfforddiant a hyfforddeion. Rwy\u2019n edrych ymlaen at glywed llu o straeon am lwyddiant o bob rhan o Gymru.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Dydi hi ddim yn rhy hwyr i fod yn rhan o\u2019r dathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau yng Nghymru \u2013 Gwobrau Prentisiaethau Cymru. Rhaid ymgeisio cyn 12 (ganol dydd), 3 Mai, ac mae\u2019r ffurflenni &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/dyddiad-cau-gwobrau-prentisiaethau-cymru-yn-agosau-2\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-6676","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6676","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6676"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6676\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6676"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6676"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6676"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}