{"id":6792,"date":"2019-05-24T14:00:34","date_gmt":"2019-05-24T14:00:34","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=6792"},"modified":"2019-08-27T19:00:55","modified_gmt":"2019-08-27T19:00:55","slug":"gwobrau-blynyddol-y-gynghrair-ansawdd-sgiliau-2019-yn-dathlu-prentisiaid-goraur-rhanbarth","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/gwobrau-blynyddol-y-gynghrair-ansawdd-sgiliau-2019-yn-dathlu-prentisiaid-goraur-rhanbarth\/","title":{"rendered":"Gwobrau Blynyddol y Gynghrair Ansawdd Sgiliau 2019 yn dathlu prentisiaid gorau\u2019r rhanbarth"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/celebrating-the-best-apprentices-in-the-region-at-the-quality-skills-alliance-annual-awards-2019\">English<\/a> | <a href=\" https:\/\/www.ntfw.org\/gwobrau-blynyddol-y-gynghrair-ansawdd-sgiliau-2019-yn-dathlu-prentisiaid-goraur-rhanbarth\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2019\/05\/qsa_awards_banner_2019-e1558531840895.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-content\/uploads\/2019\/05\/qsa_awards_banner_2019-e1558531840895.jpg\" alt=\"qsa_awards_banner_2019\" width=\"460\" height=\"224\" class=\"alignnone size-full wp-image-6793\" \/><\/a><\/p>\n<p>Mae gwaith caled ac ymrwymiad pedwar ar bymtheg o\u2019r prentisiaid gorau sy\u2019n gweithio yng Nghymru wedi cael eu dathlu mewn seremoni wobrwyo arbennig.<\/p>\n<p>Hefyd cafodd cyflogwyr ac ymarferwyr sydd wedi mynd yr ail filltir yn eu hymrwymiad i ddysgu seiliedig ar waith eu cydnabod yn y seremoni, a gynhaliwyd yn amgylchedd hyfryd Campws Canol y Ddinas Coleg Caerdydd a\u2019r Fro dan arweiniad Ross Harries.<\/p>\n<p>Dathlwyd ymrwymiad y prentisiaid yn chweched seremoni\u2019r Gwobrau Blynyddol a gynhaliwyd gan y Gynghrair Ansawdd Sgiliau (QSA) \u2013 consortiwm o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith sy\u2019n cynnwys 20 o bartneriaid ac is-gontractwyr. Mae\u2019r gwobrau\u2019n dathlu rhagoriaeth a chyflawniad a dewiswyd yr enillwyr gan banel sy\u2019n cynnwys cadeirydd y QSA \u2013 Pennaeth CAVC, Kay Martin \u2013 a\u2019r bwrdd.<\/p>\n<p>Aeth gwobr gyffredinol Prentis y Flwyddyn i brentis Atgyweirio Cerbydau Lefel 2 Skillnet a CCAF, Charlotte Ward, a enillodd wobr Prentis Moduro\u2019r Flwyddyn hefyd. Yn aelod gwych o\u2019r t\u00eem yn Ford Mon Motors yng Nghasnewydd ac yn unigolyn sydd wedi gwneud cynnydd da, enillodd Charlotte wobr Prentis y Flwyddyn Ford ar gyfer Atgyweirio Cerbydau yn 2018.<\/p>\n<p>Dywedodd Charlotte: \u201cDydw i ddim yn credu \u2019mod i wedi ennill dwy wobr a dweud y gwir \u2013 mae\u2019n anhygoel! Roeddwn i\u2019n gwybod am y wobr Moduro ond doeddwn i ddim yn gwybod \u2019mod i\u2019n cael Prentis y Flwyddyn. Roedd honno\u2019n sioc fawr ac rydw i mor hapus \u2013 mae fel, waw!                    <\/p>\n<p>Ar \u00f4l bod yn y brifysgol a phenderfynu nad oedd yn gweddu iddi hi, dewisodd Charlotte y llwybr prentisiaeth.   <\/p>\n<p>\u201cFe ddois i o hyd i brentisiaeth ac roeddwn i\u2019n gwybod y byddai i mi oherwydd rydw i\u2019n hoffi astudio ond roeddwn i eisiau profiad ymarferol hefyd,\u201d meddai Charlotte. \u201cMae cael cyflog hefyd yn fonws ychwanegol \u2013 rydw i\u2019n meddwl mai hon ydi\u2019r ffordd orau ymlaen i mi.  <\/p>\n<p>\u201cRydw i\u2019n gweithio i Ford Mon Motors yng Nghasnewydd ac rydw i\u2019n meddwl eu bod nhw\u2019n gr\u00eat. Maen nhw wir yn gynhwysol ac rydw i\u2019n dod ymlaen gyda phawb yno. Rydw i\u2019n cael yr un fath \u00e2\u2019r prentisiaid eraill i gyd; dydyn nhw ddim yn ystyried \u2019mod i\u2019n ferch. <\/p>\n<p>\u201cFe fyddwn i wir yn argymell prentisiaethau i bobl eraill. Rydw i\u2019n meddwl mai dyma\u2019r ffordd orau ymlaen \u2013 rydych chi\u2019n cael profiad ymarferol a chymwysterau, a chyflog hefyd. Mae\u2019n wych.\u201d <\/p>\n<p>Aeth Gwobr Prentis Diwydiannau Creadigol y Flwyddyn i Brentis Sgil Cymru, Adam Neal. Fe serennodd yn ystod ei brentisiaeth gyda BBC Cymru Wales ac mae wedi cael swydd ddelfrydol fel ymchwilydd llawn amser gyda hwy \u2013 cryn dipyn o gamp i rywun heb unrhyw hyfforddiant cyfryngau blaenorol. <\/p>\n<p>\u201cRydw i ar ben fy nigon am y wobr yma,\u201d dywedodd Adam. \u201cDydw i ddim yn gallu credu\u2019r peth. <\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r brentisiaeth yn golygu llawer i mi oherwydd roeddwn i\u2019n meddwl \u2019mod i wedi colli\u2019r cyfle. Fe roddodd y criw yn Sgil Cymru ail gyfle i mi ac rydw i mor ddiolchgar iddyn nhw.                    <\/p>\n<p>\u201cFe es i i\u2019r brifysgol sawl blwyddyn yn \u00f4l ond wnes i ddim gorffen ac felly fe wnes i ddechrau gweithio. Fel cyfle olaf, fe ddewisais i brentisiaeth gan obeithio cael i mewn i\u2019r diwydiant cyfryngau, sy\u2019n ddiwydiant anodd cael i mewn iddo. \u2018Beth sgen i i\u2019w golli?\u2019 meddyliais. A dyma fi heddiw. <\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r profiad wedi bod yn ardderchog o\u2019r diwrnod cyntaf. Rydw i\u2019n ddiolchgar i bob un person sydd wedi fy ngwthio i ymlaen, o Sgil Cymru i Academi\u2019r BBC a hefyd fy holl gydweithwyr i yn Stiwdios y BBC.\u201d<\/p>\n<p>Enillodd Lois Harris Wobr Prentis Peirianneg y Flwyddyn. Y prentis Peirianneg Lefel 3 gyda Chymdeithas Hyfforddiant Gr\u0175p Casnewydd a\u2019r Fro (NDGTA) oedd y prentis benywaidd cyntaf yn Bisley ac fe wnaeth argraff dda ar unwaith.<\/p>\n<p>Bellach mae wedi sicrhau gwaith llawn amser yn Adran Ddylunio\u2019r cwmni am ei sylw i fanylder a\u2019i hymrwymiad ac mae ei chyflogwyr yn gwybod eu bod yn gallu dibynnu arni bob amser i wneud gwaith o\u2019r safon uchaf. Mae Bisley wedi cefnogi ei chynnydd i lefelau astudio HNC ac wedyn HND.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019n teimlo\u2019n anhygoel bod wedi ennill,\u201d meddai Lois. \u201cRydw i dal mewn sioc bod fy enw i wedi cael ei roi i mewn.<\/p>\n<p>\u201cRoeddwn i\u2019n edrych ar fy opsiynau ar \u00f4l gorffen yn yr ysgol gyfun ac fe wnes i feddwl na fyddai mynd i\u2019r brifysgol yn rhoi profiad ymarferol i mi, fel roedd ei angen ar gyfer peirianneg. Fi oedd y prentis benywaidd cyntaf yn Bisley ac roedd yn brofiad positif iawn \u2013 mae angen mwy o ferched mewn peirianneg ac rydw i\u2019n sylwi ar fwy, sy\u2019n beth positif.             <\/p>\n<p>\u201cRydw i wir wedi mwynhau fy mhrentisiaeth. Rydw i\u2019n hoffi\u2019r cydbwysedd rhwng yr ochr theori a\u2019r gwaith ymarferol \u2013 dyna ble rydych chi\u2019n cael y profiad rydych chi ei angen ar gyfer amgylchedd gwaith.\u201d<\/p>\n<p>Enillwyd y Wobr Rheoli Adnoddau Cynaliadwy gan brentis Safe &#038; Secure Training, Connor Honeyfield. Yn cael ei gyflogi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, mae Connor wedi gwneud cynnydd anhygoel o fod yn ddysgwr i fod yn arweinydd.              <\/p>\n<p>Gan ddechrau fel gweithiwr asiantaeth yn y Cyngor, cafodd Connor ei gyflogi fel llwythwr llawn amser. Cofrestrodd ar gyfer Prentisiaeth Rheoli Adnoddau Cynaliadwy a chafodd ei secondio i\u2019r t\u00eem gorfodi a chael tasgau ychwanegol. Gorffennodd ei brentisiaeth a dod yn gwbl gymwys chwe mis yn gynnar. Wedyn llwyddodd Connor i gael pedwerydd dyrchafiad i fod yn arweinydd t\u00eem.  <\/p>\n<p>Dywedodd Connor: \u201cRydw i\u2019n teimlo\u2019n wych am ennill y wobr \u2013 rydw i\u2019n falch ac mae\u2019n dangos bod gwaith caled yn talu ar ei ganfed. Rydw i\u2019n meddwl bod fy mhrentisiaeth i\u2019n gam ymlaen yn fy nghynnydd i ac fe fyddwn i wir yn argymell prentisiaethau.\u201d<\/p>\n<p>Enillodd Marion Denis y Wobr Gwasanaethau Yswiriant. Yn gyflogedig gydag Acquis, mae\u2019r prentis Focus On Training yn dod o Ffrainc yn wreiddiol a chwblhaodd gwrs dwy flynedd mewn 12 mis er ei bod wedi symud yn \u00f4l i Ffrainc hanner ffordd drwyddo.      <\/p>\n<p>Gwnaeth argraff ar Acquis gyda\u2019i gwaith caled a\u2019i hymrwymiad ac mae wedi cael cynnig swydd gan y cwmni fel arweinydd t\u00eem mewn swyddfa newydd yn Amsterdam.<\/p>\n<p>Dywedodd Marion: \u201cRoedd ennil y wobr yn sypreis fawr oherwydd doeddwn i ddim yn disgwyl hynny. Roeddwn i wir yn hapus pan glywais i oherwydd mae\u2019n cydnabod y gwaith caled ac felly mae\u2019n deimlad braf.<\/p>\n<p>\u201cYn dod o Ffrainc, mae\u2019n rhaid i chi addasu i\u2019r iaith i ddechrau, ac mae\u2019r rheoliadau\u2019n wahanol felly roedd rhaid i mi ddysgu llawer am ddeddfau a rheoliadau\u2019r DU. Mae wedi bod yn ddiddorol hefyd.<\/p>\n<p>\u201cFe ddechreuais i yn fy nghwmni fel cynghorydd gwasanaethau cwsmeriaid ac wedyn dod yn arweinydd t\u00eem. Wedyn fe gefais i fy mhenodi\u2019n gydlynydd gwasanaethau cwsmeriaid ac rydw i ar fin dod yn arweinydd gweithrediadau mewn swyddfa newydd yn Amsterdam. Mae hynny\u2019n gynnydd gwych mewn chwe blynedd!<\/p>\n<p>\u201cFe fyddwn i\u2019n argymell prentisiaeth yn sicr \u2013 mae\u2019n gyfle da i ddysgu pethau newydd a gwneud cynnydd yn eich gyrfa.\u201d<\/p>\n<p>Aeth y Wobr Model R\u00f4l ar gyfer 2019 i ddau enillydd \u2013 efeilliaid a phrentisiaid Gosodiadau Trydan, Connor a Tom Lewis. Yn cael eu cyflogi ill dau gan y cwmni teuluol, Blues Electrical, mae Connor a Tom yn ysbrydoledig, gan gyrraedd brig cyfres o gystadlaethau sgiliau cenedlaethol a rhyngwladol. Y penllanw oedd dewis Tom ar gyfer T\u00eem y DU yn Rowndiau Terfynol WorldSkills a fydd yn cael eu cynnal yn Rwsia eleni \u2013 yr unig brentis Trydan yn cynrychioli\u2019r DU.<\/p>\n<p>Hefyd cafodd Rheolwr Gweithrediadau NDGTA, Diane Purslow, ei chydnabod am ei gwaith rhagorol yn helpu prentisiaid drwy eu cyrsiau. Mae\u2019n adnabod pob un wrth eu henwau ac mae Diane wedi cynnwys cymaint yn ei swydd wreiddiol fel Rheolwr Gweinyddu fel bod ei r\u00f4l wedi cael ei newid i Reolwr Gweithrediadau bellach. <\/p>\n<p>Hefyd dathlwyd y cyflogwyr am eu hymrwymiad i brentisiaid. Enillodd Ysgol Goginio Angela Gray Wobr y Cyflogwr Bach, enillodd Heatforce Wobr y Cyflogwr Canolig a Deloitte Wobr y Cyflogwr Mawr.<\/p>\n<p>Enillodd D\u0175r Cymru Wobr Cyflogwr Newydd y Flwyddyn. Fel y chweched cwmni d\u0175r a charthffosiaeth mwyaf yng Nghymru a Lloegr sy\u2019n darparu gwasanaethau i fwy na 3m o bobl, yn ddiweddar dechreuodd D\u0175r Cymru weithio gyda Choleg Caerdydd a\u2019r Fro i gynnig prentisiaethau ac mae\u2019r ddau sefydliad yn parhau i dyfu a datblygu\u2019r bartneriaeth hon.           <\/p>\n<p>Enillwyd Gwobr Arloesi a Phartneriaeth newydd, arbennig gan BBC Cymru Wales. Yn 2018, adeiladodd CCAF a BBC Cymru Wales ar eu perthynas hirsefydlog drwy lansio\u2019r Brentisiaeth Newyddiaduraeth Ddigidol gyntaf erioed ochr yn ochr \u00e2\u2019r 25 o brentisiaethau mae\u2019r BBC yn eu cynnig eisoes bob blwyddyn.                <\/p>\n<p>Bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu gan CCAF mewn partneriaeth ag Academi\u2019r BBC. Nod y brentisiaeth yw darparu cyfleoedd newyddiaduraeth i bobl o gymunedau a dangynrychiolir ac mae hwn yn sector anodd iawn cael eich troed i mewn iddo.<\/p>\n<p>Dywedodd Steven Sandrey, Rheolwr Cynlluniau Talent Newydd gyda BBC Cymru Wales: \u201cRydw i mor falch ein bod ni wedi ennill y wobr yma.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019n rhan o ymrwymiad y BBC i ddangos mwy o ddiddordeb mewn prentisiaethau ac mae\u2019r rhaglen newydd yma\u2019n dangos i bobl ein bod ni\u2019n gweld gwerth mewn prentisiaid. Mae gweithio gyda CCAF yn gr\u00eat hefyd.     <\/p>\n<p>\u201cRoedd prentisiaethau\u2019n bwysig iawn yn y gorffennol ond fe wnaeth hynny dawelu. Ond maen nhw\u2019n bwysig iawn eto nawr. <\/p>\n<p>\u201cMae ennill cyflog wrth ddysgu\u2019n gwneud llawer o synnwyr i mi a\u2019r bobl ifanc rydw i\u2019n gweithio gyda nhw. Mae\u2019n ffordd ymlaen yn sicr ac fe fyddwn i\u2019n ei argymell i bobl eraill.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Pennaeth CCAF a Chadeirydd y QSA, Kay Martin: \u201cMae wir wedi bod yn bleser dathlu cyflawniadau pob un enillydd yng Ngwobrau Blynyddol y QSA. Fel consortiwm, rydyn ni\u2019n gwybod bod prentisiaethau\u2019n gweithio a thrwy ddatblygu cyfleoedd ar gyfer prentisiaethau, fe allwn ni gael effaith enfawr ar unigolion, cyflogwyr, cymunedau a\u2019r economi.\u201d<\/p>\n<p>Roedd y gwobrau wedi cael nawdd hael gan Coleg QS Training, Focus Training, NDGTA, JTL a Safe &#038; Secure Training.  <\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae gwaith caled ac ymrwymiad pedwar ar bymtheg o\u2019r prentisiaid gorau sy\u2019n gweithio yng Nghymru wedi cael eu dathlu mewn seremoni wobrwyo arbennig. Hefyd cafodd cyflogwyr ac ymarferwyr sydd wedi mynd yr ail filltir yn eu hymrwymiad &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/gwobrau-blynyddol-y-gynghrair-ansawdd-sgiliau-2019-yn-dathlu-prentisiaid-goraur-rhanbarth\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[11],"tags":[],"class_list":["post-6792","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6792","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6792"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6792\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6792"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6792"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6792"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}