{"id":6867,"date":"2019-08-29T15:30:26","date_gmt":"2019-08-29T14:30:26","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=6867"},"modified":"2019-08-29T16:43:28","modified_gmt":"2019-08-29T15:43:28","slug":"abigail-yn-cwblhau-prentisiaeth-ddwyieithog-mewn-meithrinfa-lwyddiannus","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/abigail-yn-cwblhau-prentisiaeth-ddwyieithog-mewn-meithrinfa-lwyddiannus\/","title":{"rendered":"Abigail yn cwblhau prentisiaeth ddwyieithog mewn meithrinfa lwyddiannus"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/abigail-achieves-bilingual-apprenticeship-at-award-winning-nursery\">English | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/abigail-yn-cwblhau-prentisiaeth-ddwyieithog-mewn-meithrinfa-lwyddiannus\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_11663\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2019\/08\/Abigail-Hathway-2-e1566918404803.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-11663\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2019\/08\/Abigail-Hathway-2-e1566918404803.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"285\" class=\"size-full wp-image-11663\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-11663\" class=\"wp-caption-text\">Abigail Hathway gyda rheolwr dros dro Meithrinfa Si-Lwli, Sophie Lewis, a\u2019r asesydd Rhian Weeks o Educ8.<\/p><\/div>\n<p>Mae Abigail Hathway yn ddiolchgar i\u2019w rhieni am benderfynu rhoi addysg Gymraeg iddi o\u2019r feithrinfa ymlaen.<\/p>\n<p>Diolch i\u2019w gallu i siarad Cymraeg, mae ganddi swydd wrth ei bodd ym Meithrinfa Si-Lwli, meithrinfa Gymraeg yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd,  enillydd gwobr Meithrinfa\u2019r  Flwyddyn yng Nghymru yn 2018.<\/p>\n<p>Mae hefyd wedi cwblhau Prentisiaeth ddwyieithog mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant trwy\u2019r darparwr dysgu Educ8 ac mae\u2019n gobeithio symud ymlaen i wneud rhagor o gymwysterau. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop. <\/p>\n<p>\u201cFyddwn i ddim wedi cael y swydd yma taswn i ddim yn gallu siarad Cymraeg,\u201d meddai Abigail, 27 oed, sy\u2019n byw yn Nhonypandy. \u201cGan nad oeddwn i wedi siarad Cymraeg ers amser hir cyn cael y swydd, ro\u2019n i\u2019n cael trafferth \u00e2\u2019r gwaith ysgrifennu ar gyfer y brentisiaeth, felly fe wnes i\u2019r gwaith ysgrifennu yn Saesneg a\u2019r gwaith llafar yn Gymraeg.<\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n credu ei bod yn bwysig iawn cael dewis gwneud y cymwysterau hyn trwy gyfrwng y Gymraeg.<\/p>\n<p>\u201cRwy wrth fy modd yn cael siarad Cymraeg yn y feithrinfa a gyda ffrindiau. Yn yr ysgol, doedd siarad Cymraeg ddim yn c\u0175l, ond mae agweddau wedi newid ac mae\u2019r gallu i siarad yr iaith yn agor llawer o ddrysau i chi. <\/p>\n<p>\u201cPenderfynodd fy rhieni roi addysg Gymraeg i mi er nad ydyn nhw\u2019n siarad yr iaith. Rwy\u2019n ddiolchgar iawn iddyn nhw.\u201d<\/p>\n<p>Ar \u00f4l gorffen ei Lefel A, bu Abigail yn y brifysgol yn astudio seicoleg am 18 mis ond bu\u2019n rhaid iddi adael y cwrs oherwydd salwch. Yna dechreuodd weithio fel gofalwr, a bu&#8217;n gweithio gyda phlentyn anabl yn ei chartref am bedair blynedd cyn symud ymlaen i ofalu am oedolion ag anghenion arbennig am ddwy flynedd.<\/p>\n<p>Cafodd y swydd ym Meithrinfa Si-Lwli dair blynedd yn \u00f4l ac mae\u2019n hapus iawn yno. <\/p>\n<p>Mae rheolwr dros dro Meithrinfa Si-Lwli, Sophie Lewis, yn llawn canmoliaeth i Abigail. \u201cMae\u2019n hyfryd ac mae ganddi berthynas wych \u00e2\u2019r rhieni, y teuluoedd a\u2019r plant. Mae\u2019n amwg ei bod yn mwynhau\u2019r swydd ac mae hynny\u2019n braf.\u201d<\/p>\n<p>Fel Abigail, mae Sophie\u2019n dod o gartref di-Gymraeg ond cafodd addysg Gymraeg a bu hynny\u2019n help iddi gael ei swydd bresennol. <\/p>\n<p>Cwblhaodd Brentisiaeth Uwch mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant yn ddiweddar gan wneud y gwaith yn Gymraeg a dim ond ychydig o sgyrsiau gyda\u2019r tiwtor yn Saesneg. Ei nod yn awr yw symud ymlaen i wneud cymhwyster arwain a rheoli a fydd yn help ar gyfer ei swydd.<\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n meddwl ei fod yn dda cael y plant i siarad Cymraeg o ddechrau eu haddysg,\u201d meddai. \u201cFyddwn i ddim lle\u2019r ydw i heddiw heb yr iaith Gymraeg.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd asesydd Abigail, Rhian Weeks o Educ8: \u201cRoedd Abigail yn un hawdd iawn cydweithio \u00e2 hi. A minnau\u2019n siarad Cymraeg, ro\u2019n i\u2019n gallu mynd i\u2019r feithrinfa, arsylwi a chofnodi popeth yn naturiol ac yn gyfforddus.<\/p>\n<p>\u201cMae hi\u2019n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg ac mae\u2019n greadigol a llawn dychymyg wrth gynllunio gweithgareddau ar gyfer y plant. Mae\u2019n dda am feddwl y tu allan i\u2019r bocs.<\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n credu ei bod yn bwysig bod prentisiaid yn cael cyfle i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg oherwydd mae hynny\u2019n golygu nad yw\u2019n rhaid iddynt newid eu geirfa a bod modd cofnodi eu harferion gorau.\u201d<\/p>\n<p>Gwaith Ryan Evans, hyrwyddwr dwyieithrwydd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, yw helpu darparwyr hyfforddiant ar gyfer prentisiaethau i geisio gwireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.<\/p>\n<p>\u201cMae NTfW yn cydweithio\u2019n agos \u00e2 Llywodraeth Cymru, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Cymwysterau Cymru a nifer o randdeiliaid eraill i wella darpariaeth ac argaeledd cymwysterau Cymraeg a dwyieithog er mwyn gwireddu\u2019r weledigaeth o Gymru ddwyieithog.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts: \u201cDyma stori sy\u2019n dangos pa mor bwysig ac anghenrheidiol yw cynnig y Gymraeg ym maes prentisiaethau. Wrth i ni geisio cyrraedd nod y Llywodraeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050, mae creu cyfleoedd i ddatblygu sgiliau iaith yn y gweithle yn amhrisiadwy.<\/p>\n<p>Er bod y ffigyrau yn dangos bod y nifer sydd yn astudio prentisiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg yn gymharol isel, mae\u2019n dda gweld datblygiadau cadarnhaol i wella\u2019r cyfleoedd i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.  Yn ystod fy nghyfnod fel Comisiynydd, byddwn fel swyddfa yn gweithio i gynyddu\u2019r cyfleoedd i ddefnyddio\u2019r Gymraeg mewn cyd-destun gwaith. Byddwn yn gweithio gyda busnesau, elusennau a sefydliadau i sicrhau bod y siaradwyr Cymraeg sy\u2019n gadael y system addysg a\u2019r bobl sy\u2019n dysgu\u2019r Gymraeg yn yr ysgol yn gallu defnyddio eu sgiliau; a bod sefydliadau hefyd yn gweld gwerth i\u2019r iaith.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae Abigail Hathway yn ddiolchgar i\u2019w rhieni am benderfynu rhoi addysg Gymraeg iddi o\u2019r feithrinfa ymlaen. Diolch i\u2019w gallu i siarad Cymraeg, mae ganddi swydd wrth ei bodd ym Meithrinfa Si-Lwli, meithrinfa Gymraeg yn yr Eglwys Newydd, &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/abigail-yn-cwblhau-prentisiaeth-ddwyieithog-mewn-meithrinfa-lwyddiannus\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-6867","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-prosiectau-ntfw"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6867","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6867"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6867\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6867"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6867"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6867"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}