{"id":6871,"date":"2019-08-29T14:15:56","date_gmt":"2019-08-29T13:15:56","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=6871"},"modified":"2021-09-28T11:55:02","modified_gmt":"2021-09-28T10:55:02","slug":"ifan-williams","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ifan-williams\/","title":{"rendered":"Ifan y briciwr yn adeiladu at y dyfodol gyda phrentisiaethau dwyieithog"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/ifan-williams\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ifan-williams\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_11659\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2019\/08\/Ifan-Williams-1-e1566918455938.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-11659\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2019\/08\/Ifan-Williams-1-e1566918455938.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-11659\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-11659\" class=\"wp-caption-text\">Ifan Williams gyda\u2019i dad, Meurig, wrth eu gwaith.<\/p><\/div>\n<p>Mae briciwr o\u2019r enw Ifan Williams, sydd wedi ennill cyfres o fedalau aur, arian ac efydd mewn cystadlaethau dros y tair blynedd ddiwethaf, yn fodel r\u00f4l ac yn llysgennad prentisiaethau dwyieithog gyda\u2019r CITB yng Nghymru.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r bachgen dawnus a diymhongar 19 oed o Langwnnadl, Ll\u0177n, yn gweithio i\u2019w dad, Meurig, sy\u2019n bartner yng nghwmni adeiladu cyffredinol M &#038; W Williams Ltd ym Motwnnog. <\/p>\n<p>Mae wedi cwblhau Prentisiaeth Sylfaen a Phrentisiaeth dwyieithog mewn Gwaith Brics gyda\u2019r CITB trwy Goleg Meirion-Dwyfor yn Nolgellau ac wedi gwneud enw iddo&#8217;i hun mewn cystadlaethau gosod brics yng Nghymru a&#8217;r Deyrnas Unedig. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop. <\/p>\n<p>Defnyddiodd Ifan ei iaith gyntaf, sef Cymraeg, a Saesneg ysgrifenedig wrth gwblhau\u2019r cymwysterau a chafodd ei enwi\u2019n Brentis y Flwyddyn CITB yng Nghymru yn 2018.  <\/p>\n<p>Cafodd ei lwyddiant cystadleuol diweddaraf fis Tachwedd diwethaf yn Rownd Derfynol Genedlaethol SkillBuild 2018 UK lle&#8217;r enillodd fedal arian am osod briciau. Roedd eisoes wedi ennill medalau aur yng nghystadleuaeth Skillbuild Rhanbarthol Gogledd Cymru a gornest Sector Cymru y Guild of Bricklayers yn 2018.<\/p>\n<p>Canfuwyd yn yr ysgol bod ffurf ysgafn ar ddyslecsia arno, oedd yn golygu na allai ganolbwyntio ar ei waith, ond mae wedi synnu hyd yn oed ei dad wrth symud ymlaen mor dda yn y diwydiant adeiladu.<\/p>\n<p>\u201cDwi\u2019n rhyfeddu at ei lwyddiant, i ddweud y gwir,\u201d meddai Meurig. \u201cRydan ni\u2019n gweithio mewn ardal wledig ac mae wedi gwneud yn dda iawn i gael y fath sylw. Mae Ifan wedi bod yn gweithio efo mi er pan oedd yn fach iawn ac mae wedi dysgu\u2019r sgiliau yn naturiol, Dydi hi ddim yn ymddangos fel pe bai\u2019n straen arno i gael yr holl lwyddiant hyn.<\/p>\n<p>\u201cMae wedi cael help mawr gan y coleg a\u2019r CITB. \u201cDwi\u2019n credu ei bod yn bwysig iawn bod prentisiaid fel Ifan yn cael y cyfle i ddysgu\u2019n ddwyieithog achos rydan ni\u2019n ymwneud \u00e2 chleientiaid Cymraeg a rhai Saesneg eu hiaith yn y busnes.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Ifan ei fod yn mwynhau dilyn yn \u00f4l traed ei dad a\u2019i fod yn ddiolchgar am y cyfle i weithio tuag at y prentisiaethau mewn gosod brics yn y coleg.<\/p>\n<p>\u201cRoedd yn haws i mi wneud y cymwysterau\u2019n ddwyieithog achos ro\u2019n i\u2019n meddwl y byddai\u2019n anodd eu gwneud yn Gymraeg yn unig,\u201d meddai. \u201cRoedd y coleg a\u2019r CITB yn dda iawn wrtha i.<\/p>\n<p>\u201cDwi wedi gorffen \u00e2\u2019r cystadlaethau erbyn hyn ac wedi gadael y coleg ac rwy\u2019n mwynhau symud ymlaen \u00e2\u2019r gwaith adeiladu.\u201d<\/p>\n<p>Ei gyngor i bobl sy\u2019n gadael yr ysgol yr haf yma ac yn chwilio am yrfa yw iddynt ystyried prentisiaeth ddwyieithog. \u201cGallwch ennill arian wrth ddysgu ac fe gewch chi benderfynu ym mha iaith i wneud y brentisiaeth,\u201d meddai.<\/p>\n<p>Dywedodd rheolwr cyflenwi\u2019r CITB yng Nghymru, Paul Marsh: \u201cMae Ifan wedi rhagori wrth ei waith ac yn y coleg ac mae ei sgiliau\u2019n cyfateb i anghenion y diwydiant adeiladu heddiw. <\/p>\n<p>\u201cRoedd ei allu i wneud ei gymwysterau\u2019n ddwyieithog yn elfen hanfodol yn ei daith ddysgu ac mae wedi talu ar ei ganfed iddo.\u201d<\/p>\n<p>Gwaith Ryan Evans, hyrwyddwr dwyieithrwydd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, yw helpu darparwyr hyfforddiant ar gyfer prentisiaethau i geisio gwireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.<\/p>\n<p>\u201cMae NTfW yn cydweithio\u2019n agos \u00e2 Llywodraeth Cymru, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Cymwysterau Cymru a nifer o randdeiliaid eraill i wella darpariaeth ac argaeledd cymwysterau Cymraeg a dwyieithog er mwyn gwireddu\u2019r weledigaeth o Gymru ddwyieithog.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts: \u201cDyma stori sy\u2019n dangos pa mor bwysig ac anghenrheidiol yw cynnig y Gymraeg ym maes prentisiaethau. Wrth i ni geisio cyrraedd nod y Llywodraeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050, mae creu cyfleoedd i ddatblygu sgiliau iaith yn y gweithle yn amhrisiadwy.<\/p>\n<p>Er bod y ffigyrau yn dangos bod y nifer sydd yn astudio prentisiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg yn gymharol isel, mae\u2019n dda gweld datblygiadau cadarnhaol i wella\u2019r cyfleoedd i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.  Yn ystod fy nghyfnod fel Comisiynydd, byddwn fel swyddfa yn gweithio i gynyddu\u2019r cyfleoedd i ddefnyddio\u2019r Gymraeg mewn cyd-destun gwaith. Byddwn yn gweithio gyda busnesau, elusennau a sefydliadau i sicrhau bod y siaradwyr Cymraeg sy\u2019n gadael y system addysg a\u2019r bobl sy\u2019n dysgu\u2019r Gymraeg yn yr ysgol yn gallu defnyddio eu sgiliau; a bod sefydliadau hefyd yn gweld gwerth i\u2019r iaith.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae briciwr o\u2019r enw Ifan Williams, sydd wedi ennill cyfres o fedalau aur, arian ac efydd mewn cystadlaethau dros y tair blynedd ddiwethaf, yn fodel r\u00f4l ac yn llysgennad prentisiaethau dwyieithog gyda\u2019r CITB yng Nghymru. Mae&#8217;r bachgen &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ifan-williams\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[6],"tags":[],"class_list":["post-6871","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-prosiectau-ntfw"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6871","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6871"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6871\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6871"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6871"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6871"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}