{"id":6894,"date":"2019-09-05T09:00:53","date_gmt":"2019-09-05T08:00:53","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=6894"},"modified":"2019-09-11T15:21:36","modified_gmt":"2019-09-11T14:21:36","slug":"ymgeiswyr-disglair-ar-gyfer-gwobrau-prentisiaethau-cymru-eleni","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ymgeiswyr-disglair-ar-gyfer-gwobrau-prentisiaethau-cymru-eleni\/","title":{"rendered":"Ymgeiswyr disglair ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/stars-line-up-for-this-years-apprenticeship-awards-cymru\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ymgeiswyr-disglair-ar-gyfer-gwobrau-prentisiaethau-cymru-eleni\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_11715\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2019\/09\/AAC-trophies-2018-e1567685801740.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-11715\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2019\/09\/AAC-trophies-2018-e1567685801740.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-11715\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-11715\" class=\"wp-caption-text\">Gwobrau Prentisiaethau Cymru<\/p><\/div>\n<p>Mae dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr disglair o bob rhan o Gymru wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni, sef dathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau.<\/p>\n<p>Mae tri deg pedwar o unigolion a sefydliadau, mewn dwsin o gategor\u00efau, ar y rhestrau byrion ar gyfer y gwobrau a gyflwynir mewn seremoni fawreddog yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol newydd Cymru, Casnewydd ar 24 Hydref.<\/p>\n<p>Bwriad y gwobrau yw tynnu sylw at lwyddiant dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr gorau Cymru sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes hyfforddeiaethau a phrentisiaethau.<\/p>\n<p>Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a\u2019r prif noddwr eleni yw Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig. <\/p>\n<p>Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).<\/p>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\"><strong>Llongyfarchwyd pawb sydd ar y rhestr fer gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates a diolchodd i&#8217;r holl ddysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr a ymgeisiodd am y gwobrau eleni.<\/strong><\/br><br \/>\n\u201cMae rhaglenni prentisiaethau a hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod rhagor o bobl yn datblygu\u2019r sgiliau a\u2019r profiad y gwyddom fod ar fusnesau eu hangen ym mhob sector o\u2019r economi yng Nghymru.<\/br><br \/>\n\u201cMae Gwobrau Prentisiaethau Cymru\u2019n gyfle gwych i ddathlu ac arddangos llwyddiant yr unigolion a\u2019r sefydliadau disglair sy\u2019n ymwneud \u00e2\u2019r rhaglenni hyn, o brentisiaid a chyflogwyr, i ddarparwyr hyfforddiant a hyfforddeion.<\/br><br \/>\n\u201cRwy\u2019n arbennig o falch o weld tri ar restr fer categori Doniau\u2019r Dyfodol sy\u2019n cydnabod cynnydd personol prentis presennol eithriadol a\u2019r effaith y mae eisoes yn ei chael ar berfformiad y busnes.<\/br><br \/>\n\u201cGallwn ddisgwyl noson gyffrous yn y seremoni wobrwyo yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru ar 24 Hydref.\u201d<br \/>\n<\/em><\/p><\/blockquote>\n<blockquote class=\"text\"><p><em class=\"quote\"><strong>Wrth longyfarch pawb ar y rhestrau byrion, dywedodd Connie Dixon, Cyfarwyddwr Partneriaethau Openreach yng Nghymru:<\/strong> \u201cEr mwyn i economi Cymru ffynnu yn y dyfodol, mae\u2019n rhaid i\u2019n pobl ifanc ni ddatblygu\u2019r sgiliau cywir, a mwynhau cefnogaeth a hyfforddiant addas yn y gweithle.\u201d<\/br><br \/>\n\u201cMae prentisiaethau\u2019n chwarae rhan hanfodol yn ein helpu i gyrraedd y nod hwnnw ac maent hefyd yn llwybr gwych i\u2019w ddilyn i\u2019r gweithle. Rydym ni yn Openreach yn rhoi gwerth mawr ar recriwtio prentisiaid newydd bob blwyddyn i swyddi amrywiol ac rydym yn gwerthfawrogi eu cyfraniad sylweddol i\u2019r busnes \u2013 o ran sgiliau newydd, profiadau newydd a syniadau newydd.<\/br><br \/>\n\u201cRydym wrth ein bodd o fod yn gysylltiedig \u00e2\u2019r gwobrau eleni ac yn dymuno\u2019n dda i bawb ar y rhestrau byrion.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p>Mae categori <strong>Doniau\u2019r Dyfodol<\/strong> yn rhoi cyfle i gyflogwyr enwebu prentis sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd ac sydd \u2018wedi dangos cynnydd personol sylweddol\u2019 ac wedi rhoi \u2018hwb pendant a chadarnhaol i berfformiad sefydliad y cyflogwr\u2019.\u2019<\/p>\n<p>Ar restr fer y categori hwn mae Esta Lewis o Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, sy\u2019n dysgu gyda Choleg Caerdydd a\u2019r Fro; Cheradine Jones o Gr\u0175p Pobl, Abertawe, sy\u2019n dysgu gyda Choleg G\u0175yr Abertawe a Joe Peskett o\u2019r Swyddfa Ystadegau Gwladol, Casnewydd, sy\u2019n dysgu gydag ALS Training.<\/p>\n<p>Yn y categori <strong>Cyflogadwyedd<\/strong>, mae gwobrau ar gyfer Dysgwr y Flwyddyn (Hyfforddeiaethau) \u2013 Ymgysylltu a Lefel 1. Ar y rhestr fer mae: Molly Jones o Ben-arth, sy\u2019n dysgu gyda The People Business-Wales Ltd; Matthew Lloyd Jones o Fwcle, sy\u2019n dysgu gyda Choleg Cambria; Carrie-Ann Anthony o Aberd\u00e2r, sy\u2019n dysgu gyda PeoplePlus Cymru; Kane Laver McMahon o\u2019r Barri, sy\u2019n dysgu gyda The People Business-Wales Ltd a Marcio Paixo a Shannon Harding, yn ddau o Ferthyr Tudful, a\u2019r ddau\u2019n dysgu gyda PeoplePlus Cymru.<\/p>\n<p>Rhoddir gwobrau i brentisiaid ar dair lefel: Yn rownd derfynol <strong>Prentis Sylfaen<\/strong> y Flwyddyn mae: Andrew Bennett, o Bryson Recycling, Abergele, dysgwr gyda Hyfforddiant Cambrian; Phoebe McLavy o Goleg Sir G\u00e2r, Caerfyrddin a Gavin Williams o Rubens Male Grooming salon, Llanfair-pwll, sy\u2019n dysgu gyda Busnes@LlandrilloMenai.<\/p>\n<p>Yn rownd derfynol <strong>Prentis y Flwyddyn<\/strong> mae: Rebekah Chatfield o Br\u00f8d (The Danish Bakery Ltd), Pontcanna, Caerdydd, sy\u2019n dysgu gyda Hyfforddiant Cambrian; Shane Ash o Tata Steel Strip Products UK, Llan-wern, Casnewydd, sy\u2019n dysgu gyda Choleg Penybont, Choleg Gwent a Phrifysgol De Cymru, a Katie Parry o KT\u2019s Salon Ladies &#038; Gents, Bangor, sy\u2019n dysgu gyda Busnes@LlandrilloMenai.<\/p>\n<p>Yn rownd derfynol <strong>Prentis Uwc<\/strong>h y Flwyddyn mae: Melanie Davis o Cymunedau am Waith, Conwy, sy\u2019n dysgu gyda Busnes@LlandrilloMenai; Jamie Stenhoff o Airbus, Brychdyn, sy\u2019n dysgu gyda Coleg Cambria, a Lee Price o Raeadr Gwy, uwch-swyddog ansawdd a safonau amgylcheddol Cyngor Sir Powys, sy\u2019n dysgu gyda Hyfforddiant Cambrian.<\/p>\n<p>Bydd cyflogwyr llwyddiannus yn cystadlu am bedair gwobr. <strong>Cyflogwr Bach<\/strong> y Flwyddyn (hyd at 49 o weithwyr): Freight Logistics Solutions, Pontyp\u0175l, y darperir eu hyfforddiant gan Hyfforddiant Torfaen, a Br\u00f8d (The Danish Bakery Ltd), Pontcanna, Caerdydd, a Gwesty\u2019r Harbwr, Aberaeron, y darperir hyfforddiant y ddau ohonynt gan Hyfforddiant Cambrian.<\/p>\n<p><strong>Cyflogwr Canolig<\/strong> y Flwyddyn (50-249 o weithwyr): Radnor Hills, Trefyclo, y darperir eu hyfforddiant gan Hyfforddiant Cambrian; Ensinger, Tonyrefail, y darperir eu hyfforddiant gan TSW Training, ac ITV Cymru Wales, Caerdydd, y darperir eu hyfforddiant gan Sgil Cymru.<\/p>\n<p><strong>Cyflogwr Mawr<\/strong> y Flwyddyn (250-4,999 o weithwyr): Legal and General Investment Management, Caerdydd y darperir eu hyfforddiant gan TSW Training, ac Aspire Blaenau Gwent, Glynebwy a British Airways Maintenance Cardiff, y Rh\u0175s, y darperir hyfforddiant y ddau ohonynt gan Goleg y Cymoedd.<\/p>\n<p><strong>Macro-gyflogwr<\/strong> y Flwyddyn (5,000+): Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Treforys, y darperir eu hyfforddiant gan Gr\u0175p Colegau NPTC a Choleg G\u0175yr, Abertawe, a Lloyds Banking Group, Casnewydd, y darperir eu hyfforddiant gan Goleg Caerdydd a\u2019r Fro.<\/p>\n<p>Mae dwy wobr ar gyfer <strong>ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith<\/strong>. Asesydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith: Lara Baldwin o Gaerdydd sy\u2019n gweithio i ACT Limited; Hayley Lewis o Hwlffordd sy\u2019n gweithio i TSW Training a Melissa O\u2019Connor o Gaerdydd sy\u2019n gweithio i Portal Training. Tiwtor y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith: Lynn Matthews o Gorseinon sy\u2019n gweithio i PeoplePlus Cymru, a Rachel Lewis o Ben-y-bont ar Ogwr, sy\u2019n gweithio i Goleg Pen-y-bont.<\/p>\n<p><strong><a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/gwobrau-prentisiaethau-cymru\">Wefan Gwobrau Prentisiaethau Cymru<\/a><\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr disglair o bob rhan o Gymru wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni, sef dathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau. Mae tri deg pedwar o unigolion &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/ymgeiswyr-disglair-ar-gyfer-gwobrau-prentisiaethau-cymru-eleni\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-6894","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6894","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6894"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6894\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6894"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6894"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6894"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}