{"id":6902,"date":"2019-09-06T14:00:42","date_gmt":"2019-09-06T13:00:42","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=6902"},"modified":"2019-09-04T19:10:46","modified_gmt":"2019-09-04T18:10:46","slug":"pobl-ifanc-o-gymru-wediu-henwi-ymysg-y-gorau-yn-y-byd-mewn-cystadleuaeth-sgiliau-ryngwladol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/pobl-ifanc-o-gymru-wediu-henwi-ymysg-y-gorau-yn-y-byd-mewn-cystadleuaeth-sgiliau-ryngwladol\/","title":{"rendered":"Pobl Ifanc o Gymru wedi\u2019u henwi ymysg y gorau yn y byd mewn cystadleuaeth sgiliau ryngwladol"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/welsh-youngsters-named-among-best-in-the-world-at-international-skills-competition\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/pobl-ifanc-o-gymru-wediu-henwi-ymysg-y-gorau-yn-y-byd-mewn-cystadleuaeth-sgiliau-ryngwladol\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2019\/09\/48186860191_76f5637956_z-e1567620326488.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2019\/09\/48186860191_76f5637956_z-e1567620326488.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"alignleft size-full wp-image-11711\" \/><\/a><\/p>\n<p>Mae pobl ifanc dalentog o bob cwr o Gymru wedi\u2019u cydnabod fel arbenigwyr o safon byd yng nghystadleuaeth Worldskills International yn Rwsia.<\/p>\n<p>Dyma gystadleuaeth sgiliau mwya\u2019r byd ac fe\u2019i cynhaliwyd dros bedwar diwrnod yn Kazan gyda phobl ifanc o dros 63 o wledydd yn cystadlu i ennill medalau yn eu sgiliau dewisol.<\/p>\n<p>Eleni, roedd y t\u00eem o 37 o\u2019r DU yn cynnwys saith cystadleuydd o Gymru, y nifer uchaf hyd yn hyn.<\/p>\n<p>Enillodd T\u00eem y DU ddwy fedal aur, un arian ac un efydd gyda 15 Medaliwn Rhagoriaeth, sef cyfanswm o 19 gwobr.<br \/>\nEnillwyd chwech o fedalau T\u00eem y DU gan gystadleuwyr o Gymru:<\/p>\n<ul>\n<li>Phoebe McLavy \u2013 trin gwallt &#8211; efydd<\/li>\n<li>Chris Caine \u2013 gwaith saer \u2013 Medaliwn Rhagoriaeth<\/li>\n<li>Sam Everton \u2013 coginio \u2013 Medaliwn Rhagoriaeth<\/li>\n<li>Thomas Lewis \u2013 gosod trydanol \u2013 Medaliwn Rhagoriaeth<\/li>\n<li>Collette Gorvett \u2013 gwasanaethau bwyty \u2013 Medaliwn Rhagoriaeth<\/li>\n<li>Thomas Thomas \u2013 plymio a gwresogi \u2013 Medaliwn Rhagoriaeth<\/li>\n<\/ul>\n<p>Meddai Phoebe McLavy, enillydd medal efydd: \u201cMae cael fy enwi yn un o\u2019r tri unigolyn trin gwallt ifanc gorau yn y byd yn deimlad anhygoel ac roedd o\u2019n sioc fawr.<\/p>\n<p>\u201cPan gyhoeddwyd fy enw dechreuais grynu, do\u2019n i ddim yn gallu coelio\u2019r peth. Roedd cerdded i\u2019r llwyfan a chlywed cymeradwyaeth y dorf a fy nghyd-aelodau yn y t\u00eem yn brofiad anhygoel a swrrealaidd.<\/p>\n<p>\u201cAr \u00f4l dod oddi ar y llwyfan a gweld fy ffrindiau a\u2019m teulu, dechreuais sylweddoli beth ro\u2019n i wedi\u2019i gyflawni ac ro\u2019n i\u2019n emosiynol iawn.<\/p>\n<p>\u201cYn ystod y gystadleuaeth ro\u2019n i\u2019n teimlo\u2019n hyderus yn fy ngwaith, er nad o\u2019n i\u2019n si\u0175r a fydden i\u2019n cael medal gan ei fod yn cynnwys llawer o steil nad o\u2019n i wedi\u2019i ymarfer o\u2019r blaen yn cynnwys trefniadau cymhleth gydag estyniadau.<\/p>\n<p>\u201cRo\u2019n i\u2019n gwybod pa mor dalentog oedd y cystadleuwyr o Tsieina a Rwsia gan fy mod wedi cystadlu yn eu herbyn o\u2019r blaen yn ystod fy hyfforddiant. Fe wnes i\u2019n si\u0175r mod i\u2019n canolbwyntio ar fy ngwaith fy hun a pheidio \u00e2 gadael i unrhyw beth nac unrhyw un dynnu fy sylw.<\/p>\n<p>\u201cErs dychwelyd o Kazan, dwi wedi dechrau sylweddoli mod i wedi ennill ond mae\u2019n dal i fod fel breuddwyd. Dwi wedi cael galwadau gan fy ffrindiau a\u2019m teulu yn fy llongyfarch ar ennill y fedal efydd a dwi mor falch o\u2019r hyn dwi wedi\u2019i gyflawni.<\/p>\n<p>Meddai Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates: \u201cMae cael saith cystadleuydd o Gymru yn Nh\u00eem y DU yn dangos bod gennym bobl ifanc dalentog iawn yma yng Nghymru ac yn dangos cryfder cynyddol ein sylfaen sgiliau ledled y wlad.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r bobl ifanc hyn wedi cynrychioli Cymru a\u2019u cyflogwyr ar lwyfan byd-eang ac yn dangos ymrwymiad Cymru, fel gwlad, i fuddsoddi yng nghenedlaethau\u2019r dyfodol.<\/p>\n<p>\u201cMae dychwelyd adref gyda chwe medal, yn cynnwys medal efydd, yn glod i sgiliau, talent ac ymroddiad yr unigolion hyn ac rydym yn falch iawn o\u2019n cystadleuwyr o Gymru<\/p>\n<p><strong><a href=\"https:\/\/www.worldskillsuk.org\/\">Wefan WorldSkillsUK<\/a><\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae pobl ifanc dalentog o bob cwr o Gymru wedi\u2019u cydnabod fel arbenigwyr o safon byd yng nghystadleuaeth Worldskills International yn Rwsia. Dyma gystadleuaeth sgiliau mwya\u2019r byd ac fe\u2019i cynhaliwyd dros bedwar diwrnod yn Kazan gyda phobl &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/pobl-ifanc-o-gymru-wediu-henwi-ymysg-y-gorau-yn-y-byd-mewn-cystadleuaeth-sgiliau-ryngwladol\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[18],"tags":[],"class_list":["post-6902","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-worldskills-sioe-sgiliau"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6902","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6902"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6902\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6902"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6902"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6902"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}