{"id":6915,"date":"2019-09-13T16:45:32","date_gmt":"2019-09-13T15:45:32","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=6915"},"modified":"2019-09-13T16:20:04","modified_gmt":"2019-09-13T15:20:04","slug":"andrewn-goresgyn-rhwystrau-i-ddatblygu-gyrfa-ym-myd-ailgylchu","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/andrewn-goresgyn-rhwystrau-i-ddatblygu-gyrfa-ym-myd-ailgylchu\/","title":{"rendered":"Andrew\u2019n goresgyn rhwystrau i ddatblygu gyrfa ym myd ailgylchu"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/andrew-overcomes-challenges-to-build-a-career-in-recycling\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/andrewn-goresgyn-rhwystrau-i-ddatblygu-gyrfa-ym-myd-ailgylchu\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_11722\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2019\/09\/KFP_6136-e1568366746748.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-11722\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2019\/09\/KFP_6136-e1568366746748.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-11722\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-11722\" class=\"wp-caption-text\">Andrew Bennett (dde) gyda Vincent Thomas o Bryson Recycling, Abergele ac Amy Edwards, Swyddog Hyfforddi gyda Cambrian Training.<\/p><\/div>\n<p>Mae Andrew Bennett, sydd yn rownd derfynol y Gwobrau, yn benderfynol o beidio \u00e2 gadael i ddyslecsia na\u2019r ffaith ei fod wedi colli ei olwg mewn un llygad ei rwystro rhag cael gyrfa lwyddiannus.<\/p>\n<p>Mae\u2019r Cynghorydd Ailgylchu 51 oed o Abergele wedi cwblhau Prentisiaeth Sylfaen mewn Gweithgareddau Ailgylchu Cynaliadwy, mae\u2019n gweithio ar Brentisiaeth ac mae wedi dechrau mentora ei gydweithwyr.<\/p>\n<p>Bu hyfforddiant Andrew yn help iddo gael ei ddyrchafu\u2019n Oruchwylydd dros dro gyda Bryson Recycling sydd \u00e2 safleoedd ym Mochdre ac Abergele ac sydd wedi buddsoddi mewn hyfforddiant yn y gwaith iddo.<\/p>\n<p>Mae wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru y mis nesaf, sef y dathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau.<\/p>\n<p>Mae tri deg pedwar o unigolion a sefydliadau, mewn dwsin o gategor\u00efau, ar y rhestrau byrion ar gyfer y gwobrau a gyflwynir mewn seremoni fawreddog yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol newydd Cymru, Casnewydd ar 24 Hydref.<\/p>\n<p>Bwriad y gwobrau yw tynnu sylw at lwyddiant dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr gorau Cymru sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.<\/p>\n<p>Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a\u2019r prif noddwr eleni yw Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).<\/p>\n<p>\u201cPan ddaeth y cyfle i gychwyn ar y Brentisiaeth Sylfaen, roeddwn yn nerfus oherwydd y dyslecsia a\u2019r ffaith mod i wedi colli \u2019ngolwg ond roeddwn yn awyddus i roi cynnig arni,\u201d meddai Andrew, a gefnogwyd gan ei gyflogwr ac Amy Edwards, Swyddog Hyfforddi gyda\u2019r darparwr dysgu, Hyfforddiant Cambrian. <\/p>\n<p>\u201cDwi wedi datblygu awydd i ddysgu, sy\u2019n dipyn o syndod i mi, a dwi wedi symud ymlaen i wneud prentisiaeth a fydd yn rhoi cyfle i mi lwyddo yn fy ngyrfa. Ers i mi wneud y brentisiaeth dwi\u2019n credu ynof fi fy hunan ac yn fy ngallu i lwyddo.\u201d<\/p>\n<p>Ym mis Mawrth, roedd wrth ei fodd o ennill gwobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn yng Ngwobrau blynyddol Hyfforddiant Cambrian.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l cymryd rhan mewn cynllun gwneud iawn \u00e2\u2019r gymuned pan gafwyd ef yn euog o yrru\u2019n beryglus yn 2016, roedd yn awyddus i dalu yn \u00f4l am ei gamgymeriad, \u201cRo\u2019n i\u2019n benderfynol o fod yn batrwm i bobl eraill a dangos y gallwch droi\u2019r gornel ar \u00f4l gwneud camgymeriad a dwi wedi gweithio\u2019n galed i wneud hynny,\u201d esboniodd.<\/p>\n<p>Dywedodd Daniel McCabe, Goruchwyliwr Andrew yn Bryson Recycling: \u201cMae Andrew wedi rhagori yn ei hyfforddiant a\u2019i yrfa fel Cynghorydd Ailgylchu ac fel Goruchwyliwr dros dro ar ein safle yn Abergele.\u201d<\/p>\n<p>Llongyfarchodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Andrew a phawb arall oedd ar y rhestrau byrion. <\/p>\n<p>\u201cMae rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod rhagor o bobl yn datblygu\u2019r sgiliau a\u2019r profiad y gwyddom fod ar fusnesau eu hangen ym mhob sector o\u2019r economi yng Nghymru,\u201d meddai.<\/p>\n<p>\u201cMae Gwobrau Prentisiaethau Cymru\u2019n gyfle gwych i ddathlu ac arddangos llwyddiant yr unigolion a\u2019r sefydliadau disglair sy\u2019n ymwneud \u00e2\u2019r rhaglenni hyn, o brentisiaid a chyflogwyr, i ddarparwyr hyfforddiant a hyfforddeion.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae Andrew Bennett, sydd yn rownd derfynol y Gwobrau, yn benderfynol o beidio \u00e2 gadael i ddyslecsia na\u2019r ffaith ei fod wedi colli ei olwg mewn un llygad ei rwystro rhag cael gyrfa lwyddiannus. Mae\u2019r Cynghorydd Ailgylchu &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/andrewn-goresgyn-rhwystrau-i-ddatblygu-gyrfa-ym-myd-ailgylchu\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-6915","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6915","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6915"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6915\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6915"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6915"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6915"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}