{"id":6922,"date":"2019-09-13T16:55:48","date_gmt":"2019-09-13T15:55:48","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=6922"},"modified":"2019-09-13T16:41:49","modified_gmt":"2019-09-13T15:41:49","slug":"becws-brod-yn-cael-blas-ar-lwyddiant-diolch-i-brentisiaid","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/becws-brod-yn-cael-blas-ar-lwyddiant-diolch-i-brentisiaid\/","title":{"rendered":"Becws Br\u00f8d yn cael blas ar lwyddiant diolch i Brentisiaid"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/apprenticeships-give-brod-the-sweet-taste-of-success\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/becws-brod-yn-cael-blas-ar-lwyddiant-diolch-i-brentisiaid\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_11776\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2019\/09\/Press-Brod-1-e1568389002322.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-11776\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2019\/09\/Press-Brod-1-e1568389002322.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"287\" class=\"size-full wp-image-11776\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-11776\" class=\"wp-caption-text\">Sefydlydd Br\u00f8d, Betina Skovbro, gyda\u2019r staff y tu mewn i\u2019r becws Daneg.<\/p><\/div>\n<p>Dydi becws a siop goffi Daneg poblogaidd yng Nghaerdydd, Br\u00f8d, ddim wedi edrych yn \u00f4l ers iddynt gyflogi eu prentisiaid cyntaf yn fuan ar \u00f4l agor y busnes bedair blynedd yn \u00f4l.<\/p>\n<p>Sefydlwyd Br\u00f8d (The Danish Bakery Ltd), ar Wyndham Crescent yn ardal Pontcanna, gan Betina Skovbro. Ar hyn o bryd mae gan y busnes ddau brentis ac mae\u2019n tyfu\u2019n gyson, 26% yn 2017, 19% yn 2018 a disgwylir 10% eleni. Mae\u2019n ailfuddsoddi ei elw ac yn bwriadu ehangu yn y dyfodol.<\/p>\n<p>Mae\u2019r busnes wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Cyflogwr Bach y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru y mis nesaf, sef y dathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau.<\/p>\n<p>Mae tri deg pedwar o unigolion a sefydliadau, mewn dwsin o gategor\u00efau, ar y rhestrau byrion ar gyfer y gwobrau a gyflwynir mewn seremoni fawreddog yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol newydd Cymru, Casnewydd ar 24 Hydref.<\/p>\n<p>Bwriad y gwobrau yw tynnu sylw at lwyddiant dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr gorau Cymru sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.<\/p>\n<p>Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a\u2019r prif noddwr eleni yw Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). <\/p>\n<p>Un o Copenhagen yw Betina a sylwodd ar fwlch yn y farchnad am fecws a siop goffi\u2019n cynhyrchu ac yn gwerthu bara, tartenni a chacennau Daneg.<\/p>\n<p>A hithau\u2019n un o bedwar pobydd yno, mae\u2019n cyflogi dau oruchwyliwr blaen t\u0177 a 10 aelod o staff llawn amser, rhan amser a phenwythnos gan fod Br\u00f8d ar agor chwe diwrnod yr wythnos erbyn hyn. <\/p>\n<p>Prinder pobyddion medrus ac awydd i hyfforddi gweithwyr mewn technegau pobi Daneg a symbylodd Betina i gyflwyno Prentisiaethau Sylfaen a Phrentisiaethau mewn Hyfedredd yn Sgiliau\u2019r Diwydiant Pobi, a ddarperir gan Hyfforddiant Cambrian.<\/p>\n<p>Anogir y prentisiaid i roi cynnig ar syniadau newydd ac yn eu plith roedd torth surdoes Pappa G, Taste of India, a enillodd wobr Torth Orau Prydain yn nosbarth arloesi gornest Britain\u2019s Best Loaf eleni.<\/p>\n<p>\u201cErbyn hyn, mae prentisiaethau\u2019n rhan greiddiol o&#8217;n busnes,&#8221; meddai Betina. \u201cRydym wedi gweld drosom ein hunain gymaint mae ein prentisiaid wedi datblygu, eu sgiliau a\u2019u hyder wedi cynyddu a hwythau wedi tyfu fel pobl. <\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r rhaglen brentisiaethau wedi sicrhau bod gan y busnes yr hyder a\u2019r gallu i dyfu. Heb y rhaglen, fydden ni ddim yma.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Chris Jones, Pennaeth Uned Fusnes Bwyd a Diod Hyfforddiant Cambrian: \u201cMae Br\u00f8d yn enghraifft wych o\u2019r ffordd y gall rhaglen brentisiaethau helpu busnes ac mae Betina yn un o\u2019r cyflogwyr mwyaf brwd a welsom erioed. \u201d<\/p>\n<p>Llongyfarchodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Br\u00f8d a phawb arall oedd ar y rhestrau byrion. <\/p>\n<p>\u201cMae rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod rhagor o bobl yn datblygu\u2019r sgiliau a\u2019r profiad y gwyddom fod ar fusnesau eu hangen ym mhob sector o\u2019r economi yng Nghymru,\u201d meddai.<\/p>\n<p>\u201cMae Gwobrau Prentisiaethau Cymru\u2019n gyfle gwych i ddathlu ac arddangos llwyddiant yr unigolion a\u2019r sefydliadau disglair sy\u2019n ymwneud \u00e2\u2019r rhaglenni hyn, o brentisiaid a chyflogwyr, i ddarparwyr hyfforddiant a hyfforddeion.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Dydi becws a siop goffi Daneg poblogaidd yng Nghaerdydd, Br\u00f8d, ddim wedi edrych yn \u00f4l ers iddynt gyflogi eu prentisiaid cyntaf yn fuan ar \u00f4l agor y busnes bedair blynedd yn \u00f4l. Sefydlwyd Br\u00f8d (The Danish Bakery &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/becws-brod-yn-cael-blas-ar-lwyddiant-diolch-i-brentisiaid\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-6922","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6922","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6922"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6922\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6922"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6922"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6922"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}