{"id":6924,"date":"2019-09-13T18:30:13","date_gmt":"2019-09-13T17:30:13","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=6924"},"modified":"2019-09-13T17:09:29","modified_gmt":"2019-09-13T16:09:29","slug":"rhan-allweddol-gan-brentisiaid-yng-nghynlluniau-cwmni-logisteg-i-dyfu","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/rhan-allweddol-gan-brentisiaid-yng-nghynlluniau-cwmni-logisteg-i-dyfu\/","title":{"rendered":"Rhan allweddol gan brentisiaid yng nghynlluniau cwmni logisteg i dyfu"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/apprentices-playing-a-key-role-in-logistics-companys-growth-plans\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/rhan-allweddol-gan-brentisiaid-yng-nghynlluniau-cwmni-logisteg-i-dyfu\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_11734\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2019\/09\/29.08.19-mh-FLS-App-Awards-11-e1568369939946.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-11734\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2019\/09\/29.08.19-mh-FLS-App-Awards-11-e1568369939946.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-11734\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-11734\" class=\"wp-caption-text\">FLS Managing Director Ieuan Rosser with apprentices Louise Perry, Ben Jones and Emily Edwards<\/p><\/div>\n<p>Sicrhaodd cyfarwyddwyr cwmni rheoli cadwyni cyflenwi o Bont-y-p\u0175l, Freight Logistics Solutions (FLS), bod rhaglen brentisiaethau yn rhan allweddol o\u2019u cynllun busnes cyn lansio\u2019r cwmni dair blynedd yn \u00f4l.<\/p>\n<p>Mae\u2019r cwmni\u2019n arbenigo mewn cludo nwyddau dros y byd ar ffyrdd a\u2019r m\u00f4r ac yn yr awyr ac fe\u2019i lansiwyd mewn ymateb i Brexit, prinder gyrwyr ym Mhrydain a&#8217;r cynnydd yn y galw am gymorth i\u2019r sector logisteg. <\/p>\n<p>Mae\u2019r cwmni, sydd wedi\u2019i ariannu ei hunan ac sy\u2019n ymgeisio am achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl, wedi tyfu o fod yn gwmni o dri chyfarwyddwr i un \u00e2 30 o weithwyr, yn cynnwys cynllunwyr trafnidiaeth, staff gwerthu, staff marchnata a staff gweithredol. Y nod yw dyblu\u2019r trosiant a nifer y staff yn y pum mlynedd nesaf.<\/p>\n<p>Yn awr, mae FLS wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Cyflogwr Bach y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru y mis nesaf, sef y dathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau.<\/p>\n<p>Mae tri deg pedwar o unigolion a sefydliadau, mewn dwsin o gategor\u00efau, ar y rhestrau byrion ar gyfer y gwobrau a gyflwynir mewn seremoni fawreddog yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol newydd Cymru, Casnewydd ar 24 Hydref.<\/p>\n<p>Bwriad y gwobrau yw tynnu sylw at lwyddiant dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr gorau Cymru sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.<\/p>\n<p>Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a\u2019r prif noddwr eleni yw Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).<\/p>\n<p>Mae gan FLS saith prentis sy\u2019n dilyn Prentisiaeth mewn Gweinyddu Busnes a ddarperir gan Hyfforddiant Torfaen. Yn ogystal \u00e2\u2019r prentisiaethau, cynhelir rhaglen hyfforddi fewnol mewn rheoli logisteg a chadwyni cyflenwi. <\/p>\n<p>Trwy ymrwymo i brentisiaethau, gobaith y cwmni yw meithrin teyrngarwch y gweithwyr fel y bydd yn llwyddo i gadw staff medrus a bodlon. <\/p>\n<p>\u201cCafodd y rhaglen brentisiaethau ei chydnabod yn elfen bwysig o\u2019n cynllun gwreiddiol ar gyfer cychwyn y busnes,\u201d meddai\u2019r Rheolwr Gyfarwyddwr, Ieuan Rosser, sy\u2019n recriwtio prentisiaid ar sail eu potensial.<\/p>\n<p>\u201cRydym wedi gweld bod prentisiaid yn llawn egni ac yn wybodus a\u2019u bod yn dod \u00e2 bywiogrwydd a syniadau ffres i&#8217;r gweithle. Maen nhw\u2019n datblygu&#8217;n gyflym mewn busnes sy&#8217;n tyfu&#8217;n sydyn ac yn dod yn rhan hanfodol o weithrediad y cwmni o-ddydd-i-ddydd yn fuan iawn.  <\/p>\n<p>\u201cMae FLS wedi tyfu\u2019n fawr yn ei dair blynedd gyntaf ac felly mae\u2019r busnes wedi ennill nifer o wobrau ar gyfer busnesau sy\u2019n cychwyn. Fydden ni ddim wedi gallu tyfu fel hyn, darparu gwasanaeth o safon mor uchel na gweithredu ein strategaethau gwerthu heb y rhaglen brentisiaethau.\u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Nichole Stanley, Rheolwr Cyfrifon gyda Hyfforddiant Torfaen: \u201cMae FLS yn cynnig hyfforddiant mewnol ardderchog sy\u2019n ehangu sgiliau arbenigol y prentisiaid yn eu sector tra byddant yn gweithio i ennill cymwysterau. Mae wir yn amgylchedd rhagorol ar gyfer symud ymlaen.\u201d<\/p>\n<p>Llongyfarchodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, FLS a phawb arall oedd ar y rhestrau byrion. <\/p>\n<p>\u201cMae rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod rhagor o bobl yn datblygu\u2019r sgiliau a\u2019r profiad y gwyddom fod ar fusnesau eu hangen ym mhob sector o\u2019r economi yng Nghymru,\u201d meddai.<\/p>\n<p>\u201cMae Gwobrau Prentisiaethau Cymru\u2019n gyfle gwych i ddathlu ac arddangos llwyddiant yr unigolion a\u2019r sefydliadau disglair sy\u2019n ymwneud \u00e2\u2019r rhaglenni hyn, o brentisiaid a chyflogwyr, i ddarparwyr hyfforddiant a hyfforddeion.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Sicrhaodd cyfarwyddwyr cwmni rheoli cadwyni cyflenwi o Bont-y-p\u0175l, Freight Logistics Solutions (FLS), bod rhaglen brentisiaethau yn rhan allweddol o\u2019u cynllun busnes cyn lansio\u2019r cwmni dair blynedd yn \u00f4l. Mae\u2019r cwmni\u2019n arbenigo mewn cludo nwyddau dros y byd &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/rhan-allweddol-gan-brentisiaid-yng-nghynlluniau-cwmni-logisteg-i-dyfu\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-6924","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6924","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6924"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6924\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6924"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6924"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6924"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}