{"id":6927,"date":"2019-09-13T20:00:09","date_gmt":"2019-09-13T19:00:09","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=6927"},"modified":"2019-09-13T19:24:29","modified_gmt":"2019-09-13T18:24:29","slug":"gwestyn-meithrin-ei-brentisiaid-ei-hunan-er-mwyn-cynnal-ei-enw-da","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/gwestyn-meithrin-ei-brentisiaid-ei-hunan-er-mwyn-cynnal-ei-enw-da\/","title":{"rendered":"Gwesty\u2019n meithrin ei brentisiaid ei hunan er mwyn cynnal ei enw da"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/home-nurtured-apprentices-helping-maintain-hotels-high-reputation\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/gwestyn-meithrin-ei-brentisiaid-ei-hunan-er-mwyn-cynnal-ei-enw-da\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_11740\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2019\/09\/Harbourmaster-Hotel-52-e1568376375267.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-11740\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2019\/09\/Harbourmaster-Hotel-52-e1568376375267.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"343\" class=\"size-full wp-image-11740\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-11740\" class=\"wp-caption-text\">Y Rheolwr Cyffredinol, Dai Morgan (yn eistedd ar y chwith) gyda Phennaeth Lletygarwch Hyfforddiant Cambrian, Chris Bason, y Swyddog Hyfforddiant, Hazel Thomas a rhai o\u2019r prentisiaid, Ioan Davies, Zak Pegg, Ynyr Lloyd Jones, Steffan Walker a Megan Hawkins.<\/p><\/div>\n<p>Trwy ymrwymo i brentisiaethau, mae gwesty, bar a bwyty annibynnol ar lannau Bae Ceredigion yn llwyddo i gynnal gweithlu o 40 o weithwyr medrus a brwd.<\/p>\n<p>Nod Gwesty&#8217;r Harbourmaster yn Aberaeron, sydd \u00e2 13 o ystafelloedd gwely moethus, boutique, yw cynnig gofal ardderchog i&#8217;w gwsmeriaid a phrofiad rhagorol i ymwelwyr er mwyn cynnal yr enw da sydd ganddo ledled Prydain.<\/p>\n<p>Ar hyn o bryd, mae gan y gwesty 11 o brentisiaid, mae wedi hyfforddi 20 dros y pum mlynedd diwethaf ac mae\u2019n bwriadu cyflogi mwy yn y dyfodol.. Mae\u2019r darparwr dysgu Hyfforddiant Cambrian yn cynnig Prentisiaeth Sylfaen BIIAB Lefel 2, Prentisiaethau mewn Coginio Proffesiynol Lefel 2 a Lefel 3 a chyfleoedd i symud ymlaen i wneud Coginio Celfydd yr AAA, Goruchwylio ac Arwain Lletygarwch Lefel 3 a Rheoli Lletygarwch Lefel 4.<\/p>\n<p>Yn awr, mae\u2019r gwesty wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Cyflogwr Bach y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru y mis nesaf, sef y dathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau.<\/p>\n<p>Mae tri deg pedwar o unigolion a sefydliadau, mewn dwsin o gategor\u00efau, ar y rhestrau byrion ar gyfer y gwobrau a gyflwynir mewn seremoni fawreddog yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol newydd Cymru, Casnewydd ar 24 Hydref.<\/p>\n<p>Bwriad y gwobrau yw tynnu sylw at lwyddiant dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr gorau Cymru sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.<\/p>\n<p>Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a\u2019r prif noddwr eleni yw Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).<\/p>\n<p>Mae Gwesty\u2019r Harbourmaster yn ceisio goresgyn problem prinder sgiliau yn y diwydiant lletygarwch trwy feithrin ei staff medrus ei hunan gan ddefnyddio Rhaglen Brentisiaethau Llywodraeth Cymru.<\/p>\n<p>Mae\u2019r gwesty, sydd \u00e2 pholisi recriwtio cynhwysol, wedi datblygu cysylltiadau ag Ysgol Gyfun Aberaeron a Choleg Ceredigon er mwyn canfod gweithwyr posibl. <\/p>\n<p>\u201cRydym yn ymfalch\u00efo yn y ffaith ein bod yn meithrin ein staff ein hunain i gyrraedd eu potensial, gan roi cyfle iddyn nhw weithio yn eu sir enedigol a chyfrannu at economi\u2019r ardal,\u201d meddai\u2019r Rheolwr Cyffredinol, Dai Morgan. <\/p>\n<p>\u201cEin nod o\u2019r dechrau fu datblygu t\u00eem cryf yn yr Harbourmaster ac r\u0177n ni wedi llwyddo i wneud hyn oherwydd y cyfleoedd a gynigir gan brentisiaethau. <\/p>\n<p>\u201cMae hyfforddiant wrth weithio yn werthfawr i unrhyw fusnes gan ei fod yn galluogi\u2019r dysgwr i feithrin sgiliau a gwybodaeth yn y gwaith. Daeth yn amlwg fod aelodau o\u2019r staff sydd ar y Rhaglen Brentisiaethau\u2019n dangos gwelliant yn eu gwaith, mwy o ymroddiad i\u2019r swydd a hyder aeddfed wrth ymwneud ag ymwelwyr yn y gwesty. \u201d<\/p>\n<p>Dywedodd Chris Bason, Pennaeth Lletygarwch gyda Hyfforddiant Cambrian: \u201cMae Gwesty\u2019r Harbourmaster yn dangos sut y gall ymroddiad i raglen brentisiaethau esgor ar lwyddiant.\u201d<\/p>\n<p>Llongyfarchodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Westy\u2019r Harbourmaster a phawb arall oedd ar y rhestrau byrion. <\/p>\n<p>\u201cMae rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod rhagor o bobl yn datblygu\u2019r sgiliau a\u2019r profiad y gwyddom fod ar fusnesau eu hangen ym mhob sector o\u2019r economi yng Nghymru,\u201d meddai.<\/p>\n<p>\u201cMae Gwobrau Prentisiaethau Cymru\u2019n gyfle gwych i ddathlu ac arddangos llwyddiant yr unigolion a\u2019r sefydliadau disglair sy\u2019n ymwneud \u00e2\u2019r rhaglenni hyn, o brentisiaid a chyflogwyr, i ddarparwyr hyfforddiant a hyfforddeion.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Trwy ymrwymo i brentisiaethau, mae gwesty, bar a bwyty annibynnol ar lannau Bae Ceredigion yn llwyddo i gynnal gweithlu o 40 o weithwyr medrus a brwd. Nod Gwesty&#8217;r Harbourmaster yn Aberaeron, sydd \u00e2 13 o ystafelloedd gwely &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/gwestyn-meithrin-ei-brentisiaid-ei-hunan-er-mwyn-cynnal-ei-enw-da\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-6927","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6927","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6927"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6927\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6927"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6927"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6927"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}