{"id":6937,"date":"2019-09-16T13:53:43","date_gmt":"2019-09-16T12:53:43","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=6937"},"modified":"2019-09-16T13:53:43","modified_gmt":"2019-09-16T12:53:43","slug":"phoeben-goresgyn-dyslecsia-i-ddisgleirio-mewn-cystadlaethau-trin-gwallt-rhyngwladol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/phoeben-goresgyn-dyslecsia-i-ddisgleirio-mewn-cystadlaethau-trin-gwallt-rhyngwladol\/","title":{"rendered":"Phoebe\u2019n goresgyn dyslecsia i ddisgleirio mewn cystadlaethau trin gwallt rhyngwladol"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/hairdresser-phoebe-overcomes-dyslexia-to-star-on-world-stage\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/phoeben-goresgyn-dyslecsia-i-ddisgleirio-mewn-cystadlaethau-trin-gwallt-rhyngwladol\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_11817\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2019\/09\/Press-Phoebe-McLavy-e1568638342431.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-11817\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2019\/09\/Press-Phoebe-McLavy-e1568638342431.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-11817\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-11817\" class=\"wp-caption-text\">Phoebe McLavy sydd wedi troi diddordeb plentyndod yn yrfa mewn trin gwallt.<\/p><\/div>\n<p>Mae Phoebe McLavy wedi goresgyn dyslecsia wrth wireddu ei breuddwydion mewn cystadlaethau trin gwallt rhyngwladol.<\/p>\n<p>Dewiswyd Phoebe, 20 oed, sy\u2019n gweithio yn salon Morgan Edward, Caerfyrddin, i gynrychioli\u2019r Deyrnas Unedig yng nghystadleuaeth WorldSkills International yn Kazan, Rwsia, ym mis Awst ac enillodd fedal efydd yno.<\/p>\n<p>Yn ogystal, hi oedd pencampwr Salon Cymru 2018 ac enillodd fedal arian yn yr Her Sgiliau Fyd-eang yn Awstralia yn gynharach eleni.<\/p>\n<p>Yn awr, mae wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru y mis nesaf, sef y dathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau.<\/p>\n<p>Mae tri deg pedwar o unigolion a sefydliadau, mewn dwsin o gategor\u00efau, ar y rhestrau byrion ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru a gyflwynir mewn seremoni fawreddog yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol newydd Cymru, Casnewydd ar 24 Hydref.<\/p>\n<p>Bwriad y gwobrau yw tynnu sylw at lwyddiant dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr gorau Cymru sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.<\/p>\n<p>Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a\u2019r prif noddwr eleni yw Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).<\/p>\n<p>Mae Phoebe wedi cwblhau Hyfforddeiaeth a Phrentisiaeth Sylfaen mewn Gwallt yng Ngholeg Sir G\u00e2r, Llanelli ac mae wedi symud ymlaen i wneud Prentisiaeth erbyn hyn.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l cael trafferth \u00e2 dyslecsia yn yr ysgol, dewisodd Phoebe ddilyn gyrfa mewn trin gwallt, rhywbeth a fu\u2019n freuddwyd ganddi er pan oedd yn blentyn, a dechreuodd weithio yn salon Morgan Edward pan oedd yn 16 oed.<\/p>\n<p>\u201cRwy wrth fy modd yn fy ngwaith a gyda&#8217;r cyfleoedd rwy&#8217;n eu cael,&#8221; meddai. \u201cRwy\u2019n gallu dathlu\u2019r cryfderau sydd gen i o ganlyniad i\u2019r dyslecsia \u2013 rwy\u2019n meddwl am ffyrdd creadigol o fynd o gwmpas rhwystrau ac rwy\u2019n awyddus i ysbrydoli pobl eraill.\u201d<\/p>\n<p>Cafodd Phoebe ei hannog gan ei salon a\u2019i chynghorydd hyfforddiant, Andrea Leggatt, ac mae wedi cael profiad gwerthfawr o gystadlaethau ar lefel genedlaethol, Prydeinig a rhyngwladol. \u201cFyddwn i erioed wedi breuddwydio am wneud hyn ond rwy wedi magu hyder ac, yn bwysicaf oll, rwy wedi dod yn fwy medrus am drin gwallt,\u201d esboniodd Phoebe.<\/p>\n<p>Gan iddi ennill medal efydd yng nghystadleuaeth WorldSkills UK 2018 yn Birmingham, cafodd le yng ngharfan y Deyrnas Unedig ynghyd \u00e2 hyfforddiant dwys y bu\u2019n rhaid iddi ei ffitio o gwmpas ei gwaith yn y salon a\u2019i phrentisiaeth.<\/p>\n<p>Dywedodd Claire Mackerras, Pennaeth y Cwricwlwm yng Ngholeg Sir G\u00e2r fod Phoebe yn brentis eithriadol oedd yn arbennig o gydwybodol. \u201cEr bod ganddi ddyslecsia, mae wedi dysgu goresgyn rhwystrau a gwireddu ei breuddwydion a&#8217;i huchelgeisiau,&#8221; meddai. <\/p>\n<p>Llongyfarchodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Phoebe a phawb arall oedd ar y rhestrau byrion. <\/p>\n<p>\u201cMae rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod rhagor o bobl yn datblygu\u2019r sgiliau a\u2019r profiad y gwyddom fod ar fusnesau eu hangen ym mhob sector o\u2019r economi yng Nghymru,\u201d meddai.<\/p>\n<p>\u201cMae Gwobrau Prentisiaethau Cymru\u2019n gyfle gwych i ddathlu ac arddangos llwyddiant yr unigolion a\u2019r sefydliadau disglair sy\u2019n ymwneud \u00e2\u2019r rhaglenni hyn, o brentisiaid a chyflogwyr, i ddarparwyr hyfforddiant a hyfforddeion.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Mae Phoebe McLavy wedi goresgyn dyslecsia wrth wireddu ei breuddwydion mewn cystadlaethau trin gwallt rhyngwladol. Dewiswyd Phoebe, 20 oed, sy\u2019n gweithio yn salon Morgan Edward, Caerfyrddin, i gynrychioli\u2019r Deyrnas Unedig yng nghystadleuaeth WorldSkills International yn Kazan, Rwsia, &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/phoeben-goresgyn-dyslecsia-i-ddisgleirio-mewn-cystadlaethau-trin-gwallt-rhyngwladol\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-6937","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6937","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6937"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6937\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6937"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6937"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6937"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}