{"id":6970,"date":"2019-09-19T14:54:07","date_gmt":"2019-09-19T13:54:07","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/?p=6970"},"modified":"2019-09-19T15:33:36","modified_gmt":"2019-09-19T14:33:36","slug":"gwyddonydd-data-sydd-ar-restr-fer-gwobr-doniaur-dyfodol-yn-mapioi-yrfa","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/gwyddonydd-data-sydd-ar-restr-fer-gwobr-doniaur-dyfodol-yn-mapioi-yrfa\/","title":{"rendered":"Gwyddonydd data sydd ar restr fer gwobr Doniau\u2019r Dyfodol yn mapio\u2019i yrfa"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/tomorrows-talent-finalist-maps-out-his-future-as-a-data-scientist\">English<\/a> | <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/gwyddonydd-data-sydd-ar-restr-fer-gwobr-doniaur-dyfodol-yn-mapioi-yrfa\">Cymraeg<\/a><\/p>\n<div id=\"attachment_11843\" style=\"width: 470px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2019\/09\/06.09.19-mh-App-awards-Joe-Peskett-23-e1568901155725.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" aria-describedby=\"caption-attachment-11843\" src=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wp-content\/uploads\/2019\/09\/06.09.19-mh-App-awards-Joe-Peskett-23-e1568901155725.jpg\" alt=\"\" width=\"460\" height=\"307\" class=\"size-full wp-image-11843\" \/><\/a><p id=\"caption-attachment-11843\" class=\"wp-caption-text\">Joe Peskett, ar restr fer Gwobr Doniau&#8217;r Dyfodol, sy&#8217;n hoffi datblygu datrysiadau.<\/p><\/div>\n<p>Oherwydd ei lwyddiant ar Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Dadansoddi Data yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), mae Joe Peskett wedi cael teithio i Ewrop ac America, ac mae taith i Affrica ar y gweill y flwyddyn nesaf.<\/p>\n<p>Ac yntau\u2019n gweithio ar y Campws Gwyddor Data sy\u2019n rhan o Bencadlys yr ONS yng Nghasnewydd, lle mae 2,500 o weithwyr, fe wnaeth Joe yn rhagorol ar ei brentisiaeth dwy flynedd a llwyddoddi gael swydd lawn amser yn Wyddonydd Data.<\/p>\n<p>Yn awr, mae wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Doniau\u2019r Dyfodol yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru y mis nesaf, sef y dathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau.<\/p>\n<p>Bwriad y wobr newydd hon yw cydnabod prentis sydd \u2018wedi dangos cynnydd personol sylweddol\u2019 ac wedi rhoi \u2018hwb pendant a chadarnhaol i berfformiad sefydliad eu cyflogwr.\u2019<\/p>\n<p>Mae tri deg pedwar o unigolion a sefydliadau, mewn dwsin o gategor\u00efau, ar y rhestrau byrion ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru a gyflwynir mewn seremoni fawreddog yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol newydd Cymru, Casnewydd ar 24 Hydref.<\/p>\n<p>Bwriad y gwobrau yw tynnu sylw at lwyddiant dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr gorau Cymru sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.<\/p>\n<p>Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a\u2019r prif noddwr eleni yw Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).<\/p>\n<p>Roedd gwaith t\u00eem Joe ar \u2018Mapio\u2019r Goedwig Drefol\u2019 yn ei flwyddyn gyntaf yn cynnwys datblygu data, ar sail lluniau Google Street View, i ddadansoddi delweddau o goed ac ati ar strydoedd dinasoedd. O ganlyniad i hyn, datblygodd brototeip o ddyfais ddelweddu. <\/p>\n<p>Traddododd ddarlithoedd am ei waith arloesol wrth 800 o gynadleddwyr ym Mrwsel cyn symud ymlaen i weithio gyda th\u00eem Platfform Byd-eang y Cenhedloedd Unedig ac yna weithio yn Philadelphia ar y ffordd i ddefnyddio dyfeisiau ar y platfform newydd.<\/p>\n<p>Y flwyddyn nesaf, bydd Joe, sy\u2019n 25 oed, yn mynd i Rwanda i hyfforddi gwyddonwyr data i wneud gwaith a ddatblygwyd trwy Blatfform Byd-eang y Cenhedloedd Unedig i ddadansoddi delweddau lloeren.<\/p>\n<p>Dywedodd Alison Adams, Arweinydd Talent Datblygol yn yr ONS: \u201cMae Joe yn batrwm i brentisiaid eraill yr ONS ei ddilyn. Yn aml, mae\u2019n eu helpu i symud ymlaen ac mae bob amser yn barod i rannu gwybodaeth.\u201d<\/p>\n<p>Meddai Joe, sy\u2019n dod o Gaerdydd: \u201cY darparwr hyfforddiant ALS oedd yn cefnogi fy mhrentisiaeth. Cefais gyngor yn y gweithle gan fy nghynghorydd hyfforddiant Anu o ALS, ynghyd \u00e2 hyfforddiant technegol yng nghanolfan ALS. <\/p>\n<p> \u201cRwy wrth fy modd yn y gwaith achos mae heriau newydd yn codi\u2019n gyson. Rwy\u2019n mwynhau\u2019r cyffro pan fyddwch yn datrys materion ar \u00f4l ymdrechu\u2019n galed. Mae llawer o gydweithio yn y swydd \u2013 trafod problemau gyda chydweithwyr a rhannu syniadau.\u201d<\/p>\n<p>Llongyfarchodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Joe a phawb arall oedd ar y rhestrau byrion. <\/p>\n<p>\u201cMae rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod rhagor o bobl yn datblygu\u2019r sgiliau a\u2019r profiad y gwyddom fod ar fusnesau eu hangen ym mhob sector o\u2019r economi yng Nghymru,\u201d meddai.<\/p>\n<p>\u201cMae Gwobrau Prentisiaethau Cymru\u2019n gyfle gwych i ddathlu ac arddangos llwyddiant yr unigolion a\u2019r sefydliadau disglair sy\u2019n ymwneud \u00e2\u2019r rhaglenni hyn, o brentisiaid a chyflogwyr, i ddarparwyr hyfforddiant a hyfforddeion.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>English | Cymraeg Oherwydd ei lwyddiant ar Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Dadansoddi Data yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), mae Joe Peskett wedi cael teithio i Ewrop ac America, ac mae taith i Affrica ar y gweill y flwyddyn &hellip; <a href=\"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/gwyddonydd-data-sydd-ar-restr-fer-gwobr-doniaur-dyfodol-yn-mapioi-yrfa\/\">Darllen rhagor <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[16],"tags":[],"class_list":["post-6970","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwobrau-prentisiaethau-cymru"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6970","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6970"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6970\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6970"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6970"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ntfw.org\/wel\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6970"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}